Tafod Elai - Newyddion Menter Taf Elai

CANOLFAN DDIWYLLIANNOL TAF-ELÁI

Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed yn barod fod Menter Taf-Elái yn ystyried sefydlu "Canolfan Ddiwylliannol" yn hen swyddfeydd Cyngor Taf-Elái ym Mhontyclun. Mae Cyngor Taf-Elái wedi penderfynnu trosglwyddo`r eiddo i Fenter Taf-Elái er mwyn sefydlu canolfan ddiwylliannol ac rydym yn aros am ganiatad y Swyddfa Gymreig i fwrw ymlaen gyda`r prosiect.

Mae`r Fenter wedi ystyried sefydlu canolfan o ryw fath o`r blaen ond roeddem wedi gwrthod y syniad oherwydd y costau aruthrol sydd ynghlwm wrth redeg unrhyw ganolfan. Roedd ofn y byddai holl waith y Fenter yn mynd yn waith cynnal a chadw adeilad mawr gwag arall yn enw`r iaith Gymraeg. Y mae peryg yno o hyd wrth gwrs ond y mae gobaith hefyd y byddai cefnogaeth y Cyngor wrth drosglwyddo`r adeilad inni yn agor drysau cefnogaeth ariannol yr Uned Loteri ac efallai Ewrop hefyd pe bawn yn ddigon dewr i roi cynnig arni.

Mae Pwyllgor Gwaith y Fenter wedi penderfynu gwynebu`r her ac, os ydym yn cael caniatad y Swyddfa Gymreig, byddem yn ymdrechu i sefydlu canolfan newydd. I beth y mae rhai`n gofyn ? Onid oes gennym Glwb y Bont, a Chlwb Ifor Bach ? Wel, oes ond nid Tafarn neu glwb cymdeithasol byddai`r ganolfan. Onid oes gennym Ganolfannau`r Urdd ym Merthyr, Caerdydd ac Aberdar ? Wel, oes ond nid canolfan ieuenctid fel y cyfryw byddai`r ganolfan. Onid oes gennym gapeli ac ysgolion hefyd yn yr ardal? Oes ond nid ysgol nac addoldy fydd y ganolfan newydd.

Canolfan Ddiwylliant byddai`r ganolfan newydd a fyddai`n gartref i rai o weithgareddau presennol Menter Taf-Elái yn ogystal ag esgor ar rai newydd. Ein gobaith ydy sefydlu gweithdai yno megis gweithdy drama, gweithdy ysgrifennu, gweithdy radio ac efallai hyd yn oed gweithdy fideo a fyddai yn gyfrwng celfyddydol creadigol Cymraeg i`r gymuned gyfan. Gobeithio y bydd pethau eraill yno hefyd megis gwersi Cymraeg i oedolion neu gyrsiau cyfrwng Cymraeg eraill, swyddfeydd y Fenter, bar coffi bach efallai ac ystafelloedd gweithgareddau cyffredinol. Mae tipyn o ffordd i fynd eto ond rydym yn siwr y bydd defnydd da i`r ganolfan pe bai modd inni lwyddo i agor y drysau i`r gymuned. Edrychaf ymlaen at gael cyhoeddi fod y cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu.

CYNLLUNIAU CHWARE

Cafwyd canmoliaeth i blant y Fenter yn ddiweddar oherwydd eu bod yn siarad cymaint o Gymraeg! Hoffwn i ddiolch i staff y cynlluniau chwarae sydd wedi sicrhau fod ein plant yn mwynhau chwarae yn y Gymraeg yn ystod eu gwyliau. Bydd cynllun arall ar agor yn ystod gwyliau hanner tymor yr Haf - manylion ar gael o swyddfa`r Fenter.

GWERSI NOFIO

Braf oedd croesawu cymaint o blant i wersi nofio`r Fenter yn ysgol Rhydfelen. Unwaith eto rydym yn ddiolchgar iawn i`r ysgol am ganiatau inni ddefnyddio`r cyfleusterau gwych sydd ganddynt yno.

