[IMAGE]

Ysgolion Taf Elai


Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant

Dathlu Gwyl Ddewi
Dathlwyd yr Wyl eleni trwy gynnal Eisteddfod Ysgol. Bu'r plant yn cystadlu ar rai o eitemau Eisteddfod yr Urdd ac aeth nifer ymlaen i Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Llanhari ar 16 Mawrth. Cafwyd nifer o lwyddiannau yno hefyd a fydd yn mynd ymlaen i'r Eisteddfod Sir.
Cyngerdd
Bu nifer o blant Dosbarth 7 yn cynrychioli'r ysgol mewn cyngerdd yn Aberdâr i ddathlu pumed pen blwydd ar hugain y Mudiad Ysgolion Meithrin.
Uned 5
Bu Uned 5 ar ymweliad â'r ysgol yn ddiweddar, gyda gwestai arbennig, sef Rupert Moon. Cafodd y plant fathodynnau lu a chyfle i gymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau.
Wythnos Wyddoniaeth
Aeth plant blwyddyn 6/7 i'r Amgueddfa Ddiwydiant a Môr yng Nghaerdydd i weld yr arddangosfa ar y Llychlynwyr, ac yna ymlaen i'r Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays i gymryd rhan mewn gweithdy. Cawsant lawer o hwyl yng nghanol y chwilod! Bu cyfle hefyd i fynd i Ganolfan Hamdden y Ddraenen Wen i gymryd rhan mewn gweithdy ar yr amgylchfyd, gan ailgylchynu llawer o ddefnyddiau, tuniau ac ati.
Cymdeithas Rieni
Cynhaliwyd Noson Rasys nos Wener, 15 Mawrth, a llwyddwyd i godi £400 i'r ysgol.

YSGOL GYNRADD DOLAU

EISTEDDFOD YR URDD Bu llawer o blant yn cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Llanhari ar ddydd Sadwrn, 16 Mawrth, a dymunwn bob llwyddiant i'r plant a fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Sir ym Mhorthcawl.
DYDD GWYL DEWI Bu cystadlu brwd yn ein Heisteddfod ar ddydd Gëyl Ddewi. Dymunwn longyfarch Robin Kovacs am ennill y tlws rhyddiaeth a Stacy Lilico am ennill y gadair. Glyndwr oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cor a'r tí buddugol oedd Hywel. Enillwyd medalau a thlysau gan y canlynol. Tlws Ymdrech - Debi Miles. Tlws Cerddoriaeth - Andrea Perkins. Tlws offerynnol - Gemma Webb. Tlws Adrodd - Sarah Bush. Tlws Rhyddiaeth Blwyddyn 3/4 - Amanda Williams. Bu cyngerdd y babanod yr un mor bleserus a llwyddiannus. Buont wrthi hefyd yn y prynhawn yn gwerthu pice ar y maen a'r elw yn mynd at Uned Babanod Ysbyty Dwyrain Morgannwg.
LLANGRANNOG Bu nifer o blant o Adran Saesneg yr ysgol yn mwynhau penwythnos yn Llangrannog ac yn ôl ym mis Ionawr aeth tua tri deg o blant o'r Adran Gymraeg am eu penwythnos hwy. Mawr oedd y mwynhad a'r pleser ar y ddau achlysur.
CYSYLLTIADAU Dymunwn ddiolch am wahoddiadau gan Ysgol Gyfun Llanhari ac Ysgol Uwchradd Pencoed i'w cynhyrchiadau diweddaraf "Oliver" gan Ysgol Pencoed a "Culhwch ac Olwen" gan Ysgol Llanhari. Roedd y ddau berfformiad yn wefreiddiol ac yn wledd i'r llygaid. Braf oedd gweld cynifer o gyn- ddisgyblion yn y ddau gynhyrchiad.
YMWELYDD Bu "Buzter" neu Mr Gary Mason o Barc Dreftadaeth y Rhondda yn ymweld â phlant Blwyddyn 6. Roedd y plant i gyd wedi eu swyno a "Buzter" tipyn o gymeriad. Cafwyd aml i stori ddifyr ganddo a braf oedd cael ychydig o hiwmor iach y glowr i'r ystafell ddosbarth.
CHWARAEON Carwn longyfarch y tîm Rygbi ynghyd â'r tîm Pêl Rwyd am eu llwyddiant diweddaraf. Llongyfarchiadau hefyd i Lyndsey Maund am gynrychioli Ysgolion Morgannwg Ganol yn Abertawe mewn cystadleuaeth gymnasteg o dan 11 oed.

