Rhifyn 126 Ebrill 1998
DYSGU DARLLEN Newyddion da yn gyntaf - Grant trwy law Cyngor Rhondda Cynon Taf i gynnwys elfen llythrennedd a dysgu darllen i blant ac oedolion ar ein cynlluniau gofal chwarae yn ystod gwyliau'r Pasg. O ganlyniad bydd tri thiwtor, Heulwen Stephens, Siwsan George ac un arall, yn cael gwaith yn cynnal sesiynau darllen arbennig bob bore. Gan fod y ddwy yma yn canu yn arbennig o dda rwy'n credu y bydd y sesiynau darllen yn fywiog ac yn hwyl fawr i bawb sydd yna. Croeso cynnes i oedolion sy'n dysgu Cymraeg ac sy'n chwilio am gyfle i ddechrau defnyddio'r iaith gyda'u plant.
GOFAL AR ÔL YSGOL Mwy o newyddion da eto? Ymchwil yn mynd yn ei flaen i sefydlu cynlluniau gofal ar ôl ysgol mewn chwe ysgol gynradd Gymraeg, pump ohonynt yn Nhaf-Elai. Rydym yn gobeithio cael dau gynllun newydd ar agor rhwng Medi'98 a Ionawr '99. Mae modd i ni wneud hyn ac nid yw'n amhosib y bydd dau gynllun arall gennym yn agor ar ôl Ebrill '99. Adeiladu ar lwyddiant y Clwb Carco yn Ysgol Evan James ydyn ni ac mae'n braf cael gwneud gan wybod bod pwyllgor o rieni'r ysgol honno yn sicrhau bod y clwb hwnnw hefyd yn parhau. Rhwng popeth mae Glenys Jones, Swyddog Gofal Plant, yn gweithio ar raglen ddatblygu anferthol.
EHANGU GOFAL MEITHRIN Ydych chi eisiau mwy o newyddion da eto fyth? Ymchwil eto ar y cyd y tro yma gyda Mudiad Ysgolion Meithrin yn y gobaith o sefydlu Canolfan Gofal Dydd i blant dan 5 oed yn ardal Trefforest. Rydym wedi poeni braidd am blant dan 5 oed sydd heb gael dod ar ein cynlluniau gofal chwarae oherwydd eu bod yn rhy ifanc. Rydym wedi poeni hefyd am blant bach bach sydd wedi gorfod derbyn gofal dydd uniaith Saesneg oherwydd nad oedd gofal diwrnod cyfan ar gael yn y Gymraeg yn unrhyw le yn Rhondda Cynon Taf. Ni ddylai hyn effeithio ar yr ysgolion a chylchoedd chwarae llwyddiannus sydd eisoes gennym ond dylent apelio at garfan newydd o rieni sydd angen gofal dydd.
GWIETHGARWCH Hysbysebion sydyn yng nghanol hyn i gyd - Mae cynlluniau gofal chwarae gennym ar agor 15-24 Ebrill yn Llanhari, Y Cymer a Rhydfelen fel arfer -danfonwch eich plant i gael hwyl a sbri. Pêl- droed, Aikido, drama, nofio, snwcer a dawnsio disgo i gyd yn ail agor yn ystod yr wythnos yn dechrau 27ain Ebrill 1998. Bydd ein cwrs cyfieithu llwyddiannus a phoblogaidd wedi gorffen erbyn Y Pasg ond bydd ein hoffer cyfieithu ar gael o hyd os ydych eisiau ei fenthyg. Gëyl Raligamps ym Mharc Ynys-angharad, Pontypridd, ar 4/7/98 gyda chymorth BBC Radio Cymru.
HYBU GWIRFODDOLI Dwi wedi cadw'r newyddion gorau tan y diwedd - £81,000 i gyflogi swyddog gwirfoddoli Cymraeg i helpu pob mudiad gwirfoddol Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf i ddatblygu a chynnig gwasanaethau gwell yn ogystal â chynorthwyo mudiadau gwirfoddol Saesneg i wella eu defnydd o'r Gymraeg. Cydweithrediad cwbl ymarferol rhyngddom â Chymdeithas Interlink sydd wedi datblygu yn lle yr hen MGAVO a fu gennym. Dylai'r swyddog yma fod ar waith o fewn ychydig fisoedd ac yn gweithio gyda ni am dair blynedd o leiaf - unwaith eto rydym yn arwain y ffordd.
TORRIADAU Yn anffodus nid yw'r arian newydd yma yn gwneud llawer o wahaniaeth i broblemau ariannol Menter Iaith . Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae rhai o noddwyr arferol y Fenter wedi torri yn ôl 100%, 50% a 10%. O ganlyniad nid oes cymorth clerigol gennym o gwbl ar hyn o bryd ond chwarae bach ydy hynny i gymharu â'r dewisiadau sydd o'n blaenau ac yn mynd i achosi cur pen. Mwy na thebyg ni fydd cylchlythyr gennym o gwbl, ni fydd Prosbectws'98 gennym ac ni fydd Swyddog Ieuenctid/ Gweithgareddau gennym ar ôl y Pasg am fod Delyth Caffrey yn ymuno â'r Urdd yng Nghaerdydd. Mae hi wedi gwneud gwaith gwych i ni ac fe fydd hi nawr yn gwneud gwaith gwych i'r Urdd fel mae Rhodri Francis eisoes yn gwneud yn yr ardal.
LLEIHAU DARPARIAETH I IEUENCTID Siom enfawr arall ydy deall bod Eleri Jenkins, swyddog ieuenctid Cymraeg gyda ESIS hefyd yn colli ei gwaith o ddechrau mis Ebrill. Mae hyn yn golygu na fydd yr un swyddog ieuenctid Cymraeg yn gweithio yn yr ardal o gwbl wrth ddeall fod staff yr Urdd yn gweithio o Gaerdydd. Cynlluniau Iaith ai peidio mae eisiau gwneud rhywbeth am hyn.
O safbwynt clybiau'r Fenter bydd rhaid i'r Swyddog Datblygu gymryd cyfrifoldeb drostynt unwaith eto ac er y bydd llawer o waith rwyf yn edrych ymlaen at hyn. Wyddoch chi fod ein clwb snwcer ym Mhentre'r Eglwys yn dal i fynd ar ôl pum mlynedd neu fwy? Pum mlynedd hefyd i'n cwmnïau drama a sesiynau pêl-droed, tair blynedd o Aikido a Nofio a dwy flynedd o ddawnsio disgo. Gwn fod rhai clybiau eraill wedi agor a chau - chwarae teg does dim arian na staff gennym ! - ond mae miloedd o sesiynau cymdeithasol wedi eu cynnal oherwydd Menter Iaith.
Mae'n rhywbeth i fod yn falch ohono ond mae hefyd yn waithi werth ymdrechu drosto - fydd y pethau hyn ddim yn parhau os nad ydych yn gwneud rhywbeth yn ystod y misoedd nesaf.
Steffan Webb Swyddog Datblygu Menter Iaith