Rhifyn 126   Ebrill 1998


LLANTRISANT
Gohebydd Lleol: Glenys Roberts


Blwyddyn ym Mhatagonia

Dymuniadau gorau i Catrin Morris sy'n mynd allan i Batagonia yn Ariannin ddiwedd mis Mawrth i dreulio blwyddyn yn dysgu Cymraeg yno. Bydd Catrin yn glanio yn Buenos Aires ddydd Llun, 30 Mawrth, yn hedfan i Drelew ar y dydd Mawrth ac yn dechrau ar ei gwaith ddydd Mercher y cyntaf o Ebrill! Y Cyngor Prydeinig â chymorth y Swyddfa Gymreig sy'n noddi'r cynllun mewn cydweithrediad â Robert Owen Jones o Ganolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Dyma ail flwyddyn y cynllun tair blynedd a bydd Catrin yn un o dîm o dri o athrawon; y lleill yw Angharad Rogers, Caerdydd a fydd yn gweithio yn y Gayman, a Hazel Charles Evans sydd eisoes wedi treulio blwyddyn yn yr Andes ac am aros yno am flwyddyn arall. Bydd gan Catrin ddosbarthiadau yn Nhrelew, Rawson a Phorth Madryn, rhai'n ddosbarthiadau cymysg ac eraill ar lefelau penodol, gan gynnwys un dosbarth gloywi iaith. Pob dymuniad da iddi - mae'n siwr y bydd hiraeth mawr ar ei disgyblion yn Rhydfelen ar ei hôl, ond o leiaf mae wedi addo cadw cysylltiad â'r ardal trwy dudalennau'r Tafod.

Crwydro Awstralia

Dau arall sy'n teithio'r byd ar hyn o bryd yw Eric a Dilwen Davies sydd ar daith yn Awstralia am chwe wythnos. Bydd y ddau yn ymweld â pherthnasau ac yn dod yn ôl i Gymru fach ar ôl i'r tywydd gynhesu'n iawn!

Gwyliau yn Barbados

Aeth Tony ac Elizabeth Williams i Barbados ar eu gwyliau ym mis Mawrth. Mae Elizabeth yn dod yn wreiddiol o'r ynys a Tony braidd yn hoff o griced, felly lle gwell i fynd yn ystod taith tîm criced Lloegr + Robert Croft yn ddiweddar. Yn arbennig gan fod angen nerth ar Gadeirydd Llywodraethwyr Llanhari i wynebu'r Arolwg sydd ar y gorwel!

Taith i'r Himalayas

Ydy pawb yn Llantrisant yn dianc oddi yma? (rhywun heb ddweud rhywbeth wrtha i tybed?) Un arall sydd ar grwydr yw Emyr Glasnant sy'n treulio cyfnod yn dringo ac yn ffilmio yn yr Himalayas. Yn ystod mis Ionawr bu Emyr yn seiclo'n galed er mwyn codi nawdd i'r prosiect.

Croeso'n ôl o'r Almaen

Croeso adref i Nia Price sydd yn ôl adref ar ôl treulio chwe mis yn Regensburg yn yr Almaen.

Plant y Tabernacl

Diolch i blant Llantrisant a gymerodd ran yn oedfa'r bore yn y Tabernacl, Yr Efail Isaf yn ddiweddar. Fore Sul, y 15fed o Fawrth, plant Llantrisant dan arweiniad Mr Eurof James, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth, a gwnaeth pawb ei waith yn arbennig o dda.

Llongyfarchion

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Lyn Treharne ar gael ei phenodi i swydd Pennaeth Ieithoedd Modern yn Ysgol Plas Mawr (Ysgol Gyfun Gymraeg newydd Caerdydd). Bydd Lyn felly'n dechrau ei bywyd priodasol mewn swydd newydd hefyd. Pob dymuniad da.

Pam fi Duw?

Mae'n siwr eich bod wedi sylwi ar y seren newydd ar y rhaglen deledu Pam Fi Duw yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i Gemma Jones ar ei gwaith yn chwarae rhan cariad newydd Bili.

