Tafod Elai - PRIF NEWYDDION


Annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith am i siaradwyr Cymraeg yr ardal - yn unigolion, cymdeithasau a sefydliadau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymwneud dyddiol â gwasanaethau’r cynghorau sirol newydd. Wrth i’r cynghorau newydd ddechrau cael trefn ar eu gweinyddiaeth mae’n bwysig fod galw pendant gan y cyhoedd am wasanaethau digonol yn y Gymraeg. Bydd rhaid i’r cynghorau newydd baratoi cynlluniau iaith manwl a disgwylir i Gyngor Rhondda Cynon Taf gyflwyno eu cynllun ym mis Hydref. Yn barod cyhoeddwyd y rhan fwyaf o ddogfennau a biliau trethi’r cyngor yn ddwyieithog ac mae’n amlwg fod cefnogaeth ymhlith gweithwyr y Cyngor i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Ond mae pryder nad yw’r Cynghorwyr wedi dangos yr un brwdfrydedd - yn barod mae Cyngor Caerdydd wedi “rhewi” gwaith eu Swyddog Datblygu’r Gymraeg ac mae’n bosib mai yr un fydd tynged Swyddog Taf Elái. Mi fydd y misoedd nesaf yn allweddol bwysig ar gyfer darparu adnoddau drwy’r Gymraeg yn yr ardal hon.

“D” I’r Dysgwr

Ers dechrau mis Ebrill mae gan y sawl sy’n dysgu gyrru yr hawl i ddefnyddio plât â’r llythyren D arno yn hytrach na’r platiau L presennol. Gyda’r newid hwn mewn golwg mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Y Gymdeithas Hyfforddwyr Gyrru a’r Gymdeithas Ysgolion Moduro, yn ogystal â nifer o brif ysgolion moduro’r wlad, yn gofyn iddynt wneud defnydd llawn o’r cyfleuster hwn ac ymateb i’r gefnogaeth i’r iaith Gymraeg a welir ledled Cymru, gan Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg fel ei gilydd.

CEFNOGI’R FFERMWYR

Mae cefnogaeth gref i achos y ffermwyr yn dilyn camweinyddu’r Llywodraeth wrth ymdrin â’r clefyd BSE. Mae’r argyfwng yn taro yn uniongyrchol ar ein cymunedau gwledig ac fe ddylai’r Llywodraeth weithredu’n gyflym i ddiogelu unigolion a chymunedau sy’n dibynnu ar y diwydiant amaethyddol. Gallai unrhyw niwed i’r diwydiant hwn fod yn ergyd drom i’r cymunedau hyn ac i’r Gymraeg. Yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar galwyd ar y Llywodraeth i dalu iawndal i ffermwyr am unrhyw golledion ariannol. Dywed Gareth Kiff, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, “Ni ddylai ffermwyr Cymru fod yn fuchod dihangol oherwydd anallu y Llywodraeth Seisnig i ddelio â’r sefyllfa’n foddhaol flynyddoedd yn ôl”.

I Tudalen Blaen