Rhifyn 126 Ebrill 1998
Cerddodd Sali yn araf bach ar hyd y palmant. Ond ar y ffordd gwelodd Sali Daniel Drwg yn sleifio i mewn i'r archfarchnad. "Dyma beth yw trwbwl," sibrydodd Sali. Pan gyrhaeddodd Sali fynedfa yr archfarchnad, gwelodd Sali P.C. Evans. Mair oedd ei henw go iawn.
Dechreuodd Sali yn yr eil lysiau. Cymerodd chwech moronen, saith tarten, dwy banasen, un fresychen a phump tin domatos. Pan edrychodd Sali i mewn i'w throli, roedd pedwar tin o domatos wedi diflannu! Ond roedd un ar ôl. "O! Daniel Drwg sy'n gyfrifol am hyn siwr o fod."
Pan gyrhaeddodd Sali y tiliau, gwelodd hi Daniel Drwg a Rachel Tomatos yn rhuthro allan o'r fynedfa gyda phedwar tin o domatos Sali Siopa. Rhedodd Sali ar ôl y ddau a sgrechiodd "Oi! Dewch nôl y ddau ohonoch chi!". Clywodd P.C. Evans am yr holl halibalw a rhedodd nerth ei thraed ar ôl Daniel Drwg. Gofynnodd iddo "Pam wnes ti ddwyn y tomatos?" "Gwnes i ddwyn y tomatos oherwydd roedden nhw i Rachel Tomatos am y Nadolig!" sibrydodd Daniel Drwg. "Iawn te," meddai P.C. Evans.
Yn y diwedd wnaeth P.C. Evans ddim arestio Daniel Drwg na Rachel Tomatos. Roedden nhw yn lwcus iawn!
Ffion Williams
Blwyddyn 4
Ysgol Llantrisant
Ahh! roedd y diwrnod wedi cyrraedd, edrychais am yr anrheg gorau. O! na, doedd o ddim yna. Wrth i mi slopian lawr y grisiau i ddweud wrth mam a dad bod yr anrheg heb ddod dyna ble oedd o, yn aros i mi ei agor, mewn papur coch, melyn a glas. Fe wnes i ei agor, doeddwn i ddim yn poeni am y papur lapio coch, melyn a glas. Roedd y beic yn alwminiwm melyn felly bydd pobl yn gallu gweld fi yn y tywyllwch os bydda i yn syrthio oddi ar fy meic neu rhywbeth. Roedd y teiars yn ddigon mawr i fynd ar y mynyddoedd, dyna pam ei enw yw "mountain bike".
Fe wnes i ofyn a gofyn a gofyn i reidio'r beic! Ar ôl cinio fe es i a dad i fynd ar y mynyddoedd. Ond wedyn fe wnaeth y beic syrthio. O! na, ond fe wnaeth dad ddal y beic a mynd â fe adref. Roedd y paent wedi crafu, felly fe wnaeth dad a fi ei baentio.
Hwn yw y beic gorau rwyf wedi ei gael erioed. Yr anrheg gorau rwyf wedi ei gael hyd yma hefyd!
Fflur Angharad
Blwyddyn 5.
Ysgol Gwaelod y Garth.
Betsi Griffiths a Meirion Lewis yn Sermoni Wobrwyo
y Gystadleuaeth