Aeth bechgyn blwyddyn 6 i Aberystwyth i gystadlu ym mhencampwriaethau traws gwlad yr Urdd. Fe redodd y tîm yn dda iawn mewn cystadleuaeth anodd.
YMADAEL
Mr Richard Godwin yw'r athro sydd y tu ôl i lwyddiant y bechgyn yn yr ysgol - boed yn draws gwlad, rygbi neu bêl-droed. Yn anffodus fe fydd yn symud i Ysgol Ynysboeth ym mis Medi, colled i Heol y Celyn ond fe fydd Ynysboeth ar ei hennill. Pob dymuniad da iddo.
CHWARAEON
Daeth Mark Aizlewood y pêl droediwr adnabyddus i'r ysgol i hyfforddi pêl droed i bump ar hugain o fechgyn. Fe fu'r pêl-rwyd yng nghystadlaethau'r Urdd yn Aberystwyth yn ddiweddