Rhifyn 129 Gorffennaf 1998
Daeth stondinau o nifer o fudiadau lleol a chenedlaethol ac roedd tri llwyfan a'r bandstand yn cynnig
dewis eang o gerddoriaeth a hwyl i ddifyrru pawb.
Llongyfarchiadau i dîm Menter Iaith, Radio Cymru a'r Urdd am drefnu gwledd arbennig. Diolch hefyd i'r llu o ysgolion a mudiadau a ddaeth i gymeryd rhan.
Prynwyd y gweithfeydd yn Nantgarw oddi wrth British Airways yn 1991 ac mae nifer y gweithwyr wedi codi o 1,000 chwe mlynedd yn ôl i 1550 gan wneud safle Nantgarw ymhlith y mwyaf sydd gan GE tu allan i'r Unol Daleithiau.
Mae GE yn buddsoddi £21m ymhellach yn Nantgarw i gynnal a chadw ei peiriant jet mwyaf, y GE90, sy'n rhoi pwer i'r awyren Boeing 777, awyren dwy-jet teithiau hir cwmni BA. Yr uned profi peiriannau jet newydd yn Nantgarw yw'r mwyaf o'i fath yn y byd. Mae gwerthiant Cwmni GE yn Nhrefforest wedi cynyddu o $270m yn 1993 i $750m y flwyddyn diwethaf. Ac eleni disgwylir i dros hanner y gwaith ddod o gwmniau awyrennau tramor.
Cawn ddilyn hanes grwp pop yn Ne Ddwyrain Cymru a Llundain yn y sioe gyfoes, liwgar, gyffrous hon sy'n wledd i'r glust a'r llygad ac yn goglais y meddwl.
Ffoniwch 01443 237824 am docynnau.