SGWRS I'R DYSGWYR
Marchnad Ponty
Melanie: Bore da Meinwen, shwd wyt ti?
Meinwen: Bore da Melanie. Wi'n iawn diolch a tithe?
Melanie: Da iawn diolch. Beth wyt ti'n ei wneud ym marchnad Pontypridd?
Meinwen: Wi'n siopa munud olaf ar gyfer y Pasg.
Melanie: Wyt ti'n mynd i fod yn brysur dros y Pasg?
Meinwen: Ydw. Mae fy nheulu yn dod i lawr o'r Gogledd i aros dros y gwyliau - y teulu'n dod at
ei gilydd fel petae.
Melanie: O leiaf mae'r arlwyo'n dod yn hawdd i ti.
Meinwen: Dyw hi ddim mor hawdd yn y tí. Mae Nain a Taid, Mam, Dad, Ewythr Gareth, fy
mrawd a'i deulu a fy chwaer a'i gwr yn dod - un deg tri ohonyn nhw, a fy nheulu i -
dau ddeg i gyd. Yn wahanol i'r caffi mae'n rhaid gweini'r bwyd i bawb ar yr un pryd,
a mae disgwyl i fi eistedd i lawr hefyd! Beth bynnag wi'n gobeithio paratoi bwyd
Eidalaidd go arbennig. Dyna pam wi yn fan hyn - i ddewis pysgodyn ffres o'r stondin
bysgod.
Melanie: Rwyt ti bob amser yn ymddangos yn drefnus iawn yn y caffi. Wi'n siwr y doi di i ben
yn iawn.
Meinwen: Mi ddof i ben â phethau yn siwr, ond a wnaf fwynhau sy'n beth arall. Pam wyt ti yma
mor gynnar?
Melanie: Chwilio am fargeinion, rwy'n mwynhau edrych o gwmpas.
Meinwen: Hoffwn i petai gen i amser i wneud hynny. Mae blynyddoedd ers i fi gael diwrnod da
o siopa, heblaw am brynu bwyd i'r caffi. Sut aeth cystadleuaeth canu Ben yn yr
Eisteddfod?
Melanie: Fe ddaeth yn ail. Roeddwn yn falch iawn ohono ond braidd yn siomedig, roedd e
braidd yn nerfus ac felly ddim ar ei orau.
Meinwen: Mae ganddo flynyddoedd o'i flaen. Mae'n siwr o wneud yn dda pan fydd o'n hyn ac yn
fwy hyderus.
Melanie: Wi'n siwr dy fod yn iawn, ond mae'n dweud nad yw eisiau canu eto, wi wedi gorfod
canslo ei wersi canu.
Meinwen: Beth wyt ti'n ei wneud dros y Pasg.
Melanie: Pasg tawel fydd hi - dim ond y tri ohonom. Efallai y cawn ni drip diwrnod i rywle os
bydd y tywydd yn braf.
Meinwen: Mae nhw yn gaddo eira.
Melanie: O na, ddim dros y Pasg. Roeddwn i'n gobeithio mynd i Sain Ffagan, wi'n hoffi'r felin
a'r hen dai. mae'n ddiddorol gweld sut oedd y bobol yn arfer byw, roedd hi'n amser
caled. Mae'n gwneud i fi deimlo'n lwcus i gael fy meicrodon, peiriant golchi llestri,
rhewgell a'r 'jacussi'.
Meinwen: Oes, mae diogon i'w weld yn Sain Ffagan beth bynnag yw'r tywydd. Mae'r amgueddfa
yn ddiddorol iawn.
Melanie: Fe alwa i mewn am baned a chacen gri rywbryd ar ôl y Pasg, Hwyl am nawr.
Meinwen: Ie, edrychaf ymlaen am dy weld. Cymer ofal. Hwyl.
Ffilmiau Cymreig gan Philip Wyn Jones
Cyfrol ddiweddaraf y gyfres Hwylio Mlaen yw Ffilmiau Cymreig gan Philip Wyn Jones. Mae'r
gyfrol hon wedi ei rhannu i ddwy ran, sef ffilmiau Saesneg am Gymru rhwng 1935 a 1953, a
ffilmiau Cymraeg adnabyddus a gynhyrchwyd ers sefydlu S4C.
Mae'r awdur yn amlwg yn wybodus iawn am y byd ffilmiau ac wedi dadansoddi nifer o agweddau
am y ffilmiau unigol, gan gynnwys cyfarwyddo, actio, sgriptio a ffotograffiaeth. Mae ei
ddadansoddiad yn aml iawn yn feirniadol, ac yn gosod y ffilm yng nghyd-destun y byd ffilmiau
Seisnig. Er enghraifft, gyda ffilmiau megis How Green was my Valley a Proud Valley mae'r
ystrydebau am Gymru a'r iaith Gymraeg yn amlwg iawn, ac mae'r awdur yn cyfeirio at rai
golygfeydd chwerthinllyd o ran y ddelwedd Gymreig a'r defnydd o Gymraeg. Mewn ffilmiau eraill
mae'r awdur yn tynnu ein sylw at gyfarwyddo da ac actio arbennig, er enghraifft, actio Mervyn
Johns yn Half Way House.
Yn ail ran y llyfr mae Philip Wyn Jones yn rhoi golwg feirniadol ar nifer o'r ffilmiau Cymraeg
enwocaf, megis Milwr Bychan, Rhosyn a Rhith a Hedd Wyn. Eto cawn wybodaeth dreiddgar am
gefndir a chynnwys y ffilmiau gyda'r awdur yn barod iawn i roi ei farn am eu cryfderau a'u
gwendidau. .
I unrhyw un sydd â ddiddordeb yn hanes y diwydiant ffilm yng Nghymru, mae'r llyfr hwn yn llawn
gwybodaeth a lluniau trawiadol. Daw'r awdur a naws y ffilmiau yn glir gan eich annog i weld, neu
i beidio gweld, rhai o'r ffilmiau Cymreig enwocaf. Fel gyda holl lyfrau'r gyfres Hwylio Mlaen mae
geirfa gynhwysfawr i'ch cynorthwyo ac i'ch helpu i fynd ymlaen i ddarllen y Gymraeg.
Hwylio Mlaen 9
Y Lolfa £3.95
Nol i'r dechrau