RYGBI YN LLANHARI


Diwrnodau yn Dwbai
Llanhari'n cynrychioli Cymru

Diwrnod Un - Dydd Llun 6 Ebrill

Diwrnod o hedfan oedd heddiw. Dechreuom am naw o'r gloch o Gaerdydd a hedfan am awr i Amsterdam i ddal y ffleit i Ddwbai. Roedd rhaid inni aros rhyw ddwy awr am yr awyren yn Amsterdam. Yn yr amser yn y maes awyr, cawsom gyfle i gyfarfod â'r chwaraewr darts proffesiynnol - Roland Scholten yn y caffi gyda'r cwpan a oedd newydd ei ennill mewn Pencampwriaeth Ryngwladol. Doedd neb yn cofio'i enw ar y pryd, felly roedd rhaid i un dyn bach fynd ato a gofyn am ei lofnod. A phwy oedd yr un dyn bach yna? Fi, wrth gwrs!!

Roeddem ni yn yr awyr am chwe awr yn ystod y ffleit i Ddwbai. Doedd un neu ddau heb deithio mor bell â hyn o'r blaen, felly roedd yn brofiad newydd iddynt.

Cawsom gyfle i gyfarfod a dod i adnabod tîm a oedd am gynrychioli yr Alban - Kelvinside Academy, Glasgow, ar yr awyren. Roedd tri ohonynt yn eistedd y tu ôl imi.

Profiad gwahanol iawn oedd y glanio ym maes awyr Dwbai. Sioc oedd gweld "duty free" ar y ffordd i mewn i'r ddinas a sioc arall oedd gweld bod y maes awyr yn rafflo BMW a "Rolls Royce" - un bob dydd am fis cyfa yn ystod yr wyl siopa flynyddol oedd yn digwydd yn y ddinas. Piti nad oedd gen i £80 i wario ar un tocyn raffl!!

Tua hanner awr wedi un ar ddeg yn y nos y cawsom gyfle i gyfarfod â'n gwesteiwr am yr wythnos. Cyrhaeddodd Gethin a fi "adref" tua hanner awr wedi hanner nos ac aeth Derick â ni o gwmpas ei dí a dangos yr ystafelloedd gwely, yr ardd gefn, y pwll nofio, y lolfa a'r bar ....... wel, roedd rhaid bod yn gwrtais a phrofi ei sgiliau y tu ôl i'r bar!!

Diwrnod Dau - Dydd Mawrth 7 Ebrill

Yn y bore, cawsom ein codi am naw o'r gloch i fynd i gyfarfod â gweddill y tîm ar gyfer mynd i siopa yn un o farchnadoedd anferth y ddinas. Sioc arall oedd i weld cymaint o ddillad ffasiynol enwog a gemau drudfawr am bris mor rhad. Ar ôl dwy awr o siopa roedd hi'n amser mynd i glwb rygbi yr "Exiles", oedd ar gyrion y ddinas. Pan gyrhaeddom ni, y cae gwreiddiol a welais yn gyntaf, a doedd hwnnw'n ddim byd ond tywod neu glai caled. Doeddwn i ddim yn credu y basai twrnament rhyngwladol yn cael ei gynnal ar ffasiwn gae. Ond yn ffodus, dangosodd rhywun y caeau chwarae newydd gyda gwair perffaith dan draed. Dyma beth oedd caeau da! Roedd y ddau gae wedi'u gwahanu gan eisteddle fawr a lle i eistedd ar bob ochor. Ar ben yr eisteddle, roedd seti cyfforddus â bar a llwyfan dros dro o dan ganopi ar gyfer y wledd o rygbi oedd i ddigwydd yno am yr wythnos ganlynol.

O'r pedwar tîm oedd yn chwarae y noson honno, ni oedd y tîm cyntaf i gyrraedd y clwb. Tra'n bod ni'n chwarae pêl-droed ar un cae, sylweddolom fod pob tîm arall wedi cyrraedd ac wrthi'n cynhesu. Roedd hi'n amlwg eu bod yn cymryd y gemau yn ddifrifol iawn - a ninnau'n dal i chwarae pêl-droed! Ysgol o Zimbabwe oedd ein gwrthwynebwyr cyntaf. "Falcon College" oedd yn cynrychioli eu gwlad. Gyda tua hanner dwsin o'n chwaraewyr, yn cynnwys tri chwaraewr a oedd wedi chwarae dros eu gwlad (Rhodri Morris, Jason Simpson ac Owain Ford) wedi eu gadael gartref oherwydd anafiadau, roedd hyder ein tîm yn isel yn yr ystafell newid. Er hyn, siomedig braidd oedd colli ar ôl gem gweddol dda o 21 pwynt i 12. Dwy gais, un gan y mewnwr, Aled Davies ac un gan ail reng, Dean Fitzgerald. Troswyd un o'r ceisiau gan ein maswr, Rhys Edwards.

