Rhifyn 125 Mawrth 1998
CYSTADLEUAETH GWYL DEWI 1998
BLWYDDYN 4
Beirniad Sara Davies
Ysgrifennu am "Yn yr Archfarchnad" neu "Fy Hoff Gêm"
Cyn dechrau didoli faswn i ddim wedi meddwl mai'r archfarchnad fyddai'r testun a fyddai'n tanio
dychymyg y mwyafrif o blant. Ond ar ôl darllen eu cynnyrch, mae'n hawdd deall pam! Nid syllu ar
resi o duniau a cherdded trwy rengoedd o rewgelloedd fu'r cystadleuwyr. Na, mae'n
harchfarchnadoedd yn fannau rhyfeddol o beryglus - yn llawn trolis yn gwibio heibio yn
ddilywodraeth, a lladron yn ymgiprys â phlismyn.
Wedi dweud hynny, gall chwarae ambell gêm gyfrifiadur y dyddie hyn, eich rhoi chi ar bigau'r
drain. Camp fawr un o'r cystadleuwyr, ar ddydd Nadolig, oedd osgoi'r bwledi ar y sgrîn fach!
Ar y cyfan, er ambell wall i'w ganfod yma a thraw, llwyddodd y goreuon i ysgrifennu'n lan a
chreadigol.
1 Rhys Jones, Ysgol Evan James
2 Ffion Williams, Ysgol Llantrisant
3 Rhiannon Williams, Ysgol Llantrisant
3 James Jones, Ysgol Evan James
Fy Hoff Gêm
Un diwrnod es i lan yr atig. Sylweddolais nad oedd unrhyw beth o werth yna. Ond, yn cuddio wrth
ymyl un sach gwelais gêm. Doeddwn i methu gweld beth oedd e'n dweud ar y bocs oherwydd
roeddwn i mor bell i ffwrdd. Yn ofalus es i lan at y gêm a rhwbiais y llwch oddi ar y bocs. Gwelais
y geiriau 'CHWARAEWCH OS YDYCH CHI'N DDEWR? Roeddwn wedi cynhyrfu ac felly
ffoniais i fy ffrind er mwyn chwarae'r gêm.
Roliais i'r dis a dwedais wrth fy ffrind ei fod e'n edrych fel gem ara' deg oherwydd mai dim ond gêm
fwrdd syml oedd e, ond roeddwn i ar binnau i weld beth oedd yn mynd i ddigwydd.
Caeon ni ein llygaid a theimlais rhywbeth rhyfedd yn digwydd o fy amgylch. Pan agorais fy llygaid
roedden ni yn y jyngl! Doeddwn i methu credu'r fath beth! Yn sydyn gwelais dwy deigr yn agosau.
Wedyn gwelais dwy gangen hyd braich i ffwrdd. Rhoddais un o'r canghennau i fy ffrind a lladdon
ni y ddwy deigr. Dyna frwydr ffyrnig!
Roedd fy ffrind am fy ngwaed i oherwydd ein bod ni yn y jyngl ac erbyn hyn roeddwn i ar binnau i
fynd yn ôl i fy nhí.
Wedi pump awr o ddychryn a thorri drwy'r jyngl roedden ni yn ôl yn ein tai. Yn syth es i lawr stâr i
ddweud y cwbl wrth fy nhad. Doedd e ddim yn fy nghredu i! Dim ond awr yn hwyrach oedd hi mewn
amser go iawn! Gosodais i sialens iddo fe i chwarae'r gem a digwyddodd yr un peth eto!
Rhys Jones YSGOL GYMRAEG EVAN JAMES
BLWYDDYN 4
Beirniad Sara Davies
Celf unrhwy gyfrwng: "Chwarae"
Diolch i bob un o'r 58 o gystadleuwyr am gyflwyniadau crefftus a diddorol. Doedd hi ddim yn
syndod canfod mai golygfeydd o chwaraewyr yn cicio pêl-droed neu'n trafod pêl rygbi oedd wedi
ysbrydoli llawer o blant. (Mae'n amlwg hefyd fod neges yr hysbysebwyr yn cyrraedd y nod wrth
sylwi ar grysau'r chwaraewyr!) Roedd eraill wedi dewis portreadu golygfeydd yn y parc, a gemau
megis sgipio, tenis, hoci iâ a nofio. Ymhlith y nofwyr, roedd criw o frogaod, a fydd, yn ôl pob golwg,
yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Pontypridd!
