RYGBI YN LLANHARI


Tïm Rygbi Ysgol Gyfun Llanhari yn derbyn eu kit newydd oddi wrth Paul Beddoe, Cwmni Leekes ar gyfer eu taith i Dubai.

TAITH I DUBAI
HER YN YR ANIALWCH

Yn ystod mis Ebrill cynrychiolodd tîm 1af Rygbi Ysgol Gyfun Llanhari, Cymru, mewn cystadleuaeth Rhyngwladol i Ysgolion yn Dubai, 'Y Gulf'. Treuliodd sgwad o 21 o Fechgyn, o dan arweiniad Iolo Roberts ac Irfon Bennett, 10 diwrnod yn Dubai lle chwaraewyd 4 gêm yn erbyn ysgolion o Seland Newydd, Zimbabwe, De Affrica ac Awstralia.

Roedd safon y Rygbi yn hynod o uchel a colli bu hanes Llanhari ymhob gêm. Dywedodd y capten Owen Thomas "Roedd yn brofiad gwych i chwarae yn erbyn timau o wledydd Hemisffer y De, ond roeddwn yn siomedig i ni golli pob gêm. Sylwais paham mae Rygbi Cymru mor bell tu ôl i'r gwledydd yma, ac mae gennym ni waith caled i wneud er mwyn cyrraedd safon goreuon y byd."

Gwelwyd y gwahaniaeth mwyaf yn y gemau yn erbyn Seland Newydd a De Affrica "Roedd agwedd proffesiynol yn perthyn i'r timau yma ac roedd cyflymdra'r gem yn hollol ddieithr i ni. Siaradais hefo'r chwaraewyr, roedd bechgyn Auckland wedi bod yn codi pwysau ers deuddeg blwydd oed, ac roedd eu dull o chwarae yn adlewyrchu'r tîm cenedlaethol. Cefais sioc i weld maint rhai or chwaraewyr. Roedd prop De Affrica yn 18 oed, yn 6 troedfedd 3 modfedd ac yn pwyso 18 stone!!!"

Er colli pob gem oedd hanes Llanhari cafwyd canmoliaeth gan y dyfarnwyr. Cytunodd y dyfarnwyr ar ddiwedd y gystadleuaeth mae gan Llanhari oedd y sgiliau gorau o bob tîm. Felly mae'n ymddangos bod gan y Cymry y talent naturiol ond nid yw strwythur y gêm yng Nghymru yn datblygu y chwaraewyr yma. Mae Undeb Rygbi Cymru yn gwario £120 miliwn ar stadiwm newydd, ond pan ofynnodd Llanhari am gyfraniad i'r daith nid yw'n syndod clywed mae `na' oedd ateb yr Undeb. Cefnogwyd y 7 gwlad arall yn y gystadleuaeth: Seland Newydd, Zimbabwe, De Affrica, Awstralia, Iwerddon, Alban, Lloegr ar UAE gan eu Hundeb Rygbi nhw.

Dywedodd Owen "Cafwyd cymorth i Lanhari oddiwrth llawer o gwmniau ac awdurdodau lleol, a mawr yw'n diolch iddynt a'r athrawon, bechgyn a'i rhieni a werthodd docynnau raffl yn yr ymgyrch i godi arian."

Enillwyr y gystadleuaeth oedd Auckland, gyda'r buddugoliaeth yn erbyn Greys De Affrica yn sicrhau eu llwyddiant.

Canlyniadau Llanhari

Auckland Grammar School, Seland Newydd 38 - 3
Falcons College -Zimbabwe 22 - 17
Greys College - De Affrica 51 - 0
Southpart School - Awstralia 15 - 0
GETHIN THOMAS

RYGBI LLANHARI

Mae yna ddau beth sy'n cysylltu Scott Gibbs, Matthew Back a Gareth Wyatt i'w gilydd. Yn gyntaf mae'r tri wedi ennill cap llawn dros Gymru; Yn ail, maent i gyd yn gynddisgyblion o Ysgol Gyfun Llanhari.

Mae'r ysgol yn ei maint, ei lleoliad a'i record academaidd yn digon cyffredin ac yn nodweddiadol o'r Ysgol Gyfun Gymraeg - mae ei thraddodiad rygbi, ar y llaw arall, yn bell o'r cyffredin.

Gyda chymdogion hyglod fel Hawthorn High School, Brynteg CS, Cowbridge CS ac Ysgol Glantaf mae'r ysgol wedi bod yn chwarae gemau o safon uchel ers blynyddoedd. Wedi dweud hynny wrth i'r ysgolion eraill lwyddo i gyrraedd eu potensial mae Llanhari wedi bod yn tangyflawni yn wael. Yn 1995 roedd gan yr ysgol efallai y tîm cyntaf gorau yn ei hanes. Fel Pontypool yn y 70au roedd yna reng flaen rhyngwladol ac roedd Wyatt, gwibiwr dan 18 Cymru, ar yr asgell dde. Yn rownd agoriadol Cwpan Cymru fe fethodd y tîm i guro Coleg Castell Nedd mewn gem agos, gyffrous ac aeth y coleg ymlaen i gyrraedd y rownd derfynol yn hawdd.

Er i llwyddiannau'r ysgol gael eu ystyried yn siomedig ganddyn nhw mae nifer o dlysau wedi dod yn ôl i Lanhari. Mae cwpan dan 14 Cymru wedi ei ennill ddwywaith ac mae'r ysgol wedi bod yn fuddugol yn nghystadleuthau saith-bob-ochr Cymru dan 14 ac 16. Nid mater o lwc yw hi chwaith bod rhwng 1 a 4 chwaraewr yn Llanhari wedi chwarae dros Ysgolion Cymru pob blwyddyn am y pedair mlynedd diwethaf.

Eleni mae'r tîm cyntaf, a arweinir gan y canolwr Owen Thomas, wedi profi tymor o deimladau cymysg. Maent wedi chwarae rygbi gwefreiddiol ar adegau ond hefyd wedi dioddef mwy nag un siom tor-galonnus. Dechreuodd y tymor yn llawn gobaith wrth guro Coleg Llanymddyfri o 29-13 a symud yn esmwyth trwy rowndiau cynnar cwpan Cymru gan sgorio dros 60 pwynt yn olynol yn rowndiau dau a thri. Fe chwaraewyd rygbi gorau'r tymor yn erbyn Millfield mewn gem arbennig ond sicrhaodd dau rhyng-gipiad hwyr fuddugoliaeth lwcus i'r Saeson o 34-29. Yn yr wythnos a ddilynodd enillodd Llanhari mwy o barch ond nid y gem yn erbyn Colston's Collegiate, Pencampwyr Lloegr, ac yna llwyddo i gyrraedd rownd gyn-derfynol cwpan Cymru am y tro gyntaf yn hanes yr ysgol gan guro Bishop Gore 32-17.

Siom oedd i ddod ar ôl i'r tîm ddangos cymaint o addewid. Colli bu'r hanes yn erbyn Brynteg yn rownd gyn-derfynol y Cwpan, ar ôl sgorio tri chais i un roedd y sgôr terfynol o 16-15 yn anodd i dderbyn. Cystadleuthau saith-bob-ochr sydd yn gorffen y tymor ac mewn 5 cystadleuaeth collwyd un rownd derfynol, dau gyn-derfynol ac unwaith yn rownd yr wyth olaf. Yn Nghystadleuaeth Cenaedlaethol 7-bob-ochr yn Llanymddyfri fe gurwyd pawb yn hawdd cyn taflu'r twrnament i ffwrdd yn y rownd derfynol trwy golli 22-21 i Faes-Yr-Yrfa.

Er yr holl siomedigaethau mae yna ddigonedd o obaith am y flwyddyn nesaf. Pedwar yn unig o'r chweched uchaf oedd yn y tîm cyntaf eleni ac mae'n amlwg bydd yna garfan gref yn 1998/99. Eleni roedd yna ddeg chwaraewr sydd wedi cynrychioli'r Sir a pedwar a.wnaeth gynrychioli Cymru dan l6 llynedd yn y XV cyntaf. Mae Owain Ford wedi ennill. ei drydedd cap dros Gymru dan 16 ac mae Rhodri Morris wedi ennill ei gap dan ddeunaw. Yn ogystal a Morris mae Geraint Jones, Gethin Worgan a Jason Simpson yn y garfan rhyngwladol. Jones yw'r unig un o'r pedwar sydd yn y chweched uchaf felly yn amlwg mae na fwy i ddod.

Mae'r her fwyaf wedi ei gynnig i Llanhari yn bell i ffwrdd o gaeau oer, mydlyd De Cymru. Ar Ebrill y Chweched fe fydd 21 o fechgyn yr ysgol yn teithio i Dubai i gynrychioli Cymru mewn Cystadleuaeth Rhyngwladol i Ysgolion. Mi fyddent yn chwarae yn erbyn cynrychiolwyr o Zimbabwe, De Affrica, Awstralia a Zeland Newydd.

Mae pris yr unigolyn am y daith wedi ei leihau i £220 diolch i noddwyr cefnogol. Mae'r Swyddfa Bost, Leekes, Burberrys, Kapper/Spar, Cynghorau lleol, Bosch, Provident a Celtic Energy i gyd wedi bod yn hael iawn yn eu cefnogaeth.

Robert Lamb
Nol i'r dechrau