Rhifyn 127   MAI 1998


Menter Iaith

01443 226386

PARTI PONTY AR Y FFORDD

Mae'r trefniadau'n dod ymlaen i sicrhau Parti Ponty ar 4/7/98 gyda nifer o gyrff yn ymuno â Menter Iaith a Radio Cymru er mwyn sicrhau diwrnod llawn hwyl ar bedair llwyfan yn y parc. Mae Llwyfan Banc Barclays o ddigwyddiadau cymunedol, a drefnir gan Menter Iaith, yn cynnwys perfformiad llawn gan Martin Geraint, corau ysgolion Cymraeg Evan James, Bodringallt a Llyn y Forwyn, perfformiad Traed y Ddraig y grëp dawnsio disgo llwyddiannus a Noson Lawen y criw drama mega enwog y Diawled Dawnus. Bydd perfformiad hefyd o ddrama newydd Ian Staples gan Gwmni Theatr Spectacle sydd yn dod â'u taith i ben ar y diwrnod.

Cyn i'r perfformiadau ddechrau ar lwyfan Banc Barclays bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn trefnu'r Rasys Meithrin lle bydd Menter Iaith yn cynnig y gwobrau ariannol hael arferol i rieni wneud ffyliaid o'u hunain wrth geisio perswadio'r plant bach bach i gystadlu o ddifrif ac fe fydd pawb yn mwynhau. Bydd y Rasys Raligamps go iawn lle mae oedolion, ieuenctid a phlant yn ymuno yn yr hwyl yn dod tua diwedd y prynhawn ar ddiwedd y sesiynau hyfforddiant chwaraeon a drefnir gan Urdd Gobaith Cymru. Ar hyn o bryd y maent yn cynnig pêl-droed, criced a thenis ond mae'n bosib y bydd modd iddynt ychwanegu mwy yn nes at y dyddiad.

Bydd prif lwyfan Radio Cymru yn dechrau gyda Ram Jam Dafydd Du yn cael ei ddarlledu yn fyw cyn cadw'n symud trwy'r dydd gyda rhai o grwpiau mwya Cymru megis Sobin a'r Smaeliaid, Siân James, Gwachamoli, Iwcs a Doyle ac eraill a all gynnwys brenin y byd reggae Cymraeg Geraint Jarman. Mae Rhys Mwyn o Gwmni Sain wedi bod yn brysur fan hyn. Ac ie, wrth gwrs, bydd grwpiau lleol yr ardal hefyd yn cael cyfle i berfformio a gwneud eu marc o flaen enwogion y genedl. Bydd nifer o'r grwpiau yn gwneud perfformiad llawn ar fandstand y parc, sef trydydd llwyfan y diwrnod, er mwyn gwneud yn sicr bod digonedd o gyfle gyda phawb i glywed eu hoff berfformwyr.

S4C fydd yn darparu pedwerydd llwyfan y diwrnod gan ddod â'u taith haf i ganol yr hwyl gyda pherfformwyr ac arddangosfeydd o sawl un o'u rhaglenni. Mae'n bosib y bydd ambell un yn cael eu recordio yn y parc yn ystod y diwrnod i'w darlledu yn hwyrach. Ac wrth feddwl am y trefniadau hwyrach mae rhaid cydnabod gwaith Clwb y Bont a Chymdeithas yr Iaith a fydd yn rhoi Steve Eaves ymlaen ar y nos Wener 3/7/98 a Topper ar nos Sadwrn 4/7/98 er rwy'n deall y bydd Topper yn chwarae mewn clwb arall mwy o faint.

GOFAL AR ÔL YSGOL

Ar ôl ceisio holi am ddiddordeb mewn trefnu clybiau ar ôl ysgol mewn chwe ysgol gynradd Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf ymddengys y bydd cyfarfodydd cyhoeddus mewn tair ysgol wrth i ni symud yn nes at wireddu'r freuddwyd yn Ysgolion Castellau a Heol y Celyn yn Nhaf-Elai ac Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon yng Nghwm Cynon. Cafwyd ymateb gwych i'n holiaduron yn yr ysgolion hynny ac y mae'n bosib y bydd modd sefydlu cynlluniau yn ystod yr Hydref. Wrth gwrs mae hyn yn dibynnu ar gefnogaeth rhieni'r ysgolion ac fe fydd y cyfarfodydd dwyieithog, gyda offer cyfieithu er mwyn sicrhau bod cyfle gyda phawb i gyfrannu, yn gyfle i weld faint o wir gefnogaeth sydd i'r syniad. Trefnir y cyfarfodydd hyn erbyn canol mis Mai felly edrychwch am fanylion yn yr ysgolion neu cysylltwch â'n swyddfa yn nes at y dyddiad.

CAIS AM GEMAU BWRDD AC ATI

Os oes gyda chi gemau bwrdd mewn cyflwr gweddol mae gwir angen adnoddau ar gynlluniau chwarae'r Fenter. Os oes gennych rywbeth i gynnig ffoniwch Glenys Jones ein Swyddog Gofal Plant. Mae eisiau adnoddau a help hefyd ar Glwb Carco Ysgol Efan James, y cynllun gofal ar ôl ysgol sydd yn tyfu ac yn tyfu, sydd nawr yn dechrau ar ei dymor annibynnol cyntaf. Dymuniadau gorau iddyn nhw.

GOFAL YN YSTOD Y GWYLIAU

Bydd cynlluniau gofal y Fenter ar agor am dridiau adeg y Sulgwyn yn Llanhari, Rhydfelen , Y Cymer ac am y tro cyntaf Rhydywaun lle mae disgwyl i Ann Clwyd AS wneud ymweliad sydyn. Mae ffurflenni cais ar gael gan ffonio 226386. Roedd cynlluniau'r Pasg yr un mor llwyddiannus ag erioed gyda hyd at 120 o blant y diwrnod yn eu mynychu a chyflogi dros ugain o bobl ifanc i edrych ar eu holau.

CLYBIAU WYTHNOSOL

Bydd llawer o'n clybiau wythnosol wedi ail agor erbyn hyn - ymddiheuriadau fod ambell i ddyddiad a lleoliad yn anghywir yng nghylchlythyr diwethaf y Fenter - mae'r manylion diweddaraf ar gael o'r swyddfa. Wrth dderbyn bod camgymeriadau'n digwydd hoffwn bwysleisio ein bod yn ceisio gwneud gwaith saith o bobl gyda staff o ddau felly braf ydy cael deall fod ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau mwy o staff i ni yn lle llai. Cofiwch fod croeso i chi ymuno ag unrhyw un o bwyllgorau'r Fenter os oes diddordeb gennych. Mae llawer iawn mwy o newyddion gennym ond rhag ofn fod Golygydd Tafod Elái,sef Cadeirydd y Fenter, yn grac rwy'n gorffen fan yma - ffoniwch am fanylion 01443 226386 !

Nol i'r dechrau