YSGOL PONT SION NORTON

Canlyniadau’r Eisteddfod Gylch
Llefaru dan 8 oed: 1af Lowri John 2il Beti Thomas. Unawd dan 8: 1af Georgina Thomas, 2il Gwenno Jones. Llefaru dan 10: 2il Berwyn Pearce 3ydd Gavin Slater. Unawd dan 10: 1af Berwyn Pearce, 3ydd Menna Rogers. Unawd dan 12: 3ydd Sarah Harris. Alaw Werin dan 12 1af Aled Jones, 2il Sarah Harris, 3ydd Catrin Isaac. Parti Llefaru dan 12 oed 2il Ysgol Pont Sion Norton. Parti Unsain 3ydd Ysgol Pont Sion Norton. Côr: 1af Ysgol Pont Sion Norton. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu a phob lwc i’r buddugwyr yn yr Eisteddfod Sir yn Aberdâr.
DRAMAU Bu Cwmni Drama o Lydaw yn ymweld â’r ysgol ar Fawrth 20fed i berfformio stori “Y Brenin Marc” i flynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Difyrrwyd yr ysgol i gyd gan Gwmni Canol y Ffordd gyda’u perfformiad o “Blentyn Amser”.
UNED 5 Bu tipyn o gyffro yn yr ysgol brynhawn Iau Mawrth 14eg pan ddaeth criw Uned 5 i’r ysgol heb yn wybod i’r plant. Eu gwestai arbennig oedd Rupert Moon sydd yn adnabyddus i’r ran fwyaf o’r plant ond yn enwedig i Rebecca a Sara Lane sydd yn byw drws nesa’ iddo.
YMWELIADAU ADDYSGOL Bu’r dosbarthiadau canlynol ar ymweliadau addysgol yn ddiweddar:- Bl 3/4 Techniquest a’r Amgueddfa. Bl 4/5 Yr Amgueddfa Môr. Bl 5/6 Gweithdy Amgylchedd yng Nghanolfan y Ddraenen Wen.
Y PASG Cynhelir Disgo Pasg yr ysgol ar nos Iau Ebrill 4ydd. Fe fydd y plant i gyd yn gwiso eu hetiau Pasg gan ein bod yn cynnal cystadleuaeth “Hetiau Pasg” eleni eto.
DYDD GWYL DEWI Cynhaliwyd Cyngerdd yn yr ysgol ar fore Dydd Gëyl Ddewi ac yn ystod y gyngerdd fe wobrwywyd Llenor yr Ysgol sef Emily John, Blwyddyn 5. Fe gyflwynwyd llwy garu i Emily yn wobr am ei gwaith.
DATHLU MYM Bu Sara Anthony a Gareth King yn cynrychioli’r ysgol yn noson ddathlu 25ain mlynedd Ysgolion Meithrin a gynhaliwyd yn Aberdâr yn ddiweddar.

