Tafod Elai - PRIF NEWYDDION


AGOR CANOLFAN I DDATBLYGIADAU NEWYDD

Ym mis Mai agorir canolfan newydd ar safle Glofa’r Navigation yn Abercynon fydd yn gartref i gwmniau technolegol sy’n datblygu nwyddau newydd. Disgwylir i’r ganolfan roi hwb i’r gobaith am swyddi yn y cymoedd drwy roi cymorth i ddyfeiswyr a datblygwyr syniadau i gael cymorth technegol a chyngor am sefydlu busnes cyn ehangu a symud i adeiladau mwy. Mae’r ganolfan £2miliwn wedi ei godi gan Gyngor Sir Morgannwg Ganol gyda chymorth Awdurdod Datblygu Cymru.

AR Y WE BYD-EANG

Mae Tafod Elái wedi symud i’r oes cyber a gellir darllen newyddion o’r ardal ar y gwe byd- eang. I’r rhai sydd yn syrffio’r traffordd wybodaeth ceir gyfle i daro i mewn ar fywyd Cymraeg yn Nhaf Elái. Hefyd fydd y safle yn casglu cysylltiadau gyda’r holl wasanaethau Cymraeg eraill ar yr Internet. Galwch i weld Tafod Elái ar ei newydd wedd yn: http://ourworld.compuserve.com/homepage/Tafodelai

Rhagor o Arian o Ewrop

Cyhoeddwyd cynllun £22m i roi hwb i economi’r Cymoedd ar ddiwedd mis Mawrth. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella’r amgylchedd mewn trefi megis Pontypridd, Aberdâr a Thonypandy ac hefyd i greu canolfan busnes newydd ym Mhrifysgol Morgannwg. Bydd rhan o’r arian yn mynd i wella rheilffyrdd y cymoedd ac i wneud y siwrnai i Gaerdydd 10 munud yn gynt. Daw’r arian mewn buddsoddiad gan y Swyddfa Gymreig ac mewn cefnogaeth ychwanegol o £7.55m o gronfeydd y Gymuned Ewropeaidd. Croesawyd y buddsoddiad o £3m i wella Pontypridd gan Owain Llywelyn, Cadeirydd Fforwm y dref, “Mae’n hanfodol rhoi’r neges cywir i fyd masnach. Bydd y buddsoddiad yn denu masnachwyr a thwristiaid i’r dref”.

I Tudalen Blaen