DATHLU PRIODAS ARIAN
Llongyfarchiadau i Mike a Jenny MacDonald fydd yn dathlu pum mlynedd ar hugain o briodas ddiwedd mis Gorffennaf.
YN GWELLA'N DDA
Da deall bod Nigel Griffiths, Parc y Coed yn gwella'n raddol, ac yn siriol tu hwnt, ar ôl iddo dderbyn triniaeth fawr ar ei gefn yn ysbyty Casnewydd yn ddiweddar. Mae Ken Sedgebeer yntau hefyd yn sionc ei gam ac yn mwynhau gwell iechyd erbyn hyn. Daeth rhyw dda allan o'r anffawd - car newydd i Pat!
GAIR AM AUR
Cafodd criw bach o blant Llanhari gyfle yn ddiweddar i gystadlu ar y rhaglen gwis 'Gair am Aur'. Fe ddarlledir y rhaglen cyn diwedd y flwyddyn ar S4C - ac ymhlith y cystadleuwyr roedd Elin Haf Williams. A fuon nhw'n llwyddiannus - a enillon nhw arian mawr? Bydd rhaid aros i weld!
CAMP AR Y CAE HOCI

Daeth tîm hoci merched Pontypridd dan 16 oed - yn fuddugol ym mhencampwriaethau Cymru yn ddiweddar. Cynhaliwyd y rowndiau terfynol yn Leominster, ac fe gafwyd nifer o gemau cyffrous iawn. Yn y gêm derfynol, Pontypridd a orfu, o 1 gôl i ddim yn erbyn Penarth - un o sêr disgleiria'r tîm ydy Anna MacDonald. Llongyfarchiadau iddi ar gêm wych! (Llun ar dudalen 14).
Llongyfarchiadau i dim Hoci Pontypridd dan 16 oed am ennill Pencampwriaeth Hoci ieuenctid Cymru a noddwyd gan yr R.A.F. Ar ddydd Sadwrn, 20fed o Fehefin aeth y merched i Leominster am y rowndiau terfynol. Enillon nhw pob gêm gan guro Wrecsam, Casnewydd, Y Drenewydd i gyraedd y rownd derfynol yn erbyn Penarth. Cipion nhw'r teitl gydag un gôl yn yr ail hanner i ddod â'r tlws hardd adre i Bontypridd.
Yn chwarae yn nhîm Pontypridd roedd Ria Male, Charlotte Evans, Anna MacDonald, Mari Davies, Leigh-Ann Pritchard, Laura Prosser, Sarah Evans, Rowenna George, Emily Scudamore, Natalie Hardwicke, Emma Winch, Cerys Jenkins, Charlotte Phillips, Viv Reeves a Vicky Williams.
AMSER I YMLACIO
Mae nifer fawr iawn o blant a phobl ifanc y pentref yn edrych ymlaen at gyfnod o wyliau a joio haeddiannol mae'n siwr, wedi misoedd o chwysu uwch eu llyfrau. Dymuniadau gorau i bob un a fu'n wynebu arholiadau dros y misoedd diwethaf - a gobeithiwn y bydd y marcwyr yn drugarog.
GRADDIO
Llongyfarchiadau i Rachel Edwards, Parc y Fro ar ennill ei gradd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. BARBECIW YSGOL CREIGIAU
Gwahoddir pawb i farbeciw i'r teulu yn Ysgol Creigiau nos Wener, Gorffennaf 17ed.

Talentau'r tîm dan 8 oed yn wynebu'r camera cyn troi i wynebu'r gelyn. Profiad mawr oedd croesi Clawdd Offa i chwaraewyr mor ifanc. Roedd John Llewelyn a Gareth Davies yn falch o'u perfformiad ar ôl gweiddi a dwrdio arnynt drwy fisoedd y gaeaf.