POB LWC DELYTH JOHNSON - SWYDDOG DATBLYGU MUDIAD MEITHRIN

Dwn i ddim beth sy`n bod ar swyddfa`r Fenter! Dim ond mis yn ôl buon ni`n ffarwelio â Lowri Devonald ac nawr rydym yn ffarwelio a`n swyddog clerigol sydd eisioes wedi dechrau gyda Mudiad Meithrin. Llongyfarchiadau iddi hi a phob lwc, rydym yn dymuno yn dda iddi yn ei gwaith. Oes rhywun eisiau gweithio inni dywed ? Mae hysbyseb ar un o dudalennau Tafod Elái..

DIOLCH JUDITH

Mae sawl un wedi bod ar brofiad gwaith yn swyddfa`r Fenter. Rhai o`r ysgolion, rhai o`r colegau a rhai o faes dysgu Cymraeg. Mae gwir angen help arnom ac y mae yn bendant yn brofiad i weithio yn swyddfa`r Fenter. Hoffwn i ddiolch i Judith Green oedd wedi gwneud oriau ac oriau o waith gwych inni dros gyfnod go hir.

Cwrs Cyfieithu ar y pryd

Yn ystod mis Ionawr a Chwefror cynhaliwyd cwrs cyfieithu ar y pryd ym Mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd. Trefnwyd y cwrs gan Fenter Taf Elái er mwyn annog pobl i roi cynnig ar gyfieithu ar y pryd a gofynwyd i Elin Tudur ei gynnal.
Mae gan Fenter Taf Elái offer cyfieithu sy'n hynod o hwylus i'w ddefnyddio ac i'w gludo i gyfarfodydd. Y broblem yn aml iawn wrth gwrs yw cael rhywun sy'n fodlon cyfieithu yn y cyfarfodydd hyn. Pwysleiswyd o'r cychwyn mai nid cwrs ar gyfer cyfieithwyr proffesiynol oedd hwn. Y syniad oedd rhoi blas i bobl ar y dechneg o gyfieithu ar y pryd gan roi hyder iddynt gynnig gwasanaeth i gymdeithasau lleol. Cynhaliwyd chwe sesiwn dwy awr o hyfforddiant a daeth dwsin o bobl ar y cwrs. Chwilfrydedd a diddordeb cyffredinol yn y maes oedd wedi symbylu'r rhan fwyaf o'r criw i fynychu'r cwrs. Ar y dechrau roedd pawb yn eithaf pryderus ac ofnus wrth feddwl am y syniad ond buan iawn y daeth pob un yn gartrefol. Cafwyd cryn hwyl arni a phawb yn fodlon mentro a rhoi cynnig ar ddefnyddio'r offer. Mae nifer o'r rhai a fynychodd y cwrs eisoes wedi cael cyfle i ymarfer eu dawn - a'r newyddion da ydy eu bod yn fodlon rhoi cynnig arni eto! Felly, beth amdani gymdeithasau, mudiadau ac ysgolion yn ardal Taf Elái? Gallwch ffonio swyddfa'r Fenter i holi os yw'r offer ar gael a chael enw cyfieithydd ar yr un pryd i roi gwasanaeth yn eich cyfarfodydd.

TEITHIAU CERDDED

Mae clwb cerdded Cymraeg Taf-Elái wedi ail agor am yr Haf gyda nifer o deithiau wedi’u trefnu`n barod:-
2.30pm Sul 19 Mai Tafarn y Cwîns Penycoedcae
2pm Sul 16 Mehefin Ysbyty`r Bwthyn Pontypridd
Mis Gorffennaf Twyni Tywod Merthyr Mawr
Manylion: David Knight 01222 891353 Swyddfa`r Fenter 01443 226386 Taith gerdded noddedig i godi arian at grantiau dysgwyr y Fenter fydd y daith ar 16eg Mehefin. Mae ffurflenni noddi ar gael o swyddfa`r Fenter. A fyddai modd i bob tiwtor Cymraeg i oedolion neu Gymraeg yn ail iaith bwyso ar eu dosbarthiadau i gefnogi`r diwrnod ? Mae gwir angen


I Tudalen Blaen