Tafod Elai Tudalen 2

MORGANNWG YN DIFLANNU

Bu'r enw Morgannwg yn rhan o fywyd llywodraeth leol y sir am dros ganrif ond ar ddiwedd mis Mawrth daeth teyrnasiad Cynghorau Sirol Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg i ben. Fe rannwyd yr hen Forgannwg yn dri yn 1974 ar ddiwedd cyfnod o lywodraethu gan un o gymeriadau'r Sir - y Cynghorydd Llywelyn Heycock. Fe ddaeth yr hen Gyngor Sir i ben o dan gwmwl yr achosion llwgr-wobrwyo yn erbyn y Cynghorydd Westwood o'r Porth.

Daeth 85 o gynghorwyr i Gyngor newydd Morgannwg Ganol o Borthcawl i Gaerffili o Benderyn i Bentyrch. Ar mwy nag un achlysur bu Neuadd y Sir yn safle brwydrau yn erbyn chwareli, safleoedd glo brig, heolydd newydd ac ysgolion Cymraeg a bu bwydro cyson rhwng y cynghorwyr o'r gwahanol ardaloedd. Yn ben ar y cyfan oedd y diweddar Gynghorydd Phillip Squire, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg ac Arweinydd y Grëp Llafur. Bu rhaid iddo gadw'r ddisgyl yn wastad ar nifer o achlysuron.

Ymhlith polisiau'r Cyngor Sir oedd y bwriad i agor Unedau Cymraeg mewn ysgolion cynradd Saesneg. Y Cyngorydd Brynmor Jones o Bontypridd oedd un o brif gefnogwyr y polisi ac fe geisiwyd ar un achlysur ehangu'r syniad o Unedau i agor Uned Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Saesneg. Ond fe ddaeth y polisi unedau i ben yn dilyn brwydr dewr trigolion Ynysybwl a Glyncoch a'u safiad dros gael ail Ysgol Gymraeg ym Mhontypridd.

Ers hynny mae’r Cyngor Sir wedi ymfalchio yn ei bolisi tuag at yr iaith gan agor nifer o ysgolion cynradd newydd a’r pumed ysgol gyfun newydd wrth i Ysgol Gyfun Rhydywaun agor y flwyddyn ddiwethaf. Yn agoriad swyddogol Ysgol Rhydywaun y mis diwethaf apeliodd y Brifathrawes, Mrs Catherine Davies, ar i gyngor newydd Rhondda Cynon Taf roi’r un cyfle i ddatblygu’r iaith ac a gafwyd o dan reolaeth Cyngor Sir Morgannwg Ganol.

DEWI BEBB

Bu farw'r cyn-chwaraewr rygbi Dewi Bebb yn 57 oed yn dilyn gwaeledd hir. Fe chwaraeodd 34 o weithiau dros Gymru yn y '60au. Bu'n athro cyn troi at yrfa lwyddiannus fel cyfarwyddwr teledu gyda HTV. Enillodd ei gap rygbi cyntaf pan yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ar yr asgell i Gymru yn 1959.Fe sgoriodd gais yn ei gêm ryngwladol gyntaf. Yn enedigol o Fangor roedd yn un o'r chwaraewyr prin ddaeth o'r Gogledd i wneud eu marc ar Rygbi yng Nghymru. Enillodd 34 o gapiau a chynrychioli'r Llewod mewn 8 gem brawf.

Bu’n byw yn Nhonysguboriau am nifer o flynyddoed a daeth yn gyfarwydd i nifer o drigolion yr ardal fel cyd-weithiwr ym myd teledu ac addysg a thrwy ei ddiddordeb ym myd golff. Talwyd teyrnged arbennig iddo fel dyn bonheddig, urddasol, a chyfeillgar gan Don Llywelyn, Pentyrch, un o’i gyd-weithwyr yn HTV.

I Tudalen Blaen