Mae braint arall wedi dod i'w rhan. Ar y 27ain o Fai, sydd hefyd yn ddiwrnod pen blwydd Lucie,
bydd datganiad o'i gwaith yn cael ei ddarlledu ar Radio 1 ar raglen John Peel. Maent wedi bod yn
Llundain yn recordio yn barod.
Yn y band mae ei brawd Patrick ar y drymiau, Christopher Gibbs sydd yn byw drws nesaf (ei
deulu e sydd berchen y garej), a Jason Blomfield o Goedlai ar y gitars a Lucie ei hunan wrth y piano
ag yn canu, hefyd mae Jennie Gibbs yn helpu yn achlysurol hefo'r Ffliwt.
Maent yn ddiolchgar iawn i Mr a Mrs Gibbs am gael defnyddio'r garej. Mae'r lle wedi ei addasu
yn dda gyda hen seddau ceir ag ati. Dwedodd Angela mam Lucie wrthyf fel y daethont o hyd i hen
garped a oedd wedi cael ei daflu allan ai berchennog yn falch yw roi. Mae Patrick wedi gwneud
gwyrth i'r acwstics, wrth roi peth oedd dros ben i hongian ar y walydd.
Merch o'r Porth yw Angela ac mae ei chymar Vincent yn hannu o'r Barry ac wedi byw yn y Clos
ers pymtheg mlynedd. Brodorion lleol yw Allan a Sheridan Gibbs. Mae Allan yn dysgu yn Ysgol
Gyfun Y Cymmer a Sheridan yn Brifathrawes yn Ysgol Gynradd Penygawsi, Llantrisant. Mae
balchder mawr yn y ddau deulu am eu llwyddiant. Yr Hafod yw enw tí Mr a Mrs Gibbs.
Mae Lucie a Patrick yn gynddysgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail a Ysgol Gyfun
Llanhari, ac hefyd maent wedi cael eu derbyn i goleg yng Nghastell Nedd i astudio cerddoriaeth.
Mae gan Lucie ddiddordebau arall sef arlunio. Soniodd wrthyf fel oedd wedi gwneud hunanbortread
a thri angel yn ei gwarchod ac heb sylweddoli bod wedi gweld wynebau y tri aelod arall o'r grëp,
ond y gerddoriaeth sydd flaenaf. Mae hi yn cyfansoddi'r gerddoriaeth ar geiriau ag yn cyfuno'r ddau.
Cefais hwyl a bendith wrth dreulio orig yn eu cwmni, a gweld fel roeddynt wedi addasu'r garej at
ei anghenion. Hyfryd oedd gweld yr erthygl yn y Golwg bythefnos yn ôl, er nad yw Lucie yn hapus
iawn ar hyn sydd ynddo i gyd, yn un peth roedd yna gamgymeriad yn ei hoed. 19eg fydd hi ar y
dyddiad penodedig ac nid ugain. Maent wedi twistio rhan or ymgom meddai.
Enw'r grwp yw PENDANT ac mae yno bendantrwydd yn eu hymddigiad. Rwyn siwr y bydd yna
ddyfodol disglair i Lucie a Pendant. Pob bendith iddynt.
Tom wrth gwrs oedd un o gyflwynwyr y gyfres gyntaf, ond mae wyneb newydd yn ymuno ag e wrth y Ilyw am yr ail gyfres, sef Non Parry sydd o bosib yn fwya' cyfarwydd fel un rhan o dair o Spice Girls Cymru, Eden. A does dim angen gofyn os ydy Non yn edrych ymlaen at gael cyflwyno'r gyfres newydd!
"Dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy - fydd o'n brilliant! Y peth mwya' od fydd gweithio ar ben fy hun - dwi rhan amla' hefo Emma a Rachael yno gyda fi bob tro! Mae'r dair ohonan ni wedi cyflwyno Noc Noc a rhaglen o Codi'r To gyda'n gilydd ond dyma'r tro cyntaf i fi gyflwyno rhaglen fy hun. Ac mae'n job berffaith i fi achos dwi'n hoffi pob math o gerddoriaeth - wel, pob dim ond heavy metal - a dwi'n licio busnesu ym mywydau pobl!" meddai Non, sy'n dod o Ruddlan ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Yn ystod y gyfres, bydd cyfle i fwynhau llwyth o fandiau gyda fideos gan ANWELEDIG, DIFFINIAD a grëp newydd o ardal Pontypridd COASTER yn rhoi cic i'r rhaglen gyntaf. Hefyd yn ymuno â Tom a Non ar gyfer y cymun sanctaidd cyntaf fydd y pechadurus a'r poptastic ALUN 'PARCHEDIG POP' OWENS o raglen Ram Jam Radio Cymru. Yn refio yn y garej yn yr ail raglen wedyn fydd CERRIG MELYS a'r grwp SLIP o Gaernarfon gydag eitemau hefyd ar safleoedd bandiau o Gymru ar y We a chyfweliad gyda sglefrfyrddiwr gorau Prydain, MATT PRITCHARD.
Naw wythnos o'r sën gorau o'r sîn roc yng Nghymru bob Nos Fercher ar S4C.