Rhifyn 126   Ebrill 1998


YSGOL YN DATHLU PEN BLWYDD

Mae Ysgol Gyfun Rhydfelen yn dathlu ugain mlynedd o ddefnyddio ei chanolfan breswyl yn hen ysgol gynradd Cwrt-y-cadno yn sir Gaerfyrddin.

I nodi'r penblwydd mae Cymdeithas Rieni ac Athrawon yr ysgol wedi comisiynu plât coffa. Ar y plât bydd llun gan Mr Tom Jones, un o rieni'r ysgol. Ar y plât lliw-llawn bydd llun o Gwrt-y-Cadno yn ogystal ag englyn wedi'i lunio'n arbennig. Ar gefn y plât bydd cyfieithiad o'r englyn a hanes y ganolfan.

Plât Cwrt y Cadno Bu mam Mr Tom Jones, Jenny Jones (Davies gynt), yn ddisgybl yn ysgol gynradd Cwrt-y-cadno yn ystod y 1920au cynnar. Bydd y platiau coffa ar werth nawr am Ł21 yr un, yn apelio yn enwedig at gyn-ddisgyblion, athrawon a chyfeillion Ysgol Gyfun Rhydfelen a Chwrt-y-cadno, meddai prifathro Rhydfelen, Mr Bryan James. "Mae cenedlaethau o ddisgyblion Rhydfelen wedi mwynhau ymweliadau â Chwrt-y-cadno ac wedi bod ar eu hennill o ymdrwytho mewn awyrgylch cwbl Gymraeg," meddai Mr James.

Mae Cymdeithas Rieni ac Athrawon Rhydfelen erbyn hyn yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wella'r ystafelloedd gwely a chyfleusterau'r gegin yn y ganolfan. Eglurodd Colin England o'r Gymdeithas Rieni, "Bydd y gwelliannau i'r adeilad sydd ar y gweill yn darparu cyfleusterau preswyl ar gyfer grwpiau ychydig yn fwy o ddisgyblion, a llety gwell i'r staff, sy'n goddef amodau gwael ar hyn o bryd. Mae taer angen mwy o arian i gwblhau'r gwelliannau, ac mae'r plât coffa yn ffordd dda o drysori atgofion am y Cwrt yn ogystal â helpu'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon i godi arian at y gwelliannau hyn. Byddwn yn cynnal diwrnod agored ym mis Mai, pryd y gall rhieni, disgyblion a chyfeillion yr ysgol weld rhai o'r gwelliannau."

Mae'r ysgol yn defnyddio'r ganolfan bron pob wythnos a phenwythnos yn ystod y flwyddyn, a rhoddir y cyfle i bob disgybl Blwyddyn 7 i fynd yno yn rhan o gwrs cyflwyno. Mae'r platiau ar gael gan Mr Denis Bryant, ffon 01685 813241.

CANOLI YNG NGHAERDYDD

I baratoi ar gyfer datblygu Canolfan y Mileniwm yn y Brifddinas mae Urdd Gobaith Cymru wedi penderfynu symud ei swyddfa o Aberdar i Gaerdydd a chanoli'r holl weithgareddau yno. Yn ddiweddar fe dderbyniwyd nawdd ariannol i adnewyddu Canolfan yr Urdd yn Aberdar ac mae defnydd helaeth yn cael ei wneud o'r adeilad. Ond fe fydd colli gweithgarwch a phresenoldeb swyddogion yr Urdd yn golled i'r Ganolfan. Y pryder yw y bydd y gweithgaredd oedd yn deillio o bresenoldeb yr Urdd yn y cymoedd yn lleihau wrth i'r Urdd ganolbwyntio ar y datblygiad newydd ym Mae Caerdydd.

Mae galw cynyddol gan ieuenctid y cymoedd am weithgareddau amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n bwysig fod yr Urdd wedi lleoli ei swyddogion yng nghanol y berw newydd o'n cwmpas.

ARDDANGOSFA NEWYDD YM MHONTYPRIDD

O ganlyniad i ffrwyth ymchwil gan un o drigolion Pontypridd agorwyd arddangosfa am Llydaw yng Nghanolfan Treftadaeth y dref ar ddiwedd mis Mawrth. Mae Gwyn Griffiths wedi bod yn twrio i hanes a bywyd Llydaw ac wedi rhoi i ni nifer o lyfrau ac arddangosfeydd diddorol. Mae'r arddangosfa ddiweddaraf yn mynd ymhellach i fywyd a hanes ein cefndryd ac mae'n cynnwys nifer o greiriau diddorol sydd erioed wedi eu gweld tu allan i Lydaw.

GOFAL AR ÔL YSGOL

Yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth gofal ar ôl ysgol yn Ysgol Evan James mae Menter Iaith yn brysur yn ymchwilio i anghenion Gofal Plant Cymraeg mewn chwe ysgol gynradd gyda'r nod o sefydlu gwasanaeth gofal tebyg. Yr ysgolion sydd yn dosbarthu holiaduron ar hyn bryd yw Ysgol Abercynon, Ysgol Llantrisant, Ysgol Castellau y Beddau, Ysgol Pont Sion Norton, Ysgol Heol y Celyn ac Ysgol y Dolau, Llanharan.