1 Luke Pearce Ysgol Evan James
2 Seren Evans Ysgol Evan James
3 Kate Watkins Ysgol Evan James
BLWYDDYN 5
Beirniad: Gwenfil Thomas
Ysgrifennu am "Colli'r Bws" neu "Beic Newydd"
Nifer fawr o ysgrifau diddorol a'r goreuon wedi cyrraedd safon uchel iawn. Rhai wedi mynd i fyd
ffantasi ac eraill yn ffeithiol. Roedd gwell cynnyrch wrth adrodd stori'r beic nag wrth golli'r bws.
Cafwyd cymariaethu gwreiddiol ymhlith y goreuon.
1 Gwilym Hughes Ysgol Gynradd Creigiau
2 Fflur Angharad Ysgol Gwaelod y Garth
3 Ellena Deeley Ysgol Gynradd Evan James
BLWYDDYN 5
Beirniad: Gwenfil Thomas
Llun: "Yn y dref"
Dangoswyd dipyn o ddychymyg wrth baratoi'r lluniau. Cystadleuaeth amrywiol gyda golygfeydd
cyfarwydd o'r ardal yn ogystal a rhai o ddinasoedd mawr y byd. Roedd dipyn o hiwmor a hwyl yn y
lluniau a'r goreuon o safon uchel iawn.
1 Claire Newbery Ysgol Gynradd Evan James
2 Glyn Hopkins Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth
3 Alyce Phillips Ysgol Gynradd Evan James
BEIC NEWYDD
Fe faglais i lawr y grisiau bore 'ma i weld faint o anrhegion ces i. Chwech oedd yna i gyd ond dim
ond un oddi wrth mam a dad, Anti Beti a Wncwl Dave, Nain a Taid, Mamgu a Tadcu, Tom a Beth,
Siân a Huw. Fe arhosais Dair Awr i mam a dad dihuno er mwyn i mi gael dechrau agor yr
anrhegion.
Sanau ges i gan Wncwl Dave a Anti Beti. Llyfr oddi wrth Nain a Taid, Jwmpwr wedi ei weu gan
Mamgu a Tadcu, Fflachlamp oddiwrth Tom a Beth, Pel-droed gan Huw a Ffigwr y 'Mighty Ducks'
gan Siân.
Aeth Dad allan. Pan ddaeth e'n ôl beth oedd gyda fe ond beic coch yr un lliw â chrys Lerpwl oedd
yn sgleinio fel seren. Roedd ganddo ugain gêr a basged ar y cefn. Fe es i newid mewn i hen ddillad
er mwyn cael tro ar y beic yn yr ardd. Wel dyma'r beic mwyaf cyfforddus erioed! Roedd y sêt yr un
fath â sidan a'r dolenni yn teimlo fel sbwng!
Roeddwn i allan ar y beic am awr gyfan yn defnyddio gêr gwahanol ac yn wibio heibio ffenest y
gegin lle roedd dad yn gwylio. O! Roedd e'n deimlad arbennig yn teimlo'r gwynt yn chwythu trwy fy
ngwallt byr, byr.
Ar ôl cael cinio a chwarae gyda fy anrhegion am dair awr fe es i i newid am y parti. Ar ôl cael
bwyd fe aeth pawb gan gynnwys fi i gael tro ar y beic. Pan roedd hi'n tro Elwyn, fe banicodd e a
mynd dros droed Cai ac yn syth i mewn i'r wal! Roedd y beic wedi torri'n llwyr ond yn ffodus wnaeth
Elwyn neidio i ffwrdd ar yr eiliad olaf! Fe wthiais Elwyn oherwydd roeddwn i'n grac efo fe ac fe
gafodd e ddolur a fe redodd e adref dan grio. Roedd hi'n amser mynd adref, felly fe aeth pawb yn ôl
i'w cartref hefyd!
Ar ôl i bawb fynd adre, fe roddais yr anrheg ges i gan Elwyn heb ei agor! Mae'r beic wedi ei drwsio
a'r tro nesa rydw i'n gweld Elwyn rydw i'n mynd i feicio yn syth i mewn i'w fola fo!
Gwilym Hughes
Ysgol Gynradd Creigiau