Rhifyn 126   Ebrill 1998


SGWRS I'R DYSGWYR

Mewn caffi yn Nhonteg

(Ding dong - cloch y drws) Melanie: Bore da Meinwen. Dwi ddim wedi talu am y gacen gri. Mae'n ddrwg gen i.
Meinwen: Paid â phoeni. Ga i helpu?
Melanie: Te os gwelwch yn dda, a dwy gacen gri.
Meinwen: Pum deg ceiniog os gwelwch yn dda. Fwynheuoch chi Ddydd Gëyl Dewi?
Melanie: Do. Ces i amser da. Gwnes i swper Cymreig.
Meinwen: O da iawn. Beth wnaethoch chi fwyta?
Melanie: Coginiais i gawl a chennin a thatws a chinio cig oen.
Meinwen: Hyfryd Fwyneuodd Benjamin ei ddiwrnod yn yr ysgol?
Melanie: Do fe wnaeth e. Roedd e'n edrych yn olygus yn ei wisg draddodiadol Gymreig.
Edrychwch, mae ei lun yn y papur lleol gyda'i ddosbarth.
Meinwen: On'd yw e'n edrych yn debyg i chi.
Melanie: Ydy. Mae e'n fachgen golygus a thalentog. Cafodd ei ddewis i gynrychioli ei ysgol yn yr Eisteddfod Gylch yn Llanhari dydd Sadwrn. Cafodd y wobr gyntaf am ganu unawd dan wyth.
Meinwen: Mae'n siwr eich bod yn falch iawn ohono. Gobeithio y caiff gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.
Melanie: Wel, bydd rhaid iddo ennill yr Eisteddfod Sir ym Mhorthcawl yn gyntaf.
Meinwen: Mae llawer o gantorion proffesiynol Cymreig wedi dechrau yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd Bryn Terfel yn arfer cystadlu yn yr Urdd, cyn mynd ymlaen i ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac edrychwch arno nawr.
Melanie: Ych chi'n meddwl y bydd fy Benjamin bach i yn mynd ymlaen i rannu llwyfan gyda chantorion mawr fel Pavarotti, Carreras, Domingo . . .
Meinwen: Ara deg nawr. Rhaid iddo ennill yr Eisteddfod Sir yn gyntaf.
Melanie: O mi wnaiff e. Wi'n mynd i ffonio fy mam nawr i ddweud y newyddion da wrthi am yrfa ganu Benjamin. Gwell i fi gael asiant iddo, a gwersi canu. Hwyl Meinwen!
Meinwen: Ble ych chi'n mynd? Yfwch eich te yn gyntaf.
Melanie: Ond mae llawer o bethau gyda fi i'w gwneud.
Meinwen: Dim ond chwech oed yw e.
Melanie: Ie, ond mae'n rhaid iddo gael pob chwarae teg. Hwyl, a diolch yn fawr am eich help.
(Ding dong - cloch y drws) Meinwen: Helo Mrs Jones. Te a chacen fel arfer?
Mrs Jones: Ie. Pwy oedd honna?
Meinwen: O Melanie - Saesnes yw hi. Mae'n meddwl fod ei mab yn mynd i ennill y rhuban glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei fod wedi cael cyntaf am ganu dan wyth yn Eisteddfod Gylch yr Urdd!! Beth bynnag, dyw hi ddim yn gwybod am un peth arbennig sydd yn rhaid bod cyn y gallwch fod yn ganwr gwir llwyddiannus.
Mrs Jones: Beth yw hwnnw felly?
Meinwen: Rhaid bod yn Gymro on'd oes e?

Nol i'r dechrau