A'i ddwylo mawr cyntefig
Gwarchodai borth yn ffyrnig,
Wrth borth y nef yn rhyfedd iawn
Roedd Pedr lawn mor styfnig.
Tîm Awyr Iach
Triban Beddargraff Bownser
I lu o rai, y drysau
A gaeaist a'th ysgwyddau;
'Rol bod dros ysgwydd pedwar gwr
'Sai'n siwr pa ddrws gei dithau.
Mallt Anderson
Tîm Caerdydd
Fe fydd portread o Feuryn Talwrn y Beirdd, Gerallt Lloyd Owen, yn cychwyn y gyfres Portreadau
ar S4C ar Nos Fercher, 10 Ebrill. Mae Gerallt yn un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru, yn byw
yn Arfon ers dros chwarter canrif, ond ym Meirion mae ei galon o hyd. Yn y rhaglen cawn weld
Gerallt yn dychwelyd i fro ei febyd, i'r siop a'r post yn y Sarnau lle'r oedd ei fam Jane Ellen Thomas
- Jini i'w chydnabod - y tu ol i'r cownter a'i dad Henry Lloyd Owen yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth
Amaeth. Fel yr esboniodd Gerallt gyda'i hiwmor arferol "Fy mam yn post officer a 'nhad yn pest
officer."
Ond i Sir Fon, ac Eisteddfod Llangefni 1957, mae'n rhaid troi am symbyliad i'w yrfa fel Meuryn.
Er ei fod yn llanc deuddeg oed, cafodd ei swyno gan y modd meistrolgar y llwyddai Rolant o Fon i
gyfuno sylwadau brathog gyda thipyn o hiwmor wrth lywyddu mewn ymryson.
Y Portreadau eraill yn y gyfres newydd hon fydd Aneurin Jones yr arlunydd, y tyddynwr a'r bardd
John Roderick Rees, y nofelydd Islwyn Ffowc Elis a'r Dr Gwyn Thomas, y bardd a'r academydd.