Llongyfarchiadau i Ceri Treharne a Mari George ar gael eu derbyn i Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Bydd y ddwy yn cael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Pen-y-bont fel graddedigion y Gymraeg. Gobeithio y bydd ffotograffydd y Tafod wedi codi'n ddigon cynnar i fod yn y Pafiliwn am 8.00 fore Llun y Steddfod i dynnu eu lluniau. Wyddon ni ddim eto beth fydd eu 'henwau yng Ngorsedd' ond mae rhyw aderyn bach yn sôn fod caredigion y 'Roof' ym Mhen-y-bont am iddynt gofio amdanynt! O Batagonia
Diolch i Catrin Morris am ei llythyr diddorol o'r Wladfa - gobeithio y bydd yn un o nifer cyn iddi ddychwelyd y gwanwyn nesaf. Mae'n amlwg bod llawer o'i thaid, y diweddar Ambrose Bebb ynddi, yn ei hawydd i deithio a'i dawn i gofnodi'n ddifyr. Mae'n amlwg hefyd ei bod yn mwynhau'r profiad o fyw yn Ne America ac o ddysgu Cymraeg i bobl Patagonia, ac mae'n sicr y bydd yn mwynhau'n well byth a hithau'n gwybod bod ei mam, Mererid yn gwella ar ôl ei llawdriniaeth ddiweddar yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg. Pob dymuniad da i Mererid hithau - dal ati i wella a brysia'n ôl at Ferched y Garth!
Dawnswraig ddawnus
Llongyfarchiadau i Marged Thomas am gyrraedd llwyfan Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli yng nghystadleuaeth y Ddawns Unigol i Ferched 12-15 oed. Deallwn i Marged a'r teulu gael wythnos hyfryd yn Llín a mwynhau eu harhosiad ar fferm Ty'n Llan yn Nhudweiliog.
Priodasau Gorffennaf
Mae tymor y priodasau yn ei anterth a dymunwn yn dda i ddwy o Lantrisant sy'n priodi y mis yma. Ddydd Gwener, y 3ydd o Orffennaf bydd Rebecca John, Tí Ni, Dan y Graig Ave. yn priodi Neil Shearman yng nghapel Castellau. Mae Beci a Neil yn bwriadu mynd i fyw i Bont-y-clun. Yna bydd Lyn Treharne a Mike West yn priodi ar 24 Gorffennaf yng nghapel y Tabernacl yn yr Efail Isaf. Ar ôl yr holl law diweddar gobeithio y bydd yr haul yn gwenu ar y 3ydd a'r 24ain ac y cawn luniau o'r ddwy briodas ar gyfer y rhifyn nesaf o Tafod Elái.
Ysgubor y Mwyndy
Dw i ddim yn arbenigwr ar y llefydd yma, ond gan 'mod i wedi sôn am y Cross Inn yn ddiweddar, gwell cadw'r ddysgl yn wastad a mynd â chi am dro i'r 'Barn' yn y Mwyndy y tro yma, lle cewch bryd da o fwyd gan Huw yn ogystal â'r lluniaeth arall arferol. Dyma gyfle hefyd i ddymuno'n dda i Cefin, sydd wedi cymryd yr awenau yno'n ddiweddar. Mae Cefin yn Gymro Cymraeg o Fanc-y-felin yn sir Gaerfyrddin, ac mae'n cyflogi nifer o gyn-ddisgyblion (a disgyblion presennol) Llanhari i'w helpu i dorri eich syched. Nid dyna'r unig beth a dorrodd Robert Lamb yno'n ddiweddar chwaith yn ôl y sôn, ond gwell imi beidio dweud rhagor, rhag ofn i'm ffynhonnell newyddion sychu'n llwyr! Gyda llaw, llongyfarchiadau i Robert ar y golofn o newyddion difyr o Lanhari sydd wedi bod yn ymddangos yn y Tafod yn ddiweddar.
Cyngor blêr?