Cymdeithas Gymraeg Llantrisant

Cafwyd noson hyfryd o adloniant ddechrau Mawrth ym mwyty Harry Ramsden i lawr ym Mae Caerdydd, gyda chantorion o'r Cwmni Opera. Ar y 3ydd o Ebrill byddwn yn ymuno â Chlwb y Dwrlyn i fwynhau noson yng nghwmni Dafydd Iwan yn Neuadd Dowlais. Ac yna ddechrau mis Mai bydd rhai ohonom yn treulio penwythnos ym Mharis. Efallai na fyddwn ni ddim yn teithio cweit mor bell â Catrin, Eric a Dilwen, Emyr Glasnant, Tony ac Elizabeth na Nia, ond dw i'n addo y cawn ni lawn cymaint o hwyl!

LLANILLTUD FAERDREF
Gohebydd Lleol: Dawn Williams

Grwpiau Drama Menter Iaith yn Neuadd Dowlais

Y Rascals

Mae'r Rascals wedi bod yn paratoi am berfformiad o "Grease" yn y Gymraeg am oesoedd nawr ac o'r diwedd rydyn ni am gyhoeddi dyddiad ein perfformiad cyhoeddus sef Gorffennaf 11 1998. Fe fyddwn ni yn perfformio yn Neuadd Dowlais am 7yh felly gwnewch yn sir y bo chi'n cadw y noson yna yn rhydd i ddod i weld cynhyrchiad sy'n llawn bywyd, cerddoriaeth (gan Martyn Geraint) a sbri. Mae aelodau'r cast yn dod o nifer o'r ysgolion cynradd lleol ac mae'r tîm cynhyrchu sef rhai aeloda'r Diawled Dawnus yn dod o Ysgolion Cyfun lleol, felly byddwn ni yn dibynnu arno chi am gefnogaeth!

Y Diawled Dawnus

Ar Fawrth 7 1998 fe aeth y Diawled Dawnus i Stiwdio 1 HTV i gyfrannu i'r rhaglen deledu "Pendraffobia". Gwnaeth llond bws ohonom ni deithio i Gaerdydd y bore hwnnw i gystadlu, gwylio a chefnogi. Hoffwn i ddweud yn bersonnol, llongyfarchiadau i'r rhai a wnaeth gystadlu oherwydd mae'n arbennig o dda cael cefnogi Menter Iaith trwy ein grëp drama a hefyd i ennill. Rydym ni yn gobeithio defnyddio ein gwobr at gostau cynhyrchu Grease. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r staff a wnaeth helpu ar y diwrnod sef Tracey Williams, Laura Halliday a Timothy Russell yn enwedig oherwydd aethon ni i sglefrio yn y prynhawn sydd yn waith caled gyda 40 o aelodau credwch chi fi! Roedd hi'n gyfle da i gyfuno'r ddau grëp drama ar drip yn enwedig gan ein bod ni fel cwmni drama Menter Iaith yn perfformio "Olifer" yn mis Hydref. Hoffwn i longyfarch Nicholas South sydd newydd gael prawf am ffilm ar ôl cael ei weld yn ein perfformiad o Sindarela ym mis Tachwedd. Cer amdani Nicholas!!!! Ysgol Feithrin Helo! Dyma blant o'r Ysgol feithrin yn dathlu "Dydd Gëyl Dewi" gyda chyngerdd a Pharti. Mae'r plant yn brysur yn paratoi at y Pasg, a hefyd waith ar y thema "Y Gwanwyn". Mae'r Ysgol Feithrin ar agor bob bore o'r wythnos rhwng 9.30 - 12 a rhwng 9.30 - 2 ar ddydd Llun a dydd Mercher. Peidiwch ag anghofio y grëp "Ti a Fi" ar fore Gwener 10.30 - 12. Croeso cynnes i bawb! Am fanylion cysylltwch â Pam Lloyd, Arweinydd yr Ysgol Feithrin, ar 01443 206779.

