Rhifyn 125 Mawrth 1998
CYSTADLU
BRWD
Unwaith eto eleni derbyniwyd cannoedd o gynigion i Gystadlaethau Gwyl Ddewi Tafod Eli. Roedd
y beirniaid wedi eu plesio gyda safon y cynnyrch. Yn wir gwelwyd syniadau gwreiddiol a diddorol
ac l gwaith manwl.
Diolch i bawb am eu cymorth wrth drefnu'r gystadleuaeth, yn arbennig athrawon ein hysgolion a
fu'n annog y plant ac yn casglu eu gwaith.
Darlun Buddugol gan Claire Newbery, Ysgol Evan James
Diolch hefyd i'r beirniaid am ystyried cannoedd o storiau a lluniau a chloriannu'r cyfan.
Yn olaf rydym yn ddyledus i Betsi Griffiths am drefnu'r cystadleuaeth ac am roi'r cyfle arbennig
hwn i lu o blant yr ardal.
GWNEWCH
Y PETHAU BYCHAIN
Ydych chi'n gwybod faint o wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg erbyn hyn? Ydych chi'n eu
defnyddio?
Gallwch dderbyn biliau a gwybodaeth yn Gymraeg oddi wrth SWALEC, Dwr Cymru, Nwy
Prydain a BT. Cofiwch dicio'r blwch ar y ffurflen sy'n gofyn "pa iaith ?", neu ffoniwch nhw!
Yn ogystal chael bil treth dwyieithog, mae pob math o wasanaethau ar gael yn Gymraeg gan eich
Cyngor Lleol - drwy lythyr, ar y ffn, mewn cyfarfod, neu drwy daflen neu ffurflen. Holwch
swyddog iaith eich Cyngor.
Mae nifer o gyrff yn darparu llinellau ffn Cymraeg ar gyfer ymholiadau'r cyhoedd:
Nwy Prydain 0645 555511
Trwydded Teledu 0117 975 8706
Treth Incwm 01222 386001
BT 0800 800288
Swyddfa'r Post 0345 468469

CYNGHERDDAU EISTEDDFOD
BRO OGWR
Cyhoeddwyd rhaglen cyngherddau Eisteddfod Bro Ogwr 1998 - cyfle i ni gael gwledd o ddiwylliant
heb orfod teithio yn bell.
Nos Sadwrn 1 Awst 8.00yh
O Dan y Don - Pasiant y Plant.
Nos Sul 2 Awst 8.00 yh
Cyngerdd Penblwydd Hapus Dennis O'Neill yn 50 oed.
Nos Lun 3 Awst 8.15 yh
Caryl yn dathlu 21 mlynedd o berfformio.
Nos Fawrth 4 Awst 8.00 yh
Offeren Verdi gyda Chr yr Eisteddfod
Nos Fercher 5 Awst
Cystadlaethau'r Ifanc
Nos Iau 6 Awst
Parti Anti - Y BBC yn 75 oed
Nos Wener 7 Awst
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Unawdydd: Julian Lloyd Webber.
Tocynnau: 01656 657798
AR GEFN
BEIC
Fel rhan o ddathliadau penblwydd BBC Radio Cymru yn 21ain mlwydd oed eleni, mae dau o'i
chyflwynwyr mwyaf adnabyddus yn mynd ar daith o gwmpas Cymru ar ddwy olwyn. Bydd Hywel
Gwynfryn a Dei Tomos yn reidio o Gaerdydd i Ynys Mn dros gyfnod o wythnos ym mis Mawrth.
Yn cychwyn o Gaerdydd am hanner dydd ar Fawrth 21ain, fe fydd y ddau yn cyrraedd Pen-y-bont-
ar-Ogwr dros nos ac anelu am Abertawe dros y Sul. O b'nawn Llun ymlaen am weddill yr wythnos
fe fyddanyt yn reidio i ymuno Jonsi (Eifion Jones) erbyn 3 o'r gloch bob prynhawn, ac fe fydd ef
yn darlledu ei raglen prynhawn yn fyw o wahanol lleoliadau, ac fe recordir cyngherddau dathlu yn
yr hwyr mewn mannau cyfagos.