Eisteddfod yr Urdd
Pwllheli

Dyma rhai o ganlyniadau'r Eisteddfod

Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

Cyflwyniad Dramatig Bl6 a llai: 2il Ysgol Heol y Celyn. Parti Dawns Bl6 a llai: 2il Ysgol Heol y Celyn. Ymgom 12 - 15 oed: 2il Ysgol Rhydfelen. Unawd Llinynnol 12 - 15 oed: 1af Ciaran Jenkins, Ysgol Gyfun Rhydfelen. Dawns Unigol i Ferched 12 - 15 oed: 3ydd Marged Thomas Ysgol Gyfun Llanhari. Adrodd 15 - 19 oed: 1af Gavin Ashcroft, Ysgol Gyfun Rhydfelen. Unawd Cerdd Dant 15 - 19 oed: 3ydd Gavin Ashcroft. Can Werin 15 - 19 oed: 3ydd Osian Rowlands, Ysgol Gyfun Rhydfelen. Côr Cerdd Dant Bl 10 -13, 2il Ysgol Gyfun Rhydfelen. Côr Merched S.A. Bl 13 ac iau: 2il Ysgol Gyfun Llanhari. Dawns Werin Unigol: 3ydd Gavin Ashcroft. Detholaid Llafar: 1af Ysgol Gyfun Rhydfelen. Côr SATB Bl 13 ac iau: 3ydd Ysgol Gyfun Rhydfelen. Dawns Werin 14 - 25 oed: 3ydd Aelwyd Llantrisant.

PARTI PONTY

Fel rhan o wyl Parti Ponty, fe fydd yr Urdd yn trefnu rhaglen o weithgareddau chwaraeon yn ystod y dydd. Fe fydd hyn yn cynnwys cyrsiau arbennig mewn pêl-droed, tenis, pel fasged, criced, athletau a rygbi. Fe fydd hyfforddwyr o wahanol gyrff llywodraethol y campau yma yn cyd-weithio gyda staff yr Urdd megis Tenis Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Swyddogion Datblygu Chwaraeon Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r Urdd am nifer o flynyddoedd wedi trefnu cyrsiau chwaraeon yn yr ardal ac fe fydd hyn yn gyfle arall i ieuenctid y cymoedd fwynhau ein gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe fydd yn a 14 cwrs i wahanol oedrannau o Bl. 1 a 2 (oed6/7) hyd at Bl 7 a 8 (oedl2-14). Mae'r gwahoddiadau i gymeryd rhan yn hyn yn mynd allan i 8,000 o blant a ieuenctid yr ardal. Bwriad yr Urdd yw rhoi hyfforddiant i dros 500 o blant yn ystod y dydd.

Am fanylion pellach a ffurflenni cais, cysylltwch â Swyddfa'r Urdd, Heol Conwy, Treganna, Caerdydd CF1 9NT Rhif ffon (01222) 236201.

Noson i'r Teulu yn y Rhondda

Fe fydd yr Urdd yn trefnu twrnament Pel Droed 5 bob ochr yn 'Noson i'r Teulu' yng Nghanolfan Hamdden Ystrad ar Mehefin 20. Fe fydd hyn yn un o gyfres o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal ar y noson gyda chydweithrediad CYD a Menter Iaith. Fe fydd yna gwpan a medalau i'r ennillwyr. Dewch i gefnogi'r ëyl a hefyd i weld pwy fydd Manceinion Unedig y Rhondda!

Gig yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr 1998

Fe fydd yr Urdd yn cynnal gig ar Awst 3ydd yng Nghanolfan Hamdden Penybont yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Ogwr. Mae'r gig yma yn cael ei drefnu fel rhan o ddatblygiadau'r Urdd i hybu gweithgareddau i'r ifanc. Yn ogystal â hynny fe fydd hwn yn gyfle i bobl ifanc yr ardal gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn dilyn cyfres o gigs llwyddiannus mae'r Urdd wedi eu trefnu yng nghymoedd y De.Yn perfformio ar y noson fydd Anweledig ac UMMH! Fe berfformiodd Anweledig yng ngig yr Urdd ym Mhontypridd deunaw mis yn ôl. Roedd dros 300 yn bresennol a rydym yn gobeithio y cawn ni yr un ymateb y tro yma. Mae'r band ffynci UMMH! yn fand weddol newydd. Criw o fyfyrwyr Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r rhain, ac maent wedi profi eu poblogrwydd eisioes yng Ngorllewin Cymru.

Pris tocynnau yw £5 (£4 OS BRYNNWCH TOCYN ERBYN MEHEFIN 30) Am mwy o fanylion cysylltwch â Rhodri yn Swyddfa'r Urdd (01222)236201.

Nol i'r dechrau