Kenya

Tymor yn Kenya

Tafod Elai Ebrill 1996


Mae Llio Penri yn treulio wyth mis ym mhentref Wundanyi yng nghefn-gwlad Kenya yn dysgu mewn ysgol gynradd. Aeth yno drwy drefniant mudiad Cristnogol “The Right Hand Trust” a gyda chymorth Capel Tabernacl, Efail Isaf a nifer o gyfeillion yr ardal. Dyma’i hargraffiadau o’i misoedd cyntaf.

MIS IONAWR
Helo! Sut mae pawb yng Nghymru. Mae pethau yn mynd yn reit dda i mi fan hyn yn Kenya. Mae'r bobl yma wedi bod yn groesawgar tu hwnt, ac yn barod iawn eu cymwynas. Mae dros wythnos wedi pasio ers i Becky, fy ffrind, a fi symud i fewn i'n cwt pridd ni, ac mae'n syndod pa mor gyflym mae amser yn hedfan heibio. Rydym ni wedi bod wrthi'n brysur yn glanhau, paentio ac ail-wampio'r lle yma tan ei fod erbyn hyn yn gartref reit gyffrous i'r ddwy ohonom ni. Mae mynyddoedd Taita yn brydferth tu hwnt. Mae'r tyfiant yn wyrdd ac yn ffrwythlon - coed bananas, mangos, palmwydd, a nifer o blanhigion 'tropical' eraill yn gorchuddio'r tir. Mae'r llwybrau a'r ffyrdd llwch yn orengoch llachar, toi y tai yn haearn "corrugated" coch, ar awyr yn lasach nag erioed o'r blaen. ANHYGOEL!
Mae hyd yn oed y nos yn gwbwl wych. Y sêr yn ddisglair ddisglair ac yn glir fel perlau yn y duwch, a'r lleuad mor llachar yn goleuo popeth. Dwi nawr wedi cwblhau fy wythnos gyntaf yn fy ysgol newydd, ac mae Miss Lio erbyn hyn yn aelod cyflawn, cyfartal o'r staff. Mae 8 blwyddyn ysgol yn ysgolion Kenya - 7 mlwydd oed tan 14 neu hyd yn oed 20 mlwydd oed! Ar ddiwedd y flwyddyn olaf, mae'r disgyblion yn gorfod sefyll arholiad - KCPE (Kenyan Certificate of Primary Education). Ysgol Mbauro (sef fy ysgol i) gafodd y canlyniadau gwaethaf yn yr ardal llynedd, ac felly mae nhw wirioneddol angen cymorth ac yn falch iawn o'm cael i yno.
Mae dros 700 o blant yn yr ysgol yn cerdded o’r pentrefi cyfagos. Mae safon 1, 2 a 3 yn cael eu dysgu gan athrawon parhaol, tra fod safon 4 - 8 yn cael athrawon pwnc. Dwi'n dysgu Saesneg, Cerdd, Celf a Gwyddor Cartref i Safon 6 a 7. Fe ddysgais i fy ngwers gyntaf i ddosbarth 6 - Saesneg. Fe aeth e'n eithaf da, ac fe ddysgais i lot fawr o'r un wers yna yn ogystal â'r plant. Mae’r eglwys ar fore Sul yn anhygoel (er ei fod e mewn Ki-Taita ac yn para 4 awr a hanner!) ond mae’r canu’n ffantastig a’r drymiau yn waw!


