Mwnci
Pe bawn i yn anifail,
Wel mwnci fyddwn i,
Am ei fod yn ddringwr da,
A hynny sydd yn sbri.
Cawn ddringo coeden uchel,
Ac eistedd arni hi,
A thaflu ambell fesen,
O dop y dderwen gry'.
Petawn i'n fwnci clyfar,
Cawn fwyta drwy y dydd,
A chuddio'r crwyn banana,
Yn slei o dan y pridd.
Ac eto dyma fantais,
Dim ysgol fydd i mi.
Dim nofio ar nos Wener,
Na moron ych-a-fi.
Petawn i'n fwnci lwcus,
Fe gawn i hwyl a sbri,
Petawn i'n fwnci lwcus,
Dyna ddwedes i.
Carwyn Hedd Sion
Ysgol Gyfun Rhydfelen