NEWYDDION LLEOL
LLANTRISANT
Gohebydd Lleol: Glenys Roberts
Wir yr Mr Golygydd, dw i wedi bod wrthi ers dwyawr a hanner yn trio casglu newyddion y mis
yma, ond tenau iawn oedd hi, fel y gwelwch. Roedd pawb naill ai wedi bod yn sâl, allan, neu i
ffwrdd. Ydy pawb sy'n darllen y Tafod yn athrawon?
CROESO ADREF
Mae Eric a Dilwen wedi dod yn ôl o deithio Awstralia, achos mae pobol wedi eu gweld nhw yn
crwydro'r Llan efo hetiau Crocodile Dundee am eu pennau, ond doedden nhw ddim i mewn gynnau
pan ffoniais i, felly bydd yn rhaid i'r hanes aros tan y mis nesaf. Ac erbyn hynny, peryg y byddan
nhw wedi codi'u pac eto am Dwrci ... braf ar rai!
CYFEILIO'R DAWNSWYR
Yn Budapest yr oedd Llinos Swain pan ffoniais i yno, wedi gadael ei gër druan unwaith eto, a hynny
noson ar ôl dychwelyd o Paris! Chwarae'r ffidil i Dawnswyr Nantgarw y mae hi, mae'n debyg, felly
mae'n siër mai yn Budapest y mae Wyn a Beth Thomas hefyd, felly does dim pwynt imi ffonio yno.
AROLWG
Does dim pwynt imi ffonio athrawon Llanhari chwaith, achos mae'n nhw'n rhy brysur yn paratoi ar
gyfer yr arolwg yr wythnos nesaf. O leiaf dydyn nhw wedi colli fawr o dywydd y gwyliau yma.
A dyna ni - roedd pawb arall allan. Neu wedi bod yn sâl a heb weld neb am sgwrs ers oes. Dw i'n
dweud wrthoch chi, os na wna i'n well y mis nesaf, mi fydd yn rhaid imi fewnfudo rhyw deulu
dychmygol go sbeisi i'r ardal a dechrau sgwennu amdanyn nhw. Sgwn i fasai rhywun yn sylwi!
TAFARN Y CROSS
Roedd y Cross yn ddigon llawn pan alwon ni heibio neithiwr i'w weld ar ei newydd wedd. Digon
dymunol ro'n i'n meddwl, ond dyw'r decor ddim yn plesio pawb. Ac mae rhai o'r hen (hen) noddwyr
yn cwyno bod y clientel wedi newid - rhyw bobol yn gwisgo clustdlysau a chapiau baseball a 'ballu
yn heidio yno mae'n debyg, er na welais i neb felly. Mi fyddan nhw'n dechrau paratoi bwyd yno
ymhen rhyw ddwy neu dair wythnos mae'n debyg. Amser cinio a than tua saith o'r gloch yr hwyr.
TONTEG A PHENTRE’R EGLWYS
Gohebydd Lleol: Helen Jones
SWYDD NEWYDD
Dymuniadau gorau i Helen Fitzgerald, Crown Hill, yn ei swydd newydd fel cydlynydd Meithrin yn
ardal Caerffili.
GENEDIGAETH
Llongyfarchiadau i Lowri Wyn Owen a David Rizzo ar enedigaeth eu mab, Dafydd, ëyr cyntaf i
Eleanor a Meredydd Owen, Cheriton Grove, Tonteg.
Llongyfarchiadau hefyd i Paul a Linda Jones, Pen yr Eglwys ar enedigaeth merch, Lauren Isobella
ar y 6ed o Ebrill.
YSGOL FEITHRIN PENTRE'R EGLWYS
Bore Sadwrn 16eg o Fai fe fyd Bore o Hwyl i'r plant yn Neuadd y Plwyf rhwng 10 a 12 o'r gloch.
Mynediad £1.50 yn cynnwys diod - dewch am dro. Nos Fercher yr 20fed o Fai - noson sgitls yn y
Ganolfan Chwaraeon - croeso i bawb.
CERDDORIAETH
Llongyfarchiadau i Manon Humphreys, Y Padocs, Pentre'r Eglwys a Ffion Rees, Briar Way,
Tonteg, y ddwy wedi pasio arholiad gradd 2 piano gyda theilyngdod. Hefyd i Menna Davies,
Highmead, Pentre'r Eglwys ar basio gradd 1 piano gyda theilyngdod a gradd 2 canu, hefyd gyda
theilyngdod.
CYDYMDEIMLAD
Estynnwn ein cydymdeimlad tuag at Tina Chambers a'r plant yn dilyn marwolaeth trychinebus
Steven Chambers, Crown Hill, yn ddiweddar.
PRAWF GYRRU
Llongyfarchiadau i Helen Easterbrook, Cilgant Conwy, Tonteg ar basio ei phrawf gyrru.
CLWB SIARAD
Bydd ein cyfarfod nesaf yn y Farmer's Arms, Pentre'r Eglwys am 8 o'r gloch nos Fercher, Mai 11eg.
Dewch am sgwrs - Cymry Cymraeg a Dysgwyr. Ar nos Fercher yr 20fed o Fai byddwn yn chwarae
sgitls (a siarad Cymraeg!) yn erbyn tîm yr Ysgol Feithrin yn y Ganolfan Chwaraeon - croeso i bawb.
Rydym yn ddibynnol ar help siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl i helpu gyda'r sgwrsio, felly
cofiwch andanom os gwelwch yn dda.
PONTYPRIDD
Gohebwyr Lleol:
Delyth Jones a Jayne Rees
Ysgol Pont Siôn Norton
Llongyfarchiadau i'r canlynol a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Sir yr Urdd yn Aberdâr :
Unawd Cerdd Dant dan 8 oed - Nia Sheppeard
Unawd 8 - 10 oed - Jessica Jones
Llefaru 8 - 10 oed - Gwenno Jones
Unawd Cerdd Dant 8 - 10 oed - Gwenno Jones
Unawd Cerdd Dant 10 - 12 oed - Branwen Hâf
Côr Adran dan 12 oed
Drama dan 12 oed
Dymuniadau gorau iddynt ym Mhwllheli.
Seren Y Teledu
Cafodd Lowri John (Ysgol Pont Siôn Norton) wyliau Pasg prysur iawn yn ffilmio yn stiwdio HTV
yng Nghroes Cwrlwys. Fe fydd Lowri yn ymddangos yn y rhaglen 'Ding Dong' sydd yn cael ei
ddarlledu dechrau mis Gorffennaf.
Dewiswyd Lowri i chwarae rhan plentyn yn y rhaglen pan ddaeth Cwmni Fflic i'r ysgol i weld y
plant yn perfformio. Fe fydd hi'n ymddangos gyda Caryl Parry Jones a Mici Plwm.
CLWB 200 CLWB Y BONT
Enillwyr Ebrill 1998.
1af £50 Roy Lewis
2il £30 Geraint Thomas
3ydd £20 Kristina Stockley
Nol i'r dechrau