Mwy siomedig fyth oedd gweld nad oedd un o'r timoedd eraill wedi aros ar ôl y gemau i sgwrsio a dod i'n nabod ni. Felly, y Cymry oedd yn gorfod diddanu y merched a oedd wedi aros i gyfarfod â'r timau y noson honno a'n hathro, Mr Bennett oedd yn arwain y canu.

Diwrnod Tri - Dydd Mercher 8 Ebrill

Diwrnod ar y traeth heddiw, yn DIMC (Dubai International Marine Club). Cawsom y bore a'r prynhawn i gyfarfod â merched a oedd ar y traeth. Es i a dyn camera y tîm, sef un o'n hail reng ni, i gyfweld y merched yma ar dâp fidio er mwyn i ni eu cofio ar ôl dod 'nôl i Gymru fach, oer a gwlyb! Cyfarfyddom ni â chwaraewyr o Dde'r Affrig, y tim y bydden yn ei chwarae y noson honno. Darganfyddais i mi gyfweld mab Lars Botha, maswr enwog a chwaraeodd i dim cenedlaethol De'r Affrig. Roedd o'n edrych yn reit fach wrth imi edrych i lawr arno yn eistedd yn ceisio dal yr haul! Ond pan ddaru ni gyfarfod ag aelodau'r tîm ar y cae, roedd pob un yn gwisgo pads diogelwch ac yn edrych yn anferth!

Ond yn ôl at y traeth am ychydig. Cawsom gyfle i chwarae gem o bel foli, canwio a "Bodi Syrffio" yn y môr glas a chlir a chyfle gwych i losgi yn yr haul!

Er mai colli o 57 pwynt i 0 oedd ein hanes yn y gêm y noson honno, yn erbyn Grey College, cafodd pawb wers ar sut i chwarae y rygbi newydd, a sylweddolom bod ein gwrthwynebwyr yn gorfforol fwy na ni ac wedi eu trefnu yn well na ni. Roedd ein dull ni o chwarae yn fwy greddfol ond nid oedd hyn yn effeithiol yn erbyn tîm mor robotaidd. Roedd yr elfen o fwynhad yn absennol o'u gêm nhw o'i gymharu â ni. Ond enillom ni barch y timau eraill wrth chwarae ein gêm naturiol, agored a deniadol yn erbyn yr ysgol o Bloemfontein, De'r Affrig. Ond mwy siomedig fyth oedd sylweddoli na fyddai Geraint Jones, aelod o garfan Cymru Dan 18 yn gallu cymeryd mwy o ran yn y twrnament ar ôl gwneud cymaint o argraff yn yr ugain munud yr oedd ar y cae.

Diwrnod Pedwar - Dydd Iau 9 Ebrill

Doedd dim rygbi heddiw, felly cyfle i deithio'r wlad. Aethom lawr i ochr Ddeheuol yr "United Arab Emirates" - tua'r mynyddoedd, i Hatta. Ein gobaith oedd gweld cannoedd o "wadis" - pyllau o ddwr ffres yn y mynyddoedd. Ond yn anffodus, doedd dim dër o gwbl yno oherwydd y tywydd sych. Rhyddhad oedd gweld y cymylau'n cuddio'r haul am y tro cyntaf ers i ni gyrraedd. Roeddem yn gobeithio am gael ychydig o law i'n hatgoffa ni o adre! Roedd tîm Seland Newydd wedi dod allan gyda ni i Hatta i gael barbeciw yno. Cawsom daith bleserus mewn bws! Gan fod y llifogydd wedi difetha'r ffordd, doedd y gyrrwr ddim yn ddigon hyderus i fynd â'r bws i lawr drwy'r tyllau. Felly bu'n rhaid gadael y bws filltiroedd o safle'r barbeciw a theithio mewn "jeep" gyda'r Kiwis o "Auckland Grammar". Bu'n rhaid gadael rhai o'r tîm gyda'r bws gan nad oedd digon o le a dim digon o "jeeps" i'w cael. Noson arall o ganu - y tro hwn yng Nghlwb rygbi y "Dubai Exiles" a phawb wedi dotio arnom ni unwaith eto!