MIS CHWEFROR
Mae hi'n pistillio glaw ar hyn o bryd. Dydy hi ddim yn glawio'n aml yma, ond pan mae h'n glawio mae hi'n wirioneddol tywallt y glaw. Ac mae'r to "corrugated iron" yn gwneud i ni deimlo fel bod y glaw yn dod i fewn - mae hi mor swnllyd! Aeth Becky a fi i lawr i Wundanyi i siopa ddoe - digon o ddewis o lysiau a ffrwythau ond dydw i ddim yn hoffi’r siopau cig. Dydy’n coginio ni ddim yn ffôl o gwbwl - digon o fresych, tatws, winwns, tomatos, ‘chapatis’ - sef blawd maize, dwr a halen wedi eu cymysgu i greu toes ac yna rydych chi’n ei rolio fo i wneud cylchoedd mawr a’u ffrio nhw - hyfryd.
Prun bynnag, dwi erbyn hyn wedi setlo yn fy ysgol. Mae llawer o newidiadau wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe benderfynais fod gormod o wersi gen i ac nad oeddwn yn cael digon o amser i mi fy hun. Felly fe benderfynais i ollwng Gwyddor Cartref a Chelf. Roeddwn i'n mwynhau dysgu Celf ond mae tair awr ychwanegol yr wythnos yn gwneud byd o wahaniaeth. Felly erbyn hyn dwi lawr i 26 gwers yr wythnos (sydd yn dal i fod yn llawer mwy na phawb arall, ond mae'n nifer sy'n fy siwtio i).
Mae'r gwersi Saesneg a Cerdd yn mynd yn dda. Mae prinder mawr o lyfrau yma - 22 llyfr Saesneg i 80 o blant dosbarth 6, 1 llyfr i 80 o blant dosbarth 7, a dim un llyfr ar gyfer cerdd!! Ond dyna ni, dwi'n ymdopi rhywsut, ac yn cael hwyl arni. Erbyn hyn dwi'n dod i nabod nifer o'r plant, ac mae enwau megis Jerushah, Peris, Mercy, Lizzy, Idi, Bernard, Gibson . . . yn rolio oddi ar y tafod! Mae'r plant i gyd yn gorfod prynu llyfrau gwaith eu hunain, ac felly golygfa digon arferol yw gweld tudalennau ychwanegol wedi eu gwnio i fewn i'w llyfrau. Hefyd mae beiros a phensiliau yn eithaf drud, ac felly mae’r plant yn ysgwyd eu beiros yn wyllt i geisio cael pob dropyn o inc allan ohonynt.
Dwi 'di bod ar ddyletswydd yn yr ysgol drwy'r wythnos sy'n golygu codi am 5.30 bob bore er mwyn cyrraedd yr ysgol erbyn 6.50 i ofalu fod pob plentyn yn eistedd yn eu dosbarthiadau am 7 y bore. Mae pob plentyn sy'n cyrraedd yn hwyr yn cael tair ergyd o'r gansen ac hefyd mae unrhywun sy'n gwneud unrhyw swn rhwng 7 a 7:45 (pan mae'r gwasanaeth yn dechrau) yn cael y gansen. Yna fy ngwaith i oedd arwain y gwasanaeth a chadw trefn. Ar ddiwedd y dydd doeddwn i ddim yn gadael yr ysgol tan tua 5:15 a fi a Mr Mwambi oedd yn gofalu ar ôl y plant tan iddyn nhw i gyd fynd adre. Felly mae'r wythnos ddiwethaf yma wedi bod yn eithaf hectic ar y cyfan. Prynhawn ddoe fe aeth yr holl ysgol (800 o blant) draw i Ysgol Kungu i chwarae pel-rwyd, pêl-foli a phêl-droed. Ac am olygfa. Tua 1300 o blant yn bloeddio a sgrechian a chanu wrth wylio’r gemau. Roedd cyrraedd Kungu fel cyrraedd Mbauro ar y diwrnod cyntaf - pawb yn troi rownd i edrych ar yr unig ferch gwyn ei chroen - plant yn ceisio gweld pa mor agos allen nhw ddod ata i, plant eisiau eistedd drws nesaf i mi. Mae’n deimlad rhyfedd i fod yn ganolbwynt sylw pawb o hyd.
MIS MAWRTH
Wel mae Mawrth 1af wedi pasio ac am ddydd Gëyl Dewi hollol amazing - dwi 'di gweld eliffant - ie eliffant!! Fe wnes i adael yr ysgol ar ôl fy ngwers olaf bore dydd Gwener ac fe aeth Becky, Math a fi i Voi yn y gobaith o ddal Matatu i Taveta, ond yn ôl traddodiad Kenya - dim Matatu tan 9.00 pm!! Felly penderfynu mynd am dro i chwilio am Voi Safari Lodge (Tsavo East). Drwy lwc fe wnaethom ni weld staff bws y Lodge, ac felly fe es i i ofyn i'r gyrrwr os fydden ni'n gallu cael lifft yno. Ar ol esbonio ein bod ni'n wirfoddolwyr yn Taita, fe wnaeth e'n croesawu ni, ein gyrru ni yno, ac fe aethom ni i fewn i'r parc ar `residents prices’ sef 200/= (tua £2.20). Fe wnaeth e fynd â ni at y Lodge a gadael i ni ddefnyddio'r pwll nofio am ddim ac yno reit o flaen y pwll nofio roedd "water hole" gyda eliffantod, buffalos, zebras, gazelles a phob math o anifeiliaid eraill. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy llygaid. Roedd 2 deulu o 3 eliffant yn cerdded i ffwrdd i fewn i'r coed i gysgodi rhag yr haul - waw!!
Bore Sadwrn fe wnaethom ni ddal y tren am 5 o'r gloch i Taveta. Siwrnai anhygoel - gweld yr haul yn codi dros yr 'African Plains', ac yna teithio trwy Tsavo West a gweld Llewod a mwy o Zebras a hefyd pobol Masai gyda'u 'beads' a thyllau enfawr yn eu clustiau - anhygoel. Fe gyrhaeddom ni Taveta am tua 10am ac anelu am Lyn Chala tua 8km i ffwrdd. Fe ddaeth dynes gwyn mewn jip heibio a chynnig lifft i ni. Ffeindio allan ei bod hi wedi bod yn Kenya am 13 mlynedd fel dynes camera yn ffilmio'r anifeiliaid ar gyfer y gyfres 'Survival'. Fe gyrhaeddon ni Llyn Chala - sef llyn yng nghanol crater anferth, roedd o'n las, las gyda Kilimanjaro a'i frig yn wyn gan eira yn y cefndir. Mae tri chwarter y llyn yn Kenya a chwarter yn Tanzania. Cael lifft yn ôl i Taveta gan berchennog y lodge -dyn gwyn wedi ei eni yn Kenya ond wedi cael ei addysg ym Mryste. Fe roddodd e dipyn o hanes y wlad.
Mae'r ysgol yn mynd yn gret a dwi erbyn hyn yn arwain y côr ac wedi ymuno â chôr yr eglwys. Yn yr ymarfer diwethaf fe ganon ni gorws yr Haleliwia o'r Meseia - waw! Cyn bo hir fe fydd yn wyliau Pasg - toriad o ryw bedair wythnos.

Tudalen 1 Tafod Elai