Mae'n siwr fod llawer ohonoch wedi gweld y rhaglen 'Week in, Week out' yn ddiweddar am drafferthion ein cyngor druan, ac wedi darganfod pam y mae Llantrisant wedi mynd yn lle mor flêr neu anniben yn ddiweddar. Yn ôl pob sôn mae un tí yn Portreeve Close wedi bod yn aros am y casglwyr sbwriel ers dros bum wythnos!
Cymdeithas Gymraeg Llantrisant
Cafodd y Gymdeithas drip arbennig i Ddinbych y Pysgod / Tenby (chwedl Radio Cymru) ar y 27ain o Fehefin. Trip dan ofal Gwilym Treharne oedd hwn, ac felly aethon ni ar y trên. Ond y tro yma mi gawson ni chwe awr i fwynhau ein hunain yn y dref ac ar y traeth, ac mi fentrodd rhai (wel dau) ohonon ni dros y dër i Ynys Bír. Cwmni da ac ymlacio llwyr - a haul hyd yn oed, i goroni'r diwrnod. Diolch Gwilym. Edrychwn ymlaen yn awr at daith gerdded dan ofal Dilwen Davies.
Llawdriniaeth
Dymunwn yn dda i Eryl Williams sydd wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Gobeithio y byddi'n holliach yn fuan iawn Eryl.
Llongyfarchiadau
Mae hefyd yn dymor y canlyniadau gradd ac mae'n bleser cael llongyfarch Iwan James yn gynnes ar
ennill ei radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe.
Cofiwch roi gwybod os gwyddoch am rywun arall o'r ardal sydd wedi graddio'n ddiweddar.
Yn ystod y misoedd diwethaf bu Ysgol Evan James yn gartref ychwanegol i Gôr Godre'r Garth sy'n egnïol yn paratoi ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Darparwyd creche i blant (ac wyrion!) rhai o'r aelodau.
Diolch o galon i'r criw o wirfoddolwyr o'r côr sy wedi bod yn gofalu amdanynt yn un o ddosbarthiadau'r ysgol ar nos Fawrth a phnawn Sul.
YSGOL EVAN JAMES
CWPAN Y BYD
Eithafwr yn wir yw un aelod gwrywaidd o staff yr ysgol - cwblhawyd ei adroddiadau at rieni yn ystod ei wyliau hanner tymor er mwyn iddo sianelu ei holl egni at ddilyn yr ornest bêl-droed. Fe ddylanwadodd ei ddiddordeb ar weddill y staff - a'r sgwrs yn yr ystafell athrawon oedd nid "Sawl adroddiad wyt ti wedi ei orffen erbyn hyn?" ond "Sut ma' dy dîm yn ei wneud" ar ôl iddo drefnu'r "sweep".
Paratowyd siart wal anhygoel na welwyd ei thebyg ar furiau'r stafell ddosbarth. Diddorol yw nodi hefyd ei fod wedi bod yn arbrofi diodydd o bob gwlad - h.y. i gyd-fynd â'r gwledydd sy'n chwarae gêm y diwrnod hwnnw!
CRICED
Mae Ioan Thomas yn mwynhau hyfforddi'r tîm criced ac fe gawsant gryn lwyddiant yn ystod y tymor - ennill twrnamaint "Wrigleys Soft Ball" Ysgolion Pontypridd a chymeryd rhan mewn arddangosfa griced yn ystod y gêm rhwng Morgannwg a Chaerlyr ym Mharc Ynysangharad. Braint ac anrhydedd i Huw Wilcox, Greg Perrott a Rhys Bowler yw cynrychioli'r ysgol yn nhîm Ysgolion Morgannwg Ganol.
DATHLU YN SAIN FFAGAN
Aeth Mrs Robbins a Mr Owen a dros hanner cant o blant dosbarthiadau 12 a 13 i ymuno ag aelodau eraill o'r Urdd wrth i Sain Ffagan ddathlu hanner can mlwyddiant.
BLAENYDD
Dymuniadau gorau i Lowri Jones, Y Comin, fydd yn Flaenydd i Gerddorfa Ieuenctid Morgannwg
Ganol ar eu taith i Ewrop ym mis Gorffennaf.
Nol i'r dechrau