Rhifyn 125 Mawrth 1998
YSGOL
HEOL Y CELYN
PANTOMEIM
Cafodd plant yr adran Gymraeg brynhawn wrth eu bodd ar Ionawr 13eg yn y pantomeim Bytis Twm
Siôn yn Theatr y Miwni.
NSPCC
Daeth Sally George i'r ysgol ar Ionawr 16eg i sôn am ei gwaith gyda'r gymdeithas.
RYGBI
Enillodd y tîm yn erbyn ysgol Llancaiach 20 - 19 a hefyd yn erbyn ysgol Mihangel Sant yn un o'r
rowndiau cyn-derfynol cwpan ysgolion Pontypridd 21 - 14.
RECORDIO
Fe fu plant yr adran gynradd yn recordio eitemau "Dewi Sant" at gyfer rhaglen foreol Dei Tomos
fydd yn cael ei darlledu yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth.
PÊL-RWYD
Yn nhwrnamaint pêl-rwyd yr Urdd a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Ddraenen Wen ar Chwefror
10fed enillodd yr ysgol yn erbyn ysgolion Mihangel Sant, Pont Siôn Norton, Maes-y-coed a hefyd
yn y gêm derfynol yn erbyn Coedpenmaen, y sgôr oedd 7 - 1. Da iawn ferched.
YSGOL
EVAN JAMES
CYSTADLEUAETH
TAFOD ELÁI
Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol fu'n llwyddiannus yng nghystadleuthau Gwyl Ddewi Tafod
Elái - a diolch i bawb drwy'r ysgol am gystadlu.
NODDI CYFRI
Cynhaliwyd diwrnod o Fathemateg Noddedig yn yr ysgol ar Chwefror 13eg gyda dosbarthiadau 5 -
13 yn dysgu bondiau rhif a thablau er mwyn codi arian i Gronfa'r Ysgol.
CHWARAEON
Gemau Rygbi Cyfeillgar
Coedpenmaen 5 v 20 Evan James
Cefn 0 v 12 Evan James
Gwauncelyn 15 v 12 Evan James
Cystadleuaeth 5 bob ochr yr Urdd
Pêl Droed
Coedpenmaen 0 - 4 Evan James
Heol y Celyn 0 - 1 Evan James
Maesycoed 3 - 1 Evan James
Gwaelod y Garth 3 - 1 Evan James
CWRS CRICED
Aeth criw o fechgyn i Ogwr ar gwrs preswyl i ddysgu sgiliau criced - HOWZAT!
Pêl-rwyd
Cystadleuaeth yr Urdd
Evan James 0 Coedpenmaen 7
Evan James 0 Maesycoed 4
Gem Gyfeillgar
Evan James 0 Cefn 8