Neuadd Dowlais

Mae Neuadd Dowlais wedi bod yn rhan o gymdeithas Llanilltud Faerdref ers pymtheng mlynedd nawr, a dros y chwe blynedd diwethaf mae Brian Williams, y Cadeirydd, a'i bwyllgor bach gwirfoddol wedi bod yn ei reoli. Ie!!! Mae Neuadd Dowlais yn cael ei reoli gan bobl y gymdeithas yn wirfoddol ac nid y Cyngor. Mae yna alw am unrhyw aelodau newydd i ymuno â'r pwyllgor yn enwedig Cadeirydd newydd gan bod y neuadd yn cyllido ei hunain ac mae angen pob help sydd ar gael. Y mae Neuadd Dowlais yn gartref i lawer o weithgareddau yn y gymuned. Mae'n gartref i grwpiau drama Cymraeg Menter Iaith, Ysgol Feithrin ac wrth gwrs yr Wíl Ddrama. Ond mae yna nifer o weithgareddau eraill fel dawnsio, bowlio, clwb i fenywod a nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol e.e. cyngerdd Owen Money. Mae'r Neuadd gymunedol yn dibynnu ar gefnogaeth y gymuned ac mae ar gael ar gyfer unrhyw achlysur. Felly os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglín â'r neuadd cysylltwch â Mrs Williams, ysgrifenyddes y neuadd ar 01443 203693.

Cofiwch os oes unrhyw newydd neu gyhoeddiad a hoffech chi ohebu cysylltwch â mi, Dawn Williams 01443 203693, dwi'n sir bod mwy na hyn yn digwydd o fewn ein cymuned!

PONTYPRIDD
Gohebwyr Lleol:
Delyth Jones a Jayne Rees

PRIODAS ARIAN

Llongyfarchiadau i Meinir Heulyn a Brian ar ddathlu eu Priodas Arian a dymuniadau gorau hefyd i Meinir ar ei phenblwydd yn 50 oed.

CLWB Y BONT

Yn ystod y misoedd diwethaf mae gwelliannau mawr wedi digwydd i adeilad y clwb. Gwariwyd dros £40,000 yn adnewyddu y to, gosod ffenestri a drysau newydd a glanhau'r gwaith cerrig. Cynhelir cyfarfod cyffredinol yn y clwb ar nos Fercher Ebrill 1af. Mae cyfres o weithgareddau yn cael eu trefnu er mwyn cefnogi parhad y gwersi Cymraeg yn y clwb. Y cyntaf o'r nosweithiau yma yw Disgo ar Fai 8fed. Dewch i wylio gêm rygbi Ffrainc v Cymru ar y sgrîn fawr, Sadwrn 4ydd Ebrill.

IECHYD DA TOM A CEINWEN!

Bu llawer o gyffro ar y Comin yn ddiweddar wrth i dîm ffilmio y gyfres boblogaidd "Iechyd Da" dreulio ychydig o ddyddiau yn nhí Tomi, Ceinwen a Lowri. Cyfrinach yw enwau trigolion y tí yn y gyfres nesaf - medd Tomi!!

YSGOL PONT SIÔN NORTON
Canlyniadau Eisteddfod Gylch.

Llefaru dan 8 oed: 1af Rowena Mahoney, 3ydd Sara Slater. Unawd dan 8 oed: 3ydd Rowena Mahoney. Llefaru dan 10 oed: 1af Gwenno Jones, 3ydd Lowri John. Unawd dan 10 oed: 1af Jessica Jones. Llefaru 10 - 12oed: 3ydd Berwyn Pearce. Unawd 10 - 12 oed: 2il Menna Rogers, 3ydd Rosie John. Alaw Werin dan 12 oed: 1af Berwyn Pearce. Parti Llefaru - 3ydd Pont Siôn Norton. Parti Unsain Adran - 2il Pont Siôn Norton. Ymgom: 3ydd Pont Siôn Norton. Côr Adran: 1af Pont Siôn Norton.