Diwrnod Pump - Dydd Gwener 10 Ebrill

Cawsom fore a phrynhawn rhydd heddiw. Felly roedd pawb yn dewis gwneud pethau ar eu pen eu hunain. Rhai yn mynd i siopa, rhai yn mynd i "jet-sgio". Dewisodd y rhan fwyaf o'r tîm fynd i siopa a chawsom gyfle i gael gêm o golff gyda'n gilydd cyn troi at y clwb i baratoi ar gyfer y gêm y noson honno. Yn erbyn Ysgol Southport, Queensland, Awstralia roedden ni heno ac roedd rhaid iddyn nhw brofi pwynt gan eu bod wedi colli eu gêm flaenorol yn erbyn y Gwyddelod o Ddulyn - St Mary's College. Unwaith eto, colli fu ein hanes ni o 18 pwynt i 0, ond ennill parch y gwrthwynebwyr. Hon oedd ein gêm orau ar y daith. Dylem fod wedi ei hennill, ond colli'r cyfle wrth inni golli'n pennau. Roedd y gêm yn gyflym a chawsom ddigon o'r bêl i ddangos ein doniau na welwyd yn y gemau blaenorol. Gan y Walabis oedd y pac trymaf ond ar adegau roeddent yn cael trafferth i gadw i fyny gyda'r gêm ac fe dorrwyd trwy eu hamddiffyn yn aml ond fe wastraffwyd y cyfle i sgorio.

Yn dilyn ein hymdrech ni, cawsom gyfle i weld gêm orau'r twrnament - Auckland Grammar, Seland Newydd yn erbyn Grey College, De Affrig. Gêm galed, gyflym a chyffrous. Dangoswyd sgiliau o safon uchel gan y ddau dim. Y Kiwis gurodd gyda chic gosb yn y munud olaf a'i gwneud hi'n 16 pwynt i 15. Felly roedd dathlu mawr i fod y noson honno. I helpu'r dathlu, roedd hi'n noson "cari-oci" yn y clwb a bu'n rhaid i ni'r Cymry ddangos sut i ganu a pherfformio. Mi fuom yn canu "Delila", cân Tom Jones, ac ymuno yn y corws gyda "physio" o Benybont yn y gân "Mustang Sally".

Diwrnod Chwech - Dydd Sadwrn 11 Ebrill

Diwrnod arall heb gêm ond pawb yn meddwl am gêm Ddydd Sul - yn erbyn y Kiwis! Bore a phrynhawn yn rhydd eto, felly pawb yn mynd i'r farchnad a siopa unwaith eto! Mi ês i i farchnad stryd a gweld dillad a gemwaith ffasiynol am bris rhatach eto fyth na'r marchnadoedd siopa! Heno oedd noson cinio'r tîm a dalwyd gan gwmni "Harris Pye Gulf" ac roedd pawb yn gwerthfawrogi yr haelioni a ddangoswyd. Roedd hyn yn gyfle da i ddod i adnabod ein gwesteiwyr yn well. Gwisgom ein siwtiau a'n sbectol haul. Cawsom y cinio yn y "country club", drws nesaf i'r clwb rygbi - yn ffodus iawn i ni, gan ein bod yn gallu mynd i lawr i weld y gemau ar ôl y bwyd. Sioc oedd gweld y Gwyddelod yn curo yr Affricâns ac felly roedden ni'n rhagweld dathlu MAWR y noson honno!

Diwrnod Saith - Dydd Sul 12 Ebrill

Aethom ni fel tim i lawr i DIMC eto heddiw am y bore a'r prynhawn. Ond roedd rhaid gadael yn gynnar heddiw gan fod ein gêm yn erbyn Ysgol Ramadeg Auckland, Seland Newydd, yn dechrau am hanner awr wedi tri y prynhawn, yn wahanol i'n gemau eraill a chwaraewyd gyda'r nos er mwyn osgoi'r haul crasboeth. Felly roeddem yn disgwyl llosgi yn y gwres annioddefol.

