Annwyl ddarllenwyr
Cyfarchion o Batagonia ... neu'n fwy penodol o Calle Brasil, rhif 215, neu'r 'Casa Rosada' fel dw i wedi ei enwi o - y Tí Pinc. Dydy o ddim yn binc iawn, cofiwch chi, ond pan welais i o gyntaf roedd o'n wlyb - ac fel dywedais i wrth bobl cyn dod yma - tydy hi byth yn glawio ym Mhatagonia! Wel, mae'n rhaid fy mod wedi dod â'r tywydd garw efo fi, achos rhyw bedair wythnos yn ôl mi ddaeth y glaw - ac mi roedd o'n law gwlyb! Doedd dim modd mynd allan iddo heb wlychu at y croen o fewn dwy funud. Mi ganslwyd fy ngwersi ym Mhorth Madryn achos roedd y môr yn arw a'r problemau'n waeth yno. Felly es i i'r Gaiman i weithio - taith o ryw hanner awr ar y bws i'r pentre nesaf. Cyrraedd yno a chael llety gan Angharad sy'n byw ac yn gweithio yno. Erbyn y diwrnod canlynol roedd pethau'n waeth, a'r stryd y tu allan yn afon, ond ar ôl gweithio am dipyn roedden ni am gael newid, felly dyma benderfynu tynnu ein sgidiau a'n sannau, rhowlio'n trowsusau i fyny a chroesi'r afon i dí Edith, Oscar a Hector a Sara McDonald, a hynny a wnaethom, gan gyrraedd yr ochr arall yn wlyb ac yn fudr ond yn fuddugoliaethus. Fel mae'n digwydd bod, roedd Oscar wedi bod yn coginio'r bore hwnnw, felly fe gawson ni de efo bara menyn, jam a sgons cartref - goeliech chi fyth 'mod i saith mil o filltiroedd o Gymru!
Y noson ganlynol, roedd cymaint o bryder bod afon Camwy'n mynd i dorri ei glannau nes i rywun fynd i'r 'Dafarn Las' i ofyn am gymorth - ac mae'n debyg i bawb, ac roeddent yn gryn nifer, fynd allan heb oedi dim a chloddio a chodi'r glannau mor uchel â phosibl nes bod yr argyfwng drosodd. Cofiwch chi, pedwar y bore oedd hi - doedd y noson prin wedi cychwyn i drigolion y Dafarn Las!
Aeth rhai dyddiau heibio bellach ac rwyf yn hen gapel Bethel yn y Gaiman yn rhan o'r gynulleidfa yn y Micro Eisteddfod. Disgyblion hín Coleg Camwy sydd wedi gwneud yr holl drefniadau ac rydw i yma i feirniadu'r dawnsio gwerin. Yr unig gymhwyster sy gen i ydy 'mod i'n Gymraes. Ond dyna'r unig gymhwyster sydd ei angen, debyg iawn. Ar hyn o bryd ryden ni'n gwrando ar yr adrodd dan wyth, ac mae'n ddiddorol sylwi ar dras y plant - mae rhai yn amlwg yn Gymry, rhai yn Sbaenwyr, a nifer fawr yn Indiaid brodorol. Wedyn, dyna ganu cynulleidfaol, a phawb yn ymuno i ganu 'Pori mae yr asyn' gyda'i gilydd, efo stumiau, yn Sbaeneg. Mae lliain gwyn o lês a rhosod coch a phinc a melyn ar fwrdd y beirniaid - dydech chi ddim yn cael hyn yng Nghymru, wel ddim yn eisteddfod ysgol Rhydfelen beth bynnag! Ryden ni newydd gael datganiad byr ar delyn dde-Americanaidd, ac mi roedd yn ddiddorol tu hwnt gan ei fod yn canu'r delyn â'i ewinedd ac roedd yr alawon mor anarferol.