CYSTADLEUAETH GêYL DDEWI Y 'PRINCIPALITY'

Gwahoddwyd plant yr ysgol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Gymdeithas Adeiladu y Principality. Cafodd y gwaith ei arddangos yn y siop yn y dre. Y Buddugwyr oedd: Jenna Brimble (Bl 6), Rhys Evans (Bl 6), Rosemary John (Bl 6), Hannah Evans (Bl 5), Anne Maria Scriven (Bl 5), Amy Jones (Bl 3), Chantel Carter (Bl 1) a Tennessee Price (Derbyn). Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd. Bydd criw o blant yn ymddangos ar raglen 'Nics Nain' yn ystod mis Mai. Bu criw Uned 5 yn ffilmio yn yr ysgol yn ddiweddar. Fe gawsant glywed amrywiaeth o jôcs a chyfarchion gan y plant. Bu Cwmni Theatr Spectacle yn perfformio drama i'r Adran Iau yn yr ysgol yn ddiweddar. Cynhaliwyd Noson Chocaholics ac arwerthiant llyfrau Cymraeg yn yr ysgol ar Nos Wener 13eg Mawrth.

CANLYNIADAU CHWARAEON
Rygbi

Trehopcyn 28 Pont Siôn Norton 28 Coedpenmaen 10 Pont Siôn Norton 10 Bu’r tîm yn cymryd rhan mewn twrnament 7 bob ochr ond yn anffodus colli wnaethant yn erbyn Heol y Celyn o 2 gais i 0. Gwell lwc tro nesa'. Daliwch ati!

Pêl Rwyd

Bu’r tîm yn cymryd rhan mewn twrnament Pêl rwyd. Rownd 1. P.S.N. 4 St Michaels 0
Rownd 2 Heol y Celyn 12 P.S.N. 8
Rownd 3 Coedpenmaen 3 P.S.N. 2

YSGOL EVAN JAMES Dathlu Gwyl Ddewi

Cynhaliwyd eisteddfod yn yr ysgol. Llawer o ddiolch i Mrs Caryl Williams, Graigwen am feirniadu yr holl gystadlaethau.

EISTEDDFOD GYLCH

Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ysgol Uwchradd Coedylan. Llongyfarchiadau i'r canlynol: Trudi Heaven - 1af Unawd dan 12. Kayleigh Thomas - 1af Llefaru 10 - 12. Huw Wilcox - 2il Llefaru 10 - 12. Rebecca Reeves - 2il Unawd dan 10. Emma Jay Smith - 2il Llefaru dan 10. Y deuawdau - 1af Trudi Heaven a Elina Oakey. 2il Lowri Browning a Laura Millward. 3ydd Hannah Davies a Sophie Edwds. Parti Unsain dan 12 oed - 1af. Côr dan 12 oed - 2il. Pob lwc iddynt yn yr Eisteddfod Sir - ac i Meilyr Dixey fydd yn clocsio.

Daeth Cwmni Theatr Spectacle i'r ysgol i gyflwyno 'POP' - perfformiad yn seiliedig ar fywyd yn y cymoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth dosbarthiadau Mrs Robins, Mr Owen a Ms Kennard i'r Amgueddfa Genedlaethol i weld arddangosfa ar "Y Pobloedd Cynnar".

RYGBI

Bu’r tîm cyntaf yn brysur iawn yn ymarfer ac yn chwarae'r gemau canlynol: EJ 15 Trerobart 5
EJ 5 Mihangel Sant 20
EJ 25 Maes y Coed 10

PROSIECT DAWNS POWYS

Mae Mrs Bethan Caffrey a'i dosbarth wedi bod yn hynod o brysur yn cael hyfforddiant gan y cwmni dawns ac yn paratoi i berfformio "Adar o gwmpas y Byd" o flaen cynulleidfa o athrawon mewn cwrs arbennig yn y dyfodol.
Nol i'r dechrau