NEWYDDION YSGOL CREIGIAU

EISTEDDFOD YR URDD

Rydym wedi bod yn ffodus iawn bod saith o blant Creigiau wedi cael y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod sir ac yn mynd i Bwllheli. Pob hwyl iddynt i gyd.

Catherine Schutz am ganu'r ffliwt. Siwan Rhys am ganu'r piano. Anwen Lewis am ganu'r delyn. Steffan Chave-Cox am ganu'r cornet. Aimee Brouton am lefaru i ddysgwyr. (10-12.) Katherine Mullins am lefaru i ddysgwyr. (8-10.) Nicole Dupres am lefaru i ddysgwyr. (dan 8.)

Llongyfarchiadau i'r canlynol am ennill gwobrau yng nghystadlaethau celf a chrefft yr Urdd. (Sir.) Gareth Rosser 1 af am wehyddu. Gareth Rosser argraffu ar ddefnyddiau. Siwan Rhys 1af am wneud pyped. Jonathan Marrington 1 af am argraffu. Joshua Wilby am wneud crochenwaith, Megan Haf Williams 1 af am ffotograffiaeth. Cai Parry- Jones 3ydd am argraffu. Robert Morgan am ffotograffiaeth. Llongyfarchiadau i Megan Haf am ddod yn gyntaf yn y Genedlaethol ac i Robert Morgan am gael ei waith wedi ei arddangos.

NIA YNG NGHAPEL TABERNACL.

Aeth rhai o blant Dosbarth 4 i Gapel y Tabernacl, Efail Isaf, i weld Nia yn perfformio. Cawsant hwyl yn dysgu caneuon a chael cwis. Roeddent yno am awr yng nghwmni Nia ac yn mwynhau pob munud ohono. Roedd hi'n dweud storiau am blant yng ngwledydd tramor.

CANU GYDA CHOR YR HEDDLU.

Fe gafodd Alun Biffin a Gethin Davies eu gwahodd i ganu gyda chôr yr heddlu. Cawsant lawer o hwyl a byddwch yn falch o gael gwybod bod llais yn dal gyda nhw, er bod Alun braidd yn dawel pan ddaeth e nol. Roeddent yn lwcus i gael eu dewis gan bod llawer o fechgyn yng nghôr Ysgol Creigiau.

CWIS LLYFRAU.

Roedd pedwar plentyn (Bethan Pickard, Anwen Lewis, Siwan Rhys a Ffion Canning) a'r eilyddion Catherine Schutz a Lowri Jones wedi cael cyfle arbennig i gynrychioli Ysgol Y Creigiau yn y Cwis Llyfrau eleni. Roedden nhw yn ddigon ffodus i fynd i'r ail rownd. Fe action nhw a thrafod yn dda iawn ond yn anffodus ni fydd trip i Aberystwyth eleni.

DIWRNOD MABOLGAMPAU

Yn yr wythnosau diwethaf mae pobl wedi dod i farcio'r cae ar gyfer y mabolgampau ym mis Mehefin (y 9fed) Croeso i bawb ddod i`n cefnogi ac i gymryd rhan yn ras yr oedolion. Mae'r cae hefyd wedi ei farcio fel cae pel fas ar gyfer y gwersi chwaraeon.

CASTELL CYFARTHFA

Mae Dosbarth 3 yn astudio Bywyd yn Oes Fictoria y tymor hwn. Cawsant amser diddorol ar eu hymweliad ag Amgueddfa Castell Cyfarthfa, ac maent yn edrych ymlaen at gael profi bywyd mewn Ysgol Fictorianaidd ar eu hymweliad â Sain Ffagan yn ddiweddarach yn y tymor.

PÊLRWYD

Chwareodd tîm pêl rwyd Ysgol Creigiau yn erbyn tîm pêl rwyd Ysgol Bryn Deri. Fe chwareon nhw yn dda iawn ac yn lwcus i ni fe enillon nhw 4-2.

EWYLLYS DA.

Derbyniodd Ysgol Creigiau bedwar cerdyn gan bedair ysgol gwahanol, un gan Ysgol Caerffili, un gan Ysgol Heol-y-Celyn, un gan Ysgol Ifor Bach Senghenydd ac un gan Ysgol Castellau. Diolch yn fawr iawn i chi!

YMWELIADAU.

Aeth Dosbarth 1 i'r parc ac i'r garej oherwydd eu thema yw Ffwrdd a Ni. Yn y parc aethon nhw ar y siglen, ar y llithren ac ar y chwyrligwgan! Cawsant llawer o hwyl ar y pethau yno. Yn y garej fe welson nhw geir yn cael eu trwsio a cheir yn dod i nol petrol.

IDDEWIAETH

Daeth Mr Schwartz i`r ysgol i siarad gyda phlant yr Adran Gymraeg a'r Adran Saesneg am Iddewiaeth. Iddew yw Mr Schwartz ac fe ddangosodd i ni siol weddi mae'n gwisgo yn y Synagog a rhoddodd daflenni gwaith i ni. Canodd Mr Schwartz y Shofar ac roedd hi'n anodd cael swn allan ohono. Fe ddysgon ni lawer ac roedd e'n help i ni gyda'n gwaith yn y Dosbarth.


Nol i'r dechrau