YSGOL EVAN JAMES

Aeth dosbarthiadau Mrs Caffrey a Mr Thomas ar ymweliad â’r Amgueddfa Diwydiant a Môr a gweld sioe gan Gwmni Spectacle ym mis Mawrth. Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn yr Eisteddfod Gylch a phob lwc i Osian, Trudi a Bethan Mai yn y Sir.
Bu Huw ac Aled Wilcox yn cynrychioli’r ysgol yn noson o ddathlu 25ain mlynedd Mudiad Ysgolion meithrin a gynhaliwyd yn Aberdâr yn ddiweddar. Daeth y chwaraewyr rygbi Gwyn Jones a Huw Harries i sgwrsio â’r plant yn ddiweddar. Difyrrwyd ys ysgol i gyd gan Gwmni Canol y Ffordd gyda’i perfformiad o “Blentyn Amser”.
PRIODAS
Dymuniadau gorau i Anwen Arnold, athrawes Blwyddyn 6 sy’n priodi Dave Robbins yn ystod gwyliau’r Pasg.
ADRAN Y GRAIG Aeth dros hanner cant o blant gyda chriw o athrawon i ddathlu diwedd y tymor ym mhwll nofio y Rhondda Fach yn Nhylorstown.

YSGOL HEOL Y CELYN

YMWELIADAU Fe fu blynyddoedd 3, 4 a 5 yn ymweld â Chaerdydd, y Barri a Phontypridd yn ddiweddar mewn cysylltiad â'u themau y Byd a'r Betws a Mannau Diddorol. Aeth Blwyddyn 6 i Gastell Caerdydd.
CYNGERDD GWYL DEWI Fe fu plant o'r Adran Babanod a'r Iau yn mwynhau cyngerdd yn y neuadd ar brynhawn dydd Gëyl Dewi.
DAWNSWYR Treuliodd y dawnswyr fore yn Ysgol Gynradd y Goetre fel rhan o wythnos Gymreig yr ysgol.
EISTEDDFOD GYLCH YR URDD Cafodd yr ysgol lwyddiant yn eisteddfod gylch yr Urdd a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Coed y Lan ar Fawrth 9fed yn yr eitemau canlynol:- Llefaru dan 8, Llefaru dan 10, Grwp llefaru iaith gyntaf. Grëp llefaru i ddysgwyr. Ymgom i ddysgwyr. Ymgom iaith gyntaf. Parti Unsain. Parti deulais. Côr Adran Ilan. Llongyfarchiadau iddynt.

YSGOL GYMRAEG GARTH OLWG


EISTEDDFOD GYLCH YR URDD Bu cystadlu brwd eto eleni yn yr Eisteddfod gylch yn Llanhari ar ddydd Sadwrn, Mawrth 16eg. Gwnaeth y plant eu gwaith yn arbennig o dda a chafwyd pleser o wrando arnynt yn cystadlu yn y gwahanol gystadlaethau. Diolch i bawb a fu yn helpu gyda'r hyfforddi - yr athrawon, rhieni a ffrindiau'r ysgol.
Y rhai a ddaeth i'r brig oedd - Unawd dan 8 oed: 1af Lloyd Halliday. 3ydd Seren Thomas. Unawd 8 - 10 oed: 1af Laura Waring, 2il Lisa Jones. Llefaru 8 - 10 oed: 2il Alun Roberts. Cerdd Dant 8 - 10 oed: 1af Lisa Jones, 2il Alun Roberts. Llefaru 10 - 12 oed: 2il Carwyn Hedd Siôn. Cerdd Dant 10 - 12 oed: 1af Carwyn Hedd Siôn, 2il Ceren Roberts. Unawd Alaw Werin dan 12 oed: 1af Rhydian West. Deuawd dan 12 oed: 2il Bethan Williams a Dylan Hughes. Unawd Pres dan 12 oed: 2il Carwyn Hedd Sion. Unawd Chwythbrennau dan 12 oed: 1af Dylan Hughes, 3ydd Lowri Green. Parti Unsain dan 12 oed: 1af. Parti Deulais dan 12 oed: 1af. Grwp dawnsio disgo dan 12 oed: 2il. Côr dan 12 oed: 2il. Parti llafar dan 12 oed: 2il. Hefyd dyfarnwyd fod y grwp dawnsio gwerin dan 12 oed a'r Parti Cerdd Dant dan 12 oed yn llawn haeddu mynd i'r Eisteddfod Sir. Pob dymuniad da i'r rhai fydd yn mynd ymlaen i'r Eisteddfod Sir ym Mhorthcawl ar ddydd Sadwrn, Mawrth 30ain.
PENBLWYDD Y MUDIAD MEITHRIN YN 25 OED Cynrychiolwyd yr ysgol yn y cyngerdd yn y Coliseum yn Aberdar gan Carwyn Hedd Siôn a Lowri Green.
CWRS CRICED Treuliodd Darren Coombs, un o fechgyn Blwyddyn 5, gyfnod buddiol a diddorol ar gwrs criced yng Nghanolfan Ogwr yn ddiweddar.
DISGO'R TEULU Cynhaliwyd Disgo'r Teulu llwyddiannus yn neuadd yr ysgol wedi ei drefnu gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ar Nos Wener - Mawrth 8ed.
PÊL RHWYD Llongyfarchiadau i ferched y tîm pêl rwyd sydd wedi chwarae dwy gêm yn ddiweddar, ac ennill y ddwy, y naill sgor 5 - 0 a'r llall 6 - 0.