Noson hwyr neithiwr! Dw i'n ceisio cynnal nosweithiau cymdeithasol yn fy nhí yn Nhrelew i'r dysgwyr, gan fod y cyfle i ddefnyddio Cymraeg braidd yn brin yma. Yr wythnos ddiwethaf mi gawson ni barti 'canasda' pan ddaeth pawb 'â'i fraich wedi plygu', hynny yw, yn cario tamaid i'w fwyta ac i'w yfed. Yr wythnos yma cawson ni 'asado chorito' - math o farbyciw traddodiadol efo selsig - bwyd da, cwmni difyr a thipyn o ganu Cymraeg - a neb am adael! Pawb yn dal yma tan wedi un, a phan ddyweda i bod nifer ohonyn nhw wedi dod o Rawson, ac yn bobl mewn oed wedi ymddeol, fe gewch chi syniad o oriau'r gymdeithas yma.
Buon ni yn yr Andes dros Galan Mai ar gyfer 'Gëyl o Hwyl' - syniad Hazel Charles Evans, yr athrawes yn Esquel a Threvelin. Roedd y siwrnai yn hudol, achos mi gawson ni deithio drwy lefydd a fu yn enwau ar fap hyd hynny: hir oedd Hirdaith Edwin, ac roedd rhyw naws llonydd i Ddyffryn yr Allorau, ac wedyn braf oedd gweld 'Y Bocs Gin Bach' a'r 'Bocs Gin Mawr' - enwau'n nodi digwyddiadau neu lefydd ar hyd y daith i'r Andes a gymerodd dri mis i'r Gwladfawyr ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ond saith awr i ni.
Mae'r gwersi'n mynd yn go dda, a minnau'n addasu i ofynion dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae gen i ddosbarthiadau dechreuwyr ardderchog yn Nhrelew a Rawson, a siaradwyr naturiol yno hefyd, ac ym Mhorth Madryn. Clydwyn efallai sy'n sefyll allan yno - mae ymhell dros ei bedwar ugain ac yn gyfansoddwr. Mae ei lygaid yn dawnsio wrth siarad efo chi ac mi faswn yn edrych ymlaen at fynd i Fadryn petai ond i'w weld o bob wythnos. Mae pobl yma'n hynod o garedig ac wedi dodrefnu'r tí o'r hyn sydd ganddyn nhw i'w sbario - a phrin iawn yw'r hyn sydd i'w sbario yn y wlad hon.
Mi gawson ni sbri yr wythnos d'wetha yn recordio 'jingls' ar gyfer rhaglen radio newydd. Mae Bili Hughes wedi dechrau rhaglen radio yn y Gaiman - rhaglen ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg, ond â'r gerddoriaeth i gyd yn Gymraeg, ac mae'n darlledu unwaith yr wythnos ar nos Sadwrn. Cafodd Hector Ariel, cerddor lleol, y syniad o gyfansoddi jingls a 'phropaganda' (fel maen nhw'n galw cyhoeddusrwydd!) ar gyfer y rhaglen heb yn wybod i Bili - felly dyna a wnaethom, mewn stiwdio recordio fechan yn nhí Hector a'i deulu. Roedd Bili yn falch iawn, pan ddaeth dros y sioc gyntaf! Hon yw'r ail raglen o'i bath yn y Dyffryn, ac mae'n ddatblygiad cyffrous.
Bûm ym medydd Lisa Hughes wedyn ddydd Sul, digwyddiad pwysig, gan ei bod hi a'i chwaer, Analyn, yn cael eu dwyn i fyny trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog - Cymraeg a Sbaeneg.
Dydd Sadwrn, byddaf yn mynd i Comodoro Rivadavia gydag Angharad o Gaerdydd, a Gabriel, Carlos, Juan a Santiago o'r Gaiman, i ddysgu Cymraeg mewn Sadwrn Siarad. Mae'r gymdeithas Gymraeg yno wedi gofyn am wersi Cymraeg, ond nid yw'n bosibl mynd yno bob wythnos gan ei fod 400 km i ffwrdd! Felly mi fyddwn yn cychwyn tua 5 o'r gloch y bore ac yn dychwelyd ar ôl dysgu drwy'r dydd - rydw i'n edrych ymlaen, er y gwn y bydd yn ddiwrnod blinedig iawn. Mae'r cyfan werth chweil.
A dyma gloi'r llythyr er mwyn ei anfon atoch yn 'Tafod Elái', a dymuno'n dda i chi i gyd, yn enwedig blwyddyn 11 a 13 Ysgol Gyfun Rhydfelen sydd yng nghanol eu harholiadau TGAU a Safon 'A'.
Catrin Morris