GOFAL AR ÔL YSGOL
Mae pum ysgol wedi dangos diddordeb mawr yn ein cynnig i agor cynlluniau gofal ar ôl ysgol iddynt
ac y mae pedwar ohonynt yn ardal Taf-Elái. Yr ysgolion sydd wedi bod yn ymchwilio i mewn i'r
mater yw Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau, Ysgol Heol y Celyn, Ysgol Y Dolau ac Ysgol
Gynradd Gymraeg Garth Olwg yn Nhaf-Elái ac Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon. Ymddengys
bod digon o blant ar gael a digon o rieni yn fodlon helpu i sefydlu cynlluniau ymhob un o'r ysgolion
hyn. Abercynon, Castellau a Heol y Celyn sydd ar y blaen ar hyn o bryd gan eu bod wedi
gweithredu'n holiaduron yn gynt na'r ysgolion eraill ond rydym yn gobeithio llwyddo i gyflwyno
gwasanaeth yn Y Dolau a Garth Olwg hefyd o fewn y flwyddyn nesaf.
GOFAL PLANT MEITHRIN
Mae'r ymchwil a wnaed ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin hefyd wedi bod yn llwyddiant
mawr gyda dros 50 o blant o dan 5oed yn dangos diddordeb yn y syniad o agor Meithrinfa Gofal
Dydd yn ardal Trefforest. Mawr yw ein diolch i Bryan Owens a wnaeth drefnu'r ymchwil ar ein rhan
a llwyddo i roi'r cynnig o flaen cymaint o fusnesau, sefydliadau ac unigolion. Problem Menter Iaith
a Mudiad Ysgolion Meithrin yn awr ydy gwireddu'r freuddwyd a chyflwyno gwasanaeth, sydd yn
amlwg wrth fodd cymaint o bobl yr ardal, cyn gynted ag y bo modd.
CWRS GOFAL PLANT
Rwy'n sicr nad ydych ddim yn synnu i glywed y bydd cwrs penodol i hyfforddi staff cynlluniau gofal
chwarae a gofal ar ôl ysgol yn cael ei gynnal rhwng 6/7/98 ac 17/7/98 yng Ngholeg Pontypridd a
drefnir gan Danny Grehan sydd wedi cael blynyddoedd o brofiad yn trefnu ac arwain ein cynlluniau
chwarae yn ogystal ag arwain cwrs tebyg yng Ngholeg Glan Hafren Caerdydd llynedd. Os oes
diddordeb gennych - ffoniwch nawr!
FFYDD YN Y GYMRAEG
Na, dwi ddim yn grefyddol fel mae'n digwydd, ond oherwydd bod cymaint yn holi o ble gawn ni
arian, o ble gawn staff, o ble gawn ni diwtoriaid, o ble gawn ddarlithwyr, o ble gawn ni gyfieithwyr
ac ati ac ati teimlaf rheidrwydd i fynegi hyder yn ein hiaith a'n cyd-wladwyr. Fe ddaw'r bobl hyn yn
eu miloedd wrth fod gwaith, cyfle neu addysg ar gael iddynt. Mae miloedd o bobl yn siarad Cymraeg
yn yr ardal, mae miloedd yn dysgu Cymraeg yn yr ardal hefyd ac y maent yn gallu gwneud
gwyrthiau - rydym ni yn gallu gwneud gwyrthiau tasen ni ond yn dangos ffydd yn y Gymraeg.
CWRS BUSNES CYMRAEG
Mae'r cydweithredu yn parhau gyda Menter a Busnes. Bu 10 o bobl yn dangos eu ffydd a'u
diddordeb yn y nosweithiau lansio yn Nhrefforest ac ym Mhenybont ac, fel canlyniad, rydym wedi
llwyddo i sefydlu Cwrs Busnes Cymraeg a fydd yn dechrau yn Nhrefforest ar 16/6/98. Chwe sesiwn
dosbarth nos sydd mewn gwirionedd yn dod i ben erbyn 21/7/98 ar ôl ystyried Datblygiad Person
Busnes/Ymchwil Marchnad / Marchnata / Cysylltiadau Banc a Threthi/Sefyllfa
Gyfreithiol/Ffynonellau Cyllid / Gwaith Timau / Cynlluniau Busnes a'r cam nesaf i aelodau'r cwrs
arloesol hwn. Diolch i Robin Hughes a staff Menter a Busnes am eu cefnogaeth ond diolch hefyd i'r
rhai sydd am ddatblygu eu syniadau busnes - os oes syniad gennych chi - ffoniwch nawr!
GORWELION YN YMESTYN
Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o brosiect arall rydym wedi cefnogi gyda Menter a
Busnes sef prosiect gyrfaoedd Gorwelion. Rwyf yn falch o ddweud bod y prosiect hwn yn fyw o hyd
ac yn gweithio at gynnal cynhadledd gyrfaoedd Cymraeg ym mis Mawrth 1999 ym Mhrifysgol
Morgannwg. Mae'r prosiect nawr o dan weinyddiaeth Cwmni Gyrfaoedd Morgannwg Ganol Cyf. er
bod Menter a Busnes, Menter iaith a'r holl ysgolion yn ymdrechu i ddatblygu'r gwaith cymaint ag y
bo modd. Dylid nodi fod Partneriaeth Addysg Busnes hefyd yn cydnabod yr ymdrechion i ehangu
defnydd o'r Gymraeg wrth wobrwyo cwmni penodol a ddewisir gan bwyllgor Gorwelion bob
blwyddyn.
PWYLLGOR GWAITH
MENTER IAITH YN YMESTYN
Dwi wedi bod braidd yn gas wrth symud prif-bwyllgorau'r Fenter i Bontypridd - bob tro. Gwn fod
hyn yn anodd i ambell un sy'n gweithio yn galed i gefnogi'r Fenter. Serch hynny credaf fod yn rhaid
gwneud hyn er mwyn rhoi cyfle i bobl Rhondda a Chynon ymuno â ni a helpu datblygu ein gwaith.
Ymddengys ein bod yn croesawu cynghorydd y Blaid Lafur a chynghorydd Plaid Cymru i'n
pwyllgor y naill o'r Rhondda a'r llall o Gwm Cynon. Braf ydy cael cynrychiolwyr o bob ardal o
Rhondda Cynon Taf ac o bob plaid wleidyddol. Beth amdanoch chi? Mae digon o angen eich help a
digon o gyfle i chi ymuno yn yr hwyl.
BANC Y MIDLAND YNG NGHANOL HWYL Y DYSGWYR
Cyflwynodd Siân Elin Jones o Fanc y Midland siec am £1,500 i Fenter Iaith yn ystod noson wobrwyo dysgwyr Morgannwg Ganol yn ddiweddar. Cafwyd tipyn o hwyl gyda'r holl ddysgwyr oedd yno ond y rhai o Fanc Lloyds oedd yn gwneud i Siân wenu mwyaf wrth iddi siarad â'r dysgwyr er bod y newyddion bod Banc Barclays yn noddi ein gëyl haf yn agoriad llygad iddi hefyd !. Mae'r dysgwyr i gyd wedi cael gwahoddiad i BBQ a Thaith Gerdded a gynhelir am 2pm wrth ysbyty Bwthyn Pontypridd ar 28/6/98 - mae croeso i chi ymuno â ni i godi arian at Gronfa'r Midland i ddysgwyr y Gymraeg.
Steffan Webb
Swyddog Datblygu Menter Iaith
Nol i'r dechrau