Tîm Pêl Rwyd Ysgol Creigiau

Dyma'r tîm pêl rwyd o ysgol y Creigiau a enillodd gystadleuaeth sirol yr Urdd yn Abercynon (Mawrth 6ed). Roedd y cystadlu yn frwd gyda phob tîm yn awyddus i fynd ymlaen i Aberystwyth ym mis Ebrill. Llongyfarchiadau, ferched, a phob hwyl yn y rownd derfynol. Mair Davidson, Ffion Greenow, Emma Hopkins, Nia Morris, Cerian Hughes, Laura Hughes, Cathy Evans, Sophie Gibbs, Laura Williams, Stephanie Mais, Jenny Moore.

YSGOL GWAELOD Y GARTH

NOSON GWIS Cynhaliwyd Noson Gwis y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn neuadd yr ysgol ar Nos Sadwrn, Mawrth 23ain. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i bwyllgor y Gymdeithas am baratoi a threfnu'r noson.
CWRS LLANGRANNOG Bu plant Adran Iau yr Uned Saesneg ar gwrs ail-iaith yn Llangrannog ar benwythnos 15ed - 17eg o Fawrth. Bydd criw o blant yr Uned Gymraeg yn mynd ar gwrs penwythnos yno ym mis Mai.
FFAIR LYFRAU Cynhaliwyd Ffair Lyfrau "Scholastic" yn yr ysgol yn ystod wythnos 25ain - 29ain o Fawrth.
TRIP I SAIN FFAGAN Aeth plant dosbarthiadau 2E a 5C i Sain Ffagan ar ddydd Mawrth 19eg o Fawrth fel rhan o'u gwaith thema am y tymor.
EISTEDDFOD YR YSGOL Cynhaliwyd Eisteddfod yr Ysgol yn Neuadd y Pentref ar Ddydd Gwener, Mawrth 1af. Cafwyd cystadlu brwd rhwng y tri tim - Garth, Taf ac Elái, gyda thîm y Garth yn fuddugol ar ddiwedd y dydd. Llongyfarchiadau i Steffan Daniel, ennillydd cystadleuaeth y gadair ac i Gareth Hill, ennillydd cystadleuaeth ail-iaith. Diolch o galon hefyd i Mrs Tania Price, ein beirniad am y dydd.
EISTEDDFOD GYLCH Bu nifer o blant yn cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Ysgol Gyfun Coedylan ar Ddydd Sadwrn, y 9fed o Fawrth. Llongyfarchadau i'r canlynol: Llefaru dan 12: 2il Nia Williams. Unawd dan 8: 3ydd Morgan Isaac. Llefaru i Ddysgwyr dan 12: 3ydd Daniel Simmonds. Deialog i ddysgwyr: 2il Daniel Simmonds, Robert Davies, Alex Carr, Stacey Edwards.
RYGBI Bu tîm rygbi 7 bob ochr yr ysgol yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd ym Mhontypridd ar 14eg o Fawrth.
TRYCHINEB Y "SEA EMPRESS" Llwyddwyd i gasglu £218 i'r "Oiled Bird Centre", Cilgeti, Sir Benfro. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Tudalen Cyntaf Tafod Elai