Mae'n anodd disgrifio safon anhygoel chwarae y "Kiwis", ac yn fy nhyb i byddai pencampwyr ysgolion Prydain yn ei chael hi'n anodd yn erbyn "un o'r timoedd lleiaf eu maint yn Seland Newydd", yn ôl ei hyfforddwr! Dechreuodd ein gwers rygbi gyda'r "Hakka", dawns ryfel draddodiadol y Maori. Cafwyd awr o arddangosfa rygbi ganddynt. Er bod ein sgiliau trafod ni gystal â'u sgiliau nhw, roedd byd o wahaniaeth ymhob agwedd arall o'r gêm rhyngddom. Cadw'r bêl yn fyw oedd eu cryfder, ond pan oeddent yn cael eu gorfodi i mewn i ryc neu sgarmes, roedd y gefnogaeth gan eu cyd chwaraewyr yn gyflym ac yn diogelu'r bel yn effeithiol. Colli'r gêm o 48 pwynt i 3 ond ennill parch y Kiwis am ein dyfalbarhad. Ar ôl y gêm daeth hyfforddwr y tîm o Seland Newydd i'n hystafell newid i drafod y gêm gyda ni ac i gynnig cyngor i ni ar y ffordd ymlaen. Codwyd ein calonnau gan ei edmygedd o'n sgiliau trafod a'n ffitrwydd a'n galluogodd i barhau i amddiffyn hyd y diwedd. A cynghorodd ni i ganolbwyntio ar ddatblygu ein pwer a'n cyflymdra dros yr haf.

Cinio'r twrnament oedd y gweithgaredd heno, lle roedd trefnydd y dathliad yn dewis y pymtheg gorau fel tîm y Cenhedloedd Unedig. Roedd y rhan fwyaf o'r chwaraewyr o Dde Affrica a Seland Newydd - neb o Lanhari, yn anffodus, ond daethom yn agos at ennill y wobr am y tîm a gyfrannodd fwya ar ac oddi ar y cae. Ond y Gwyddelod enillodd o drwch blewyn! Cawsom gyfle euraidd i gymdeithasu gyda phobol o wledydd eraill gyda'r un diddordeb a'r un cariad at yr un gêm, ac efallai dod i adnabod ser y bêl hirgron mewn blynyddoedd i ddod.

Ar ôl cinio mawr yn un o westai moethus, gorau Dubai, aethom i lawr i'r "Irish Village" i ddathlu gyda'r Gwyddelod a'r Albanwyr. Cawsom gymanfa ganu fach arall yno.

Diwrnod wyth - Dydd Llun 13 Ebrill

Diwrnod olaf yn Dwbai a chyfle arall i siopa. Roedd pawb yn defnyddio eu "Dirhams" olaf i brynu anrhegion i bawb 'nôl adref. Y noson olaf aethom lawr i'r "Irish Village" unwaith eto i gael ein pryd o fwyd olaf yn yr U. A. E. Yna, gadael y pentref am naw o'r gloch y nos am y maes awyr. Cyn hedfan o Dwbai i Abu-Dhabi - prif ddinas y wlad, cawsom gyfle i siopa yn stôr Duty Free fwyaf y byd. Roedd hyn yn anhygoel gan ei bod yn gwerthu popeth o "garier bags" i geir modur. Roeddem yn hedfan drwy'r nos yn ôl i Amsterdam. Felly, gwdbei Dwbai!

Diwrnod naw - Dydd Mawrth 14 Ebrill

Roedd heddiw yn ddiwrnod llawn, ychwanegol i'n taith. Cyrraedd Amsterdam am saith o'r gloch y bore a disgwyl tan hanner awr wedi deg am ein ffleit yn ôl i Gaerdydd. Sioc oedd clywed bod ein hawyren heb gyrraedd a bod y ffleit wedi ei chanslo am y dydd oherwydd yr eira a'r tywydd gwael yn Amsterdam. Felly roedd rhaid i Mr Bennet holi am ffordd arall i ni ddod adref. Ar ôl ciwio am dair awr, darganfyddodd bod saith sêt wag ar gael o Frwsel i Gaerdydd . Roeddwn i'n un o'r saith lwcus. Felly i ffwrdd â ni ar yr awyren i Frwsel ac yna hedfan yn ôl adref i Gaerdydd oer a gwlyb - cyrraedd am ddeg o'r gloch y noson honno. Felly, er yr holl siomedigaethau o golli pob gêm, cawsom y fraint o gynrychioli ein gwlad mewn twrnament rhyngwladol, dysgwyd llawer o wersi wrth wylio rhai o dimoedd gorau'r byd yn chwarae a chawsom brofiadau bythgofiadwy mewn gwlad wahanol iawn i Gymru.

Dywedodd y trefnwyr eu bod am estyn gwahoddiad i ni y flwyddyn nesaf hefyd o ganlyniad i'r agwedd a'r ymroddiad a ddangoson ni ar ac oddiar y cae a'n parodrwydd i wrando a dysgu wrth eraill. Y bwriad yw derbyn y gwahoddiad a dychwelyd gyda charfan lawn, wedi dysgu'r gwersi a gawsom eleni er mwyn herio a churo ysgolion gorau'r byd.

Hywel Roberts


Nol i'r dechrau