YSGOL GYMRAEG GARTH OLWG

PRIODAS

Dymuniadau gorau i Mr a Mrs R Langdon (Barbara Blunden gynt) cynorthwy-wraig dosbarth yng nghyfnod allweddol 1 a 2, ar eu priodas ar Ebrill 11.

EISTEDDFOD SIR YR URDD

Llongyfarchiadau i blant yr ysgol a fu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Sir ym Mhorthcawl ar ddiwedd Mawrth. Yn dilyn eu llwyddiant, fe fydd y Parti Unsain, y parti Deulais a Manon Humphreys yr unawdydd llafar dan 10 oed yn cynrychioli Bro Morgannwg Ganol ym Mhwllheli. Dymuniadau gorau iddynt.

DIWRNOD GWISGO FEL CYMERIAD O LYFR CYMRAEG

Fe fydd Ebrill 30 yn ddiwrnod cyffrous yng Ngarth Olwg - diwrnod o gyfle i bob disgybl yn yr ysgol wisgo fel cymeriad o'u dewis eu hunain, o unrhyw lyfr Cymraeg. Edrychir ymlaen at ddiwrnod lliwgar a chyffrous.

CYNGERDD NIA

Mae plant blwyddyn 5 yn edrych ymlaen at gyngerdd NIA a'r Twmiaid Bach yng Nghapel Taberncal Efail Isaf ar Mai 1af.

SIOE 'Y BLODYN PRIN'

Mae'r plant Meithrin/Derbyn yn edrych ymlaen at eu hymweliad â Theatr y Miwni ar gyfer y sioe "Y Blodyn Prin" (Martin ac Wcw - Slot Meithrin).

YMWELIAD ADDYSGOL

Fe fydd nifer o deithiau addysgol yn rhan o'r amserlen yn ystod hanner cyntaf tymor yr Haf - taith i Borthcawl (lleoliad gwrthgyferbyniol); Techniquest a'r Imperial War Museum.

Y GYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON

Gweithgareddau ar y gorwel - Mai 21 Ocsiwn yn neuadd yr Ysgol. Helfa Drysor ar ddechrau Mehefin. NOSON JAC Y DO ar Gorffennaf 3 yng nghlwb Tí Nant, Beddau. Estynnir gwahoddiad yn eang - awydd y Gymdeithas Rhieni Athrawon yw am i Gymry Cymraeg a Di-Gymraeg yr ardal ymuno yn y noson hon. Tocynnau ar gael o'r ysgol - 202585.

Ysgol Castellau

Eisteddfod Sir

Llongyfarchiadau i'r Grwp Dawnsio Disgo a ddaeth yn ail yn yr Eisteddfod Sir ym Mhorthcawl ac i Petra Davies am eu hyfforddi.

Rygbi

Bu'r bechgyn yn brysur yn ymarfer ac yn chwarae'r gemau canlynol: Cystadleuaeth 7 bob ochr yr Urdd Gemau yn erbyn ysgolion Cefn, Evan James a Maes -y-Coed.

Chwaraeon

Llongyfarchiadau i Jade Keene ar ei lwyddiant yng nghystadlaethau Judo ac i Jason Jones ar ei lwyddiant yng nghystadlaethau Sboncen. Dewiswyd Rachel Owen, cynddisgybl o'r ysgol yn aelod o dim Sboncen Cymru.

Y Pasg

Cafwyd prynhawn hwyliog yn y neuadd ar Ebrill 8fed pan ddaeth rhieni Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn i weld y Sioe Hetiau Pasg. Cyflwynwyd eitemau gan y côr a'r dawnswyr disgo yn ogystal ag arddangosfa o hetiau lliwgar. Bu Andrew Tamplin yn yr ysgol yn cynnal gwasanaethau'r Pasg gyda'r Babanod a'r Adran Iau. Diolch am ei gyfraniad.

Ffarwelio

Ar ddiwedd y tymor, ffarweliwyd â dwy athrawes dros dro, sef Sian Hale a Gill Richards. Diolch i'r ddwy am eu hymroddiad a'u cefnogaeth lwyr i'r ysgol dros y ddau dymor diwethaf.


Nol i'r dechrau