Rhifyn 126 Mai 1998
PARTI PONTY
Ar ddydd Sadwrn 4ydd o Orffennaf bydd Parti enfawr ym Mhontypridd. Bydd Menter Iaith, Radio
Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin a'r Urdd yn trefnu diwrnod llawn o hwyl ar bedair llwyfan ym
Mharc Ynysangharad. Yn ogystal â pherfformwyr o ysgolion a chymdeithasau lleol disgwylir rhai
o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru - Sobin a'r Smaeliaid, Siân James, Gwachamole, Iwcs a Doyle
ac eraill.
Oherwydd y diddordeb yn y diwrnod a gychwynnodd fel Raligamps y Fenter Iaith mae S4C yn
ystyried dod â phabell a chamerau i'r wyl. Bydd yn ddiwrnod i'w gofio - felly cadwch y dyddiad yn
glir.
CYHOEDDI CYNLLUN ADDYSG
Mae Cyngor Sirol Dinas Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer addysg Gymraeg yn y Sir. Mae'r
cynllun yn ystyried cynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer disgyblion dan 5 oed, ystyried
agor ysgolion cynradd Cymraeg newydd, datblygu addysg Gymraeg ail-iaith a datblygu'r ysgolion
uwchradd Cymraeg.
Mae'r cynllun yn ystyried y cyrsiau Cymraeg a roddir gan golegau trydyddol y ddinas ond nid yw'n
trafod darpariaethau eraill Adran Addysg y Cyngor Sir megis Addysg i Oedolion a Chanolfannau
Ieuenctid.
Mae'n siwr y bydd trafod helaeth ar y ddogfen gan rieni ac athrawon yr ardal. Gofynnir i unrhyw
sylwadau gael eu rhoi erbyn Mai 8ed. Gellir cael gwybodaeth a chopi o'r Cynllun oddiwrth Mr
Rhodri Jones, Adran Addysg y Ddinas. Ffôn: 01222 872000.
RHAGOR O BLANT
Disgwylir i'r nifer o blant sy'n cychwyn yn yr ysgol yn ystod y ddwy flynedd nesaf i gynyddu yn
sylweddol yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r awdurdod iechyd wedi rhoi gwybodaeth i'r Cyngor Sir y
bydd 500 o blant yn ychwanegol yn cychwyn yn yr ysgol. Bydd hyn yn cynyddu'r cyfanswm o blant
dan 5 oed sy'n derbyn addysg o 8,750 nawr i 9,281 yn y flwyddyn 2000.
Mae'r Cyngor Sir yn disgwyl ehangu y ddarpariaeth feithrin - bydd rhaid pwyso fod ehangu yn y
ddarpariaeth drwy'r Gymraeg yn digwydd ar yr un pryd.
YR URDD YN DATBLYGU
Yn y rhifyn hwn o Tafod Elái rhoddir gwybodaeth am ddatblygiadau newydd i ieuenctid yn yr ardal.
Fe fydd pedwar o swyddogion yr Urdd yn yr ardal sef Dyfrig Morgan, Rhodri Francis a Delyth
Caffery yn ogystal â swyddog ieuenctid y Dalaith, Aron Evans. Mae'r Urdd wedi cynyddu yn
sylweddol buddsoddiad o staff yn yr ardal yn ystod y pedair blynedd dwetha. Disgwyliwn weld
syniadau cyffrous a newydd yn dilyn y buddsoddiau newydd yma gan yr Urdd.
POB HWYL YN EISTEDDFOD YR URDD
PWLLHELI
25 - 30 Mai