Rhifyn 125 Mawrth 1998
Tonyrefail. . .Efail Isaf. . .Pontypridd
TONTEG A PHENTRER EGLWYS
Gohebydd Lleol: Helen Jones
CN I GYMRU
Llongyfarchiadau i Sin Elin Lewis, Meadow Farm ar gyfansoddi cn a gafodd ei dewis allan o gant
o ganeuon yn un o'r wyth buddugol ar raglen Cn i Gymru. Ysgrifennwyd y geiriau gan Wynford
Ellis Owen ac enw'r gan yw 'Ni Fu Nos Mor Dywyll'. Bethan Ellis Owen o Creigiau a ganodd y gn
ar y tap a ddanfonwyd i'r gystadleuaeth ond roedd rhaid derbyn cantorion y rhaglen ar gyfer y
darlledu - rhag ofn i bawb pleidleisio i Bethan mae'n siwr.
CROESO NL
Croeso nl i Abi Williams, y Dell, sydd wedi dod yn l adre i fyw ar l treulio sawl blwyddyn yn
Ffrainc.
PRAWF GYRRU
Llongyfarchiadau i David Easterbrook, Cilgant Conwy ar basio ei brawf gyrru.
YSGOL FEITHRIN PENTRE'R EGLWYS
Bydd yr Ysgol Feithrin yn dathlu Dydd Gyl Dewi ar Fore Gwener y 6ed o Fawrth am hanner awr
wedi naw, trwy gynnal Bore Coffi gyda eitemau o ganu gan y plant. Croeso i bawb, yn enwedig
plant bach fydd efallai eisiau mynychu'r Ysgol Feithrin cyn hir ag wrth gwrs aelodau'r Cylch Ti a Fi.
PANED?
Rydym yn falch o fedru ddweud fod cylchoedd Ti a Fi yr ardal yn ffynnu gyda tua dwsin yn dod i
Neuadd y Pentre, Pentre'r Eglwys bob bore Gwener (11.30 - 1 o'r gloch) ac i Festri Salem, Tonteg
bob yn ail Ddydd Iau (1 - 3 o'r gloch). Mae ychydig yn dawelach yn Festri'r Tabernacl, Efail Isaf ar
Bnawn Llun (1.30 - 3 o'r gloch), felly os gwyddoch am blant bach (Cymraeg neu Saesneg) hoffai
ddod i chwarae tra gall eu rhieni, teidiau, neiniau neu ofalwyr gael paned a sgwrs, rhowch wybod
iddynt os gwelwch yn dda.
Nl i'r dechrau
EFAIL ISAF
Gohebydd Lleol: Ann Rees
GENEDIGAETH
Llongyfarchiadau i Doreen Hughes, Redlands, Penywaun ar enedigaeth yr bach - James Rhodri,
mab i Caroline, sy'n byw ar hyn o bryd yn Nyfnaint. Mae Caroline yn gyn-ddisgybl o ysgolion Garth
Olwg a Rhydfelen.
CYDYMDEIMLAD
Yn ein rhifyn diwethaf buom yn dymuno'n dda i Mrs Phoebe Thomas, Queen's Drive ond bu farw
Mrs Thomas yn Ysbyty Dewi Sant. Cydymdeimlwn Loreen a Carey Williams a fu'n fawr eu gofal
amdani yn ystod y blynyddoedd diwetha.
CAPEL TABERNACL
Daeth torf dda ynghyd yn cynnwys plant ysgolion cynradd a chyfun Cymraeg y cylch, y Twmiaid,
Caib ac aelodau'r capel i recordio Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Aelodau'r capel oedd yr
offerynwyr ac mae'n newid cael emyn i swn drwm, gitr a chlarint. Roedd yn donic gwrando ar y
plant yn cael cymaint o hwyl wrth foli ac ymateb i'r arweinydd, Andrew Tamplin, Gweithiwr
Ieuenctid y capel. Andrew drefnodd y noson gyda help prifathrawon ac athrawon yr ysgolion.
SEICLO DROS SWDAN
Bydd criw o ieuenctid y capel yn seiclo'r "Taff Trail" ar y 14eg o Fawrth er mwyn codi aran i
ymgyrch Swdan. Mae'n siwr bod rhywrai wedi bod ar eich gofyn am nawdd eisoes!
FFAIR
Bydd Ffair y Pasg ar y 7ed o Fawrth yn Neuadd y Pentre er mwyn codi arian i SENSE ymhlith
pethau eraill, bydd cyfle i brynu lliain llestri wedi ei baratoi a lluniau o'r hen a'r newydd yn y pentre
arno. Cyfle gwych i gael nifer o anrhegion ar gyfer y Pasg.
CYDYMDEIMLAD
Estynnwn ein cydymdeimlad i Joanne Evans a'i merch fach Paula, Heol Dowlais. Collodd Joanne
ei gwr Keith yn sydyn ychydig cyn y Nadolig.
Nl i'r dechrau
TONYREFAIL
Gohebydd Lleol: D.J. Davies
YMGYRCH YMCHWIL
CANCR
Llongyfarchiadau mawr i bwyllgor yr ymgyrch ar godi 137 mewn noson goffi yn ddiweddar a hyn
at y miloedd o bunnoedd maint wedi godi ar hyd y blynyddoedd mae'r pwyllgor wedi bod mewn
bod.Ar y noson cafwyd adloniant gan barti o ysgol ddawnsio Gilfach Goch o dan arweiniad Mrs
Brenda Gammon o Dylcha-Wen, cymydog i mi.
Yn anffodus roedd cadeirydd yr ymgyrch sef Mr L.L.Carter a'i briod Mrs Ivy Carter yn methu
bod yn bresennol o herwydd salwch, dymuna'r pwyllgor ar rhai oedd yn bresennol adferiad buan
iddynt. Yn absenoldeb y cadeirydd syrthiodd i law Miss Vida Morgan i ddiolch ir parti am yr
adloniant, a chyflwyno tusw o flodau i Mrs Gammon.
CAPEL Y TON
Mae rhai o'n haelodau yng Nghapel Y Ton wedi bod yn diodde o wahanol afiechidon. Mrs E.
Copeland yn diodde o fronceitis gobeithio y caiff adferiad buan, bydd yn dathlu ei naw deg dau oed
yn yr haf. Mae Mrs Celia Humphries sydd yn byw gyda'i mab ar ferch yng nghyfraith yn yr Allt
Llantrisant hithau wedi cael ei tharo gan yr Eryrod, hen beth ofnadwy iddi gael a hithau bron yn naw
deg tri oed,gobeithio y caiff wared or clefyd yn fuan. Braidd yn ddiflas mae Mrs Gwenni John hithau
yn diodde o'r crudcymalau.
Mae Mrs Mary Williams Llysyrefail wedi bod yn dathlu ei phenblwydd yn naw deg oed yn
ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr iddi, hithau wedi gwella yn weddol ar l cwymp. Mae Mrs
Williams yn fodryb i'r diweddar Syr Geraint Evans, ac fe dreuliodd Mary wythnos yng nghwmni'r
Foneddiges Evans yn ei chartref yn Aberaeron yn ystod yr haf diwethaf. Roedd Syr Geraint yn
amlwg iawn yn Aberaeron roedd ganddo gwch dipyn o faint yno a threuliodd dipyn o amser yn
hwylio ar Fai Ceredigion, a chroeso i dylwyth a ffrindiau i ymuno ag ef ar y cefnfor.
MENTRO I'R HIMALAYAS
Mae un o athrawon Ysgol Gymraeg Tonyrefail sef Mr Emyr Young wedi bod yn ddiwyd iawn yn
ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi i fynd ar daith i'r Himalayas, y bwriad yw cerdded i fyny i
ddeunaw mil o droedfeddi i fynydd Everest. Mae rhai o honnom a fu yn rhaglen Pawb Ai Farn a aeth
allan yn fyw o'r Ganolfan Hamdden Llantrisant wedi ei weld yng nghyntedd y ganolfan yn cerdded
ar beiriant am bedair awr ar hugain i godi elw, ag yn wir fe lwyddodd i gyflawni'r dasg, rhwydd hynt
iddo.
YSGOL GYNRADD CWMLAI
Llongyfarchiadau mawr i Mr David Jones a'r staff, mae yna nifer o blant o'r ysgol yn bwriadu
cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd leol a phwy a yr fynd ymlaen i'r steddfod fawr sydd yn y Gogledd
y flwyddyn yma.
Nl i'r dechrau
PONTYPRIDD
Gohebydd Lleol: Jayne Rees
AR Y TELEDU
Gwelwyd Steffan Huws o Bontypridd ar y teledu yn ddiweddar. Ymddangosodd e ar raglen Michael
Barrymore - My Kind of Music.
YMWYBYDDIAETH
EWROPEAIDD
Ymweld ag Asturias, Gogledd Sbaen
Aeth 6 o athrawon o Bontypridd draw i gwrdd ag athrawon a phlant yn yr ysgolion y maent wedi'u
gefeillio a nhw. Mae Ysgol Evan James yn cysylltu yn dymhorol a phlant yn Ysgol Gynradd Gijion
ac Ysgol Pont Sin Norton a phlant yn Ysgol Gynradd Oviedo.
Dyma gyfle hefyd i baratoi deunyddiau er mwyn cymharu'r ardaloedd yn ddaearyddol. Bydd cyfle
i roi croeso i'n ffrindiau o Asturias a Lucca, Yr Eidal mewn Cynhadledd gynhelir ym Mhontypridd
ym Mis Mai eleni.