NEWYDDION LLEOL
LLANTRISANT
Gohebydd Lleol: Glenys Roberts
GWELLHAD
Dymuniadau gorau i Mr Dewi Bonner, Portreeve Close, sy'n gwella ar ôl llawdriniaeth yn
ddiweddar yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg.
DOTIO AR HEN HANES
Baswn wedi mwynhau cael bod yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llantrisant yn ddiweddar a chael bod
yn gwrando ar Mrs John, fferm Talyfedw gynt, yn siarad â'r plant am ei phrofiadau yn yr ysgol
'slawer dydd. Difyr iawn rwy'n siwr oedd clywed yr hanes am y mishtyr llym a'i gansen a hynny yn
iaith hyfryd yr ardal.
HWYLIO 'MLAEN
Roedd yn dda gweld un o'r llyfrau diweddaraf yn y gyfres yma i ddysgwyr yn cael sylw yn y Tafod
y mis diwethaf. Mae Ffilmiau Cymreig, Philip Wyn Jones yn llyfr difyr dros ben a bydd Cymry
Cymraeg yn ogystal â dysgwyr yn sicr o gael blas arno. Efallai y bydd o ddiddordeb i ddarllenwyr
lleol wybod mai yma yn Llantrisant y casglwyd y lluniau ar gyfer y gyfrol, gan Mari George yn
swyddfa Araul.
Llyfr arall a gyhoeddwyd yr un pryd ac yn yr un gyfres yw Cyfle i Siarad sy'n rhoi syniadau i
ddysgwyr ynglín â lle i fynd i gael cyfle i siarad Cymraeg. Paratowyd y llyfr gan Heini Gruffudd
ac mae'n cynnwys pennod ar Daf-Elái gan Helen Prosser. Byddwch yn falch o glywed, Mr
Golygydd, bod y Tafod yn cael mensh, yn ogystal â chonglfeini enwog cymdeithas Gymraeg yr
ardal, fel Clwb y Bont, Côr Merched y Garth, ac ati.
Mae deg llyfr wedi ymddangos yn y gyfres hon hyd yn hyn, ac mae dwy arall ar y ffordd, sef
Teithiau Cerdded gan Dyfed Elis Gruffydd, a llyfr ar hanes yr iaith Gymraeg gan Cennard Davies
o Brifysgol Morgannwg.
CYMDEITHAS GYMRAEG LLANTRISANT
Cafwyd hwyl a sbri ar y daith i Paris ddechrau mis Mai. Aeth deunaw o aelodau'r Gymdeithas draw
ar daith a drefnwyd gan ein Cadeirydd hynaws, John Thomas, gydag ychydig bach o help gan y
Western Mail. Braidd yn faith oedd yr amser ar y bws, er bod Eifiona wedi gwneud ei gorau i gadw
pawb yn ddiddig efo'i hanesion difyr. Cyrraedd Paris wedi iddi dywyllu nos Sadwrn, a chael golwg
drawiadol ar Stadiwm newydd Cwpan Pêl droed y byd wedi ei oleuo yn erbyn awyr y nos. Ymlacio
yn y gwesty ac yna taith i Versailles a'i holl foethusrwydd fore Sul. 'Dim rhyfedd 'bod nhw wedi cael
chwyldro,' meddai rhyw wag (Cliff siwr o fod!). Cinio traddodiadol Ffrengig nos Sul ac yna taith i
lawr Afon Seine. Bore Llun yn crwydro Paris ac yna yn ôl am y twnnel - heb anghofio aros i
fanteisio ar gyfle olaf i ymweld â'r duty free wrth gwrs. Pawb wedi ymlâdd, ond wedi mwynhau ac
ymlacio'n llwyr. Diolch John!
Cofiwch am y daith ar 27 Mehefin ar y trên i Ddinbych y Pysgod. Cysylltwch â Gwilym Treharne
(223810) os hoffech ddod. Dewch â bwced a rhaw!
PONTYPRIDD
Gohebwyr Lleol:
Delyth Jones a Jayne Rees
GENEDIGAETH
Llongyfarchiadau i Ffion a Craig Duggan ar enedigaeth mab, Dafydd - gwrandawr bach newydd i
Radio Cymru. Ai si taw ei enw barddol fydd "Dafydd y Graigwen".
SYMUD MEWN / SYMUD MAS
Pob lwc i Menna Thomas sydd wedi symud o'r Trallwn i Efail Isaf - i dí newydd ac nid i'r
Carpenters!!
Croeso i Alun Thomas, yn wreiddiol o Aberdar, i Lanwood Road, Graigwen. Mae Alun yn lais
cyfarwydd ar Radio Cymru - a ma fe wedi ymuno â Chôr Godre'r Garth.
MARATHON MAN
Llwyddiant i Owain Llywelyn, Graigwen Parc yn ei farathon gyntaf. Cwblhaodd Owain ras
Llundain mis diwethaf mewn ychydig dros 4 awr. Llongyfarchiadau!
AR WERTH
Yn newydd sbon, beic mynydd 15 gêr, ffrâm 22". Pris i'w drafod. Ffoniwch 01443 209730.
PENBLWYDDI ARBENNIG
Bu dau o fois Graigwen yn dathlu penblwyddi arbennig mis diwethaf. Dymuniadau gorau i Emyr
Wyn Francis, Parc Prospect yn 21 ac i Gareth Miles, Graigwen Parc oedd yn 21 eto!
HENO
Gwelwyd trigolion Maesycoed ar raglen gyntaf "Heno" i'w darlledu ar nos Sadwrn. Sêr am y noson
oedd Alun, Bethan, Mirain ac Osian, Coed y Brenin.
SIOE CWMNI GWEN
Cofiwch y bydd Cwmni Gwen yn cyflwyno y sioe gerdd, Ffatri Breuddwydion, yn y Miwni ar 13 a
14 Gorffennaf.
CYLCH TI A FI
Yn cwrdd yn Church House, Graigwen bob dydd Iau 1.30 - 3.00 p.m. i rieni a phlant 0 - 2½.
Chwarae, Canu, Cerddoriaeth. Croeso i aelodau newydd.
YSGOL EVAN JAMES
Wrth i'r wladwriaeth les ddathlu 50 mlwyddiant cafodd dosbarthiadau 5 hyd 13 ymweld ag
Arddangosfa arbennig yn y ganolfan hanesyddol.
Caiff Blwyddyn 6 gyfle i weld perfformiad arbennig wrth i gwmni drama teithiol Spectacle
ymweld â'r ysgol.
CYNGERDD TENOVUS
Bydd cyngerdd arbennig yn neuadd yr ysgol nos Iau, Gorffennaf 2il am 7.00 pm i godi arian i apêl
Heno a S4C. Bydd eitemau cerddorol, llefaru ac un syrpreis!
Gobeithiwn wneud elw sylweddol o'r noson ar gyfer yr elusen Ymchwil Cancr Tenovus. Am fwy
o fanylion ffoniwch yr ysgol 01443 486813.
EISTEDDFOD
Diolch yn fawr am eu hymdrechion i Trudi, Elina a phlant y parti unsain yn Eisteddfod yr Urdd.
Hoffai'r plant ddiolch i Miss Delyth Wyn Roberts am ei hyfforddiant trylwyr a'i hamynedd.
Nol i'r dechrau