Y DYSGWR SY'N DYSGU

Tybed faint o ddisgyblion Llanhari sy'n sylweddoli wrth iddynt ymdrechu gyda'u gwyddoniaeth fod eu hathro hefyd wedi bod wrthi yn dysgu ei hunan. Bu Stephen Wilshaw wrthi'n llwyddiannus iawn yn dysgu'r Gymraeg ac mae wedi ennill ei ffordd drwodd i rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni. Pob lwc iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr ar 5ed o Awst yn y ffeinal.

CLWB Y BONT TAITH GERDDED NODDEDIG

Ar ddydd Sadwrn 27ain Mehefin trefnwyd taith gerdded noddedig gan Diwtoriaid Clwb y Bont i godi arian i'r dysgwyr. Cychwynon ni o dafarn Bryn Ffynnon yn Llanwynno am ddau o'r gloch a chyrhaeddom ni Glwb y Bont erbyn pump o'r gloch. Hanner ffordd trwy'r daith arhoson ni yn nhafarn yr Old Bull yn Ynysybwl i gael gorffwys a diod.

Cymrodd tua ugain o bobl ran. Roedd tiwtoriaid, dysgwyr, eu plant a ffrindiau ar y daith. Mwynheuon ni gwmni Brian Davies o'r Ganolfan Hanesyddol ym Mhontypridd. Dywedodd e wrthon ni am leoedd o ddiddordeb hanesyddol ar y ffordd. Aeth a ni ar hyd hen lwybr y pererinion. Ar ddechrau'r daith roedd y tywydd yn ddiflas ond yn ystod y prynhawn newidiodd hi i fod yn well. Erbyn i ni gyrraedd Clwb y Bont roedd hi'n braf. Dim ond Gwion ddaeth heb got! Roedd e'n ddewr iawn!

Gobeithio ein bod ni wedi codi digon o arian i sicrhau parhad y dosbarthiadau yn y Clwb. Diolch i bawb gymerodd ran.

Andrew Richard.

SGWRS I'R DYSGWYR

Meinwen: Beth wna i ynghylch y caffi yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni? Allai ddim disgwyl i mam wneud a hithau yn mynd yn hyn.
Gethin: Roeddwn i'n meddwl i ti ddweud fod dy ffrind yn (Y gwr) mynd i helpu.
Meinwen: Cwsmer yw hi, nid ffrind. Mae yma yn aml ac mae'n siaradus iawn.
Gethin: Beth all fynd o'i le? Dim ond gwneud tê a choginio ychydig o fwyd sydd eisiau.
Meinwen: Dyw e ddim cweit mor rhwydd a hynna, ac fe allai feddwl am filoedd o bethau a allai fynd o'i le.
Gethin: Rwyt ti'n poeni gormod. Bydd yn well na chau'r caffi am wythnos.
Meinwen: Bydd, ond mae gen i deimlad fy mod i'n mynd i ddyfaru.

Yn hwyrach yn y dydd

Meinwen: Helo Melanie. Beth hoffet ti?
Melanie: Dim byd diolch. Wi ddim ond wedi galw i mewn i weld os wyt ti fy angen i wythnos yr Eisteddfod?
Meinwen: Wyt ti'n siwr nad oes ots gen ti helpu mas am gwpwl o ddiwrnodau? Mae'n dipyn o waith.
Melanie: Dim o gwbl. Wi'n edrych ymlaen.
Meinwen: Mae digon o deisennau a phasteiod yn y rhewgell, felly fydd dim rhaid i ti goginio.
Bydd rhaid i ti gyfri'r arian ar ddiwedd y dydd a mynd â fe i'r banc. Wi yn edrych ymlaen am fynd. Diolch yn fawr iti.
Melanie: Wi'n methu deall sut allu di dreulio diwrnod cyfan mewn Eisteddfod.
Meinwen: O mae digon i'w wneud yno. Yn bersonol wi'n hoffi gweld beth sy'n mynd ymlaen yn y pafiliwn. Wi wrth fy modd yn gweld y plant yn cystadlu, y corau a'r cystadleuthau telyn. Roeddwn yn arfer cystadlu fy hun pan oeddwn yn iau.
Melanie: Oeddet ti yn ennill weithiau?
Meinwen: Nag oeddwn, ond roeddwn bob amser yn mwynhau'r wythnos yn fawr iawn. Wi'n treulio tipyn o amser yn yr arddangosfa Celf a Chrefft ac wrth gwrs yn mynd o gwmpas y maes i wario fy arian mewn gwahanol stondinau. Dwi'n hoff iawn o gerfluniau pren a serameg.
Melanie: Gallaf weld hynny yn y caffi
Meinwen: Dyna lle wi'n rhoi y rhan fwyaf ohonynt. Dyw Gethin ddim yn hoff iawn ohonyn nhw.
Melanie: Beth sydd yna i'r plant?
Meinwen: Mae Meithrinfa yno i'r plant lleiaf ac i'r plant hín - wel mae'r cystadleuthau dawnsio yn werth i'w gweld. Mae nhw hefyd wrth eu boddau gyda'r cystadleuthau a'r arddangosfeydd ym Mhabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd Gethin yn mynd â nhw yno gobeithio. Mae'n well gen i yr ochr ddiwylliannol. Wi'n mwynhau fy hun yn cerdded y maes ac yn cwrdd â ffrindiau. Wi'n teimlo fod awyrgylch Gymreig arbennig yno.
Melanie: Wel, mwynhewch chi eich hunain yno. Peidiwch â phoeni am y caffi. Gobeithio bydd y tywydd yn braf i chi.
Meinwen: Galwaf heibio gyda'r allweddi wythnos nesaf. Diolch yn fawr.
Melanie: Hwyl nawr.

Nol i'r dechrau