Rhifyn 126 Ebrill 1998
YSGOL GYMRAEG GARTH OLWG
GWEITHGAREDDAU'R URDD
Llongyfarchiadau i'r plant ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Gylch yr Urdd a gynhaliwyd yn Ysgol
Gyfun Llanhari yng nghanol Mawrth. Bu'r ymarfer yn ddyheuig iawn am rai wythnosau, a'r plant,
o'u gwirfodd, yn treulio oriau, a hynny ar ôl diwrnod o waith ysgol, yn ymarfer. Diolch i'r
hyfforddwyr a'r cefnogwyr am eu brwdfrydedd a'u dyfalbarhad. Dymuniadau gorau i'r plant fydd yn
cystadlu yn yr Eisteddfod Sir ym Mhorthcawl ar ddiwedd Mawrth.
RYGBI 7 BOB OCHR
Llongyfarchiadau i'r bechgyn rygbi 7 bob ochr ar eu hymdrechion yn y twrnament rygbi a
gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Llanharan ar Fawrth 19.
PÊL RWYD
Daeth llwyddiant hefyd i ran merched y tim pêl rwyd, pan ddaethant yn ail o naw tîm yng
nghystadleuaeth pêl rwyd yr Urdd, yn gynharach ym mis Mawrth.
CLWB SIARAD
Yn ddiweddar, sefydlwyd clwb siarad ar gyfer rhieni a ffrindiau'r ysgol sydd yn awyddus i ymarfer
eu Cymraeg llafar, mewn awyrgylch c ymdeithasol ac anffurfiol. Mae'r clwb siarad yn cwrdd tua
unwaith bob pythefnos, a hynny yn y 'Farmers' ym Mhentre'r Eglwys Uchaf. Dyma ddyddiadau'r
cyfarfodydd nesaf:-
Mawrth 24, Ebrill6, Ebrill 29, Mai 11, Mai 20.
Croeso i bawb - dewch am sgwrs - Cymry Cymraeg a dysgwyr.
CYCHWYN CYFNOD
MAMOLAETH
Manteisia staff a rhieni'r ysgol, ar y cyfle i ddymuno'n dda i Mrs Rhian Widgery, fydd yn cychwyn
ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth yn ystod gwyliau'r Pasg.
Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant
Bu'n gyfnod o brysurdeb eto, gyda'r plant yn cael cyfle i wneud pob math o weithgareddau. Aeth
nifer o blant i HTV ar 13 Chwefror i gymryd rhan ar y rhaglen Nics Nain. Perfformiodd Miss Helen
Davies yn wych yn erbyn Ysgol Ystrad Mynach a chael gwobr gysur am ei thrafferthion - pâr o nics
Nain?
Mae cylch newydd mam a'i phlentyn wedi agor yn y Ty Model. Enw'r grwp yw CWTSH, ac mae'n
cwrdd bob pnawn Iau am 2.30. Mae'r ystafell yn gysurus a braf ac os oes gennych ddiddordeb neu
os gwyddoch am rieni di-Gymraeg a hoffai ymuno gyda'u plant bach, cysylltwch â'r Tí Model am
ragor o fanylion.
Canlyniadau'r Eisteddfod Gylch.
Cafodd yr ysgol nifer o lwyddiannau a bydd y canlynol yn
cystadlu ar ran yr Ysgol yn yr Eisteddfod Sir: Llefaru dan 8 Rachel Evans
Cerdd Dant dan 8 Elin Haf Davies Unawd dan 10 Ffion Williams
Cerdd Dant dan 10 Ffion Williams Llefaru dan 12 Lee Davies
Unawd Alaw Werin dan 12 Christopher Darlington Parti Llefaru dan 12.
Ar ran yr Adran, enillwyd y Dawnsio Disgo Unigol gan Lauren Price a bydd y Parti Dawnsio
Disgo hefyd yn mynd trwodd i'r Eisteddfod Sir.
Cystadlaethau Tafod Elái
Aeth pedwar o blant yr ysgol i Bontypridd i dderbyn eu gwobrau am lwyddo yng Nghystadlaethau
Tafod Elái.
Nos Sadwrn, 14 Mawrth cynhaliodd Cymdeithas Rieni'r Ysgol Dwmpath Dawns yn Neuadd
Gymdeithasol Penygawsi, a chafwyd noson arbennig yng nghwmni Dawnswyr Nantgarw.
Cynhaliwyd noson i lansio Llyfryn yr Ysgol nos Fercher, 11 Mawrth. Derbyniwyd nawdd o £100
at glawr y llyfryn gan gwmni Leekes.
Ddydd Gwener, 13 Mawrth trosglwyddwyd siec am £148 i'r Groes Goch o arian Diwrnod
Diolchgarwch, a siec o £167 i UNICEF a gasglwyd gan y plant am gael peidio â gwisgo dillad ysgol
am ddiwrnod!
Nol i'r dechrau