Rhifyn 128 Mehefin 1998
Dydd Sadwrn - 4 Gorffennaf
Parc Ynysangharad
Martin Geraint, Côr Ysgol Evan James, Noson Lawen Diawled Dawnus, Côr Ysgol Bodringallt, Dawnsio
Disgo Traed y Ddraig, Côr Ysgol Llyn y Forwyn, Dawnsio Disgo Ysgol Castellau, Ecstrafagansa 150 o
blant Ysgol Llantrisant
Radio Cymru yn Fyw o'r Parc
11.00 Ram Jam Dafydd Du, Alun O, Beks ac Eden, Guacamoli a Geraint Jarman a'i fand.
1.00pm Hywel Gwynfryn, Kevin a Nia, Geraint Lloyd yn Taro'r Targed a Chris Needs ar y piano.
3.00 pm Jonsi, Bryn Fôn, Iwcs a'i Fand. Siân James.
Chwareon gyda'r Urdd a Chyngor Rhondda Cynon Taf.
Stondinau S4C, Gemau, Bandiau
Gig Nos Sadwrn Cymdeithas yr Iaith
Rheinallt H Rowlands a Silicon
Roedd Radio Cymru wedi gwahodd nifer o fudiadau at ei gilydd i greu diwrnod arbennig mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn tyfu, ac ers hynny mae sawl corff fel Menter Iaith , Mudiad Ysgolion Meithrin, Yr Urdd, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Golwg, Y Cymro, Cymdeithas yr Iaith, S4C, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cwmni Recordiau Sain ynghyd â nifer o gyrff ac unigolion eraill wedi bod yn cynllunio diwrnod na welwyd ei fath erioed o'r blaen!
Penderfynwyd mynd i Barc Ynys Angharad er mwyn cydweithio'n agos â'r Fenter Iaith yn Rhondda Cynon Taf sy'n cynnal digwyddiad llwyddiannus o'r enw "Raligamps" bob blwyddyn. Fe fydd gwahanol ddigwyddiadau o gwmpas y maes ar gyfer pobol a phlant o bob oed ac adloniant byw gan fand pres, grwpiau pop a gwerin gan gynnwys Eden, Gwacamoli, Sian James a Bryn Fôn. Fe fydd S4C yn cynnal sioe arbennig yn ystod y prynhawn, ac fe fydd sesiynau hyfforddi chwaraeon gyda chwaraewyr pêldroed. rygbi a thenis yn y parc.
Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd o'r ardal yn perfformio, ac fe fydd nifer o wahanol stondinau ar wasgar o gwmpas y maes.
Yn ogystal â hyn, bydd dau gyngerdd wedi eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael eu cynnal yn ardal Pontypridd ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, a bydd disgyblion ysgol yn cael cyfle i baratoi rhan o bapur newydd Y Cymro ynghyd â pharatoi rhaglen a fydd y cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru yn ystod y dydd.
Yn ôl Aled Glynne Davies, Golygdd Radio Cymru: "Bwriad y diwrnod yw dangos hyder yn yr iaith, a dangos gwerthfawrogiad i bawb sydd wedi gweithio'n galed iawn yn y rhan yma o Gymru i godi ymwybyddiaeth pobol yr ardal o'r iaith Gymraeg."