Rhifyn 125 Mawrth 1998
01443 226386
BARN Y RHONDDA
A CHWM CYNON
Cynhaliwyd cyfarfodydd yn y Rhondda ac yng Nghwm Cynon yn ystod y mis diwethaf gyda dros
60 o bobl yn dod allan i'n croesawu i'r ardaloedd hynny a ffurfio pwyllgorau lleol i'n cynghori ar y
ffordd orau ymlaen. Mae'n arbennig o bwysig fod pobl yn ein helpu i gyflawni ein nod o ehangu'r
darpariaethau Cymraeg sydd ar gael. Mae rhaid i ni gydweithio er mwyn gwneud hyn neu fydd e
ddim yn digwydd o gwbl.
CYDWEITHIO
Braf ydy nodi cydweithrediad swyddogion y Fenter ac Urdd Gobaith Cymru ym maes ieuenctid -
mae Delyth Caffery a Rhodri Ffransis yn gweithio yn galed i sicrhau fod dewis o weithgareddau ar
gael i'r ieuenctid. Braf ydy nodi cydweithrediad Mudiad Ysgolion Meithrin wrth i ni geisio datblygu
gwasanaeth cyflawn o ofal plant i bob oedran trwy'r Sir. Braf ydy nodi cydweithrediad Menter a
Busnes sydd yn lansio dau gynllun newydd yn yr ardal un i sefydlu busnesau newydd ac un i greu
"Clymau Busnes" tebyg i Cwlwm Busnes Caerdydd trwy'r ardal. Braf ydy nodi cydweithrediad
Radio Cymru i roi cyfle i bobl ifanc yr ardal gael gwneud eitemau digon difyr i'w darlledu- diolch i
Gethin Thomas, yr Efail Isaf, ar ein radio ni. Braf ydy cael cymorth Radio Cymru a phob sefydliad
arall yng Nghymru i drefnu Gëyl Haf ar 4/7/98 ym mharc Ynys Angharad - peidiwch hyd yn oed
meddwl am fynd i'r Cnapan ar y diwrnod hwnnw!
GRANT GAN
Y BWRDD IAITH
Braf ydy nodi cynnig grant Bwrdd yr Iaith Gymraeg, toriad o 8% ar llynedd mae'n wir ond, tra bod
cymaint o alw am gymorth gan y Bwrdd gan gynnwys nifer o fentrau iaith newydd megis Menter
Iaith Caerdydd mae hyn yn arwydd o gefnogaeth i'n hymdrechion. Wrth nodi fod toriad yn ein grant
hoffwn i ddiolch i'r degau o bobl sydd wedi danfon sieciau atom fel cyfraniad at ein gwaith. Os
ydych chi'n ystyried gwneud plis gwnewch e nawr mae gwir angen arian a chymorth o bob math
arnom nawr.
RHONDDA CYNON TAF AR Y BLAEN
Teg yw nodi ein bod yn trafod ambell i gynllun gyda'r Cyngor Sir sydd wedi lansio eu Cynllun Iaith
ac yn awyddus i weld cwsmeriaid yn ysgrifennu ac yn ffonio ac yn siarad yn y Gymraeg - Mae Iolo
Roberts, prif gyfieithydd y sir, yn dibynnu arnoch i rhoi gwaith iddo - os nad y chi pwy wnaiff ?
CWRS CYFIEITHU
Ac wrth sôn am gyfieithu beth am geisio cwrs cyfieithu ar y pryd eich hunain ? Mae gennym gwrs
dosbarth nos 7-9pm bob nos Lun gan ddechrau ar 9fed Mawrth tan ddechrau mis Ebrill. Pum noson
i gyd am £25 o dan ofal Elin Tudur ym Mhrifysgol Morgannwg Pontypridd. Ffoniwch 01443
226386 os ydych eisiau ffurflen gais. Mae ein offer cyfieithu ni ar gael yn rhad ac am ddim i bob
sefydliad tlawd yn yr ardal. Mae gan y Sir offer cyfieithu hefyd, o fewn yr Adran Addysg ac o fewn
yr Adran Addysg Gymunedol felly nid oes esgus i chi siarad Saesneg mewn unrhyw gyfarfod o
gwbl. Nid oes dim byd mwy trist na helpu pobl ddi-Gymraeg ,yn aml iawn, i ddarparu offer cyfieithu
achos eu bod nhw'n gwybod yn iawn fod siaradwyr Cymraeg yn eu cyfarfodydd dim ond i glywed
nad oedd neb wedi siarad Cymraeg. Os ydw i'n teimlo fel gofyn "Beth yw'r pwynt ?" Sut mae'r
sefydliadau'n teimlo ? Sut mae'r cyfieithwyr yn teimlo ? Beth sy ? Ydych chi'n swil?
DYSGWYR PRYSUR
Mae'r dysgwyr wrthi eto fel pe tai ! "Atebion Noddedig" sydd ganddyn nhw eleni er mwyn codi
arian at Gronfa'r Midland i Ddysgwyr y Gymraeg yn yr ardal. Mae manylion ar gael gan Helen
Prosser - diolch byth achos buaswn i'n ei wneud yn anghywir oni fuaswn? O ie, chwarae teg hefyd
i Fanc Midland maen nhw wedi cynyddu eu nawdd nhw at y gronfa hon gan 50% eleni ac fe fyddant
nhw'n dosbarthu gwybodaeth amdano ymhob cangen yn Rhondda Cynon Taf. Mae sesiynau adolygu
gyda ni yn rhad ac am ddim i'r dysgwyr ar 7/3/98 o dan ofal Glenys Roberts, ar 24/4/98 o dan ofal
Steffan Webb ac ar 9/5/98 o dan ofal ???? - gwirfoddolwr da rwy'n siwr! Efallai y byddai modd i
athrawon ail iaith, yn ogystal â thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion allu hysbysu eu dysgwyr - mae'r
sesiwn un i un yn baratoad gwych at gyfweliadau'r arholiadau yn yr Haf.
CYNLLUNIAU
GOFAL / CHWARAE
Heb ddweud dim byd eto am y plant ond beth allai ddweud? Niferoedd Y Cymer wedi dyblu yn ystod
wythnos hanner tymor, tua 60 y diwrnod yn Rhydfelen a chyfres o ddigwyddiadau cyffrous megis
perfformiad Huw Stephens y consuriwr o Gaerdydd. Efallai fod y niferoedd yn Llanhari braidd yn
siomedig - pam dwedwch? - yn enwedig gan fod gennym staff a chynllun mor dda yno ar hyn o bryd.
Serch hynny mae'r rhieni di-rif sydd wedi ffonio i ddiolch i ni am drefnu'r cynlluniau wedi codi
calonnau'r staff ymhob cynllun sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau cynlluniau llwyddiannus -
diolch iddyn nhw ac i Glenys sydd wedi trefnu'r cynlluniau.
Mae cynllun gofal Clwb Carco yn Ysgol Evan James yn cael ei drosglwyddo i rieni'r ysgol honno
ac mae saith ysgol arall wedi mynegi diddordeb mewn cydweithio i sefydlu cynlluniau newydd erbyn
mis Medi - digon o waith i ni i sicrhau dyfodol i'r iaith - pwy ddwedodd nad oedd angen gweithio
drosti mwyach?
Mae cyfarfod pwyllgor gwaith y Fenter ar 5/3/98 a chyfarfod dysgwyr y Fenter ar 26/3/98 - mae
croeso i chi alw draw neu yrru unrhyw sylwadau neu awgrymiadau - o ie gyda siec wrth gwrs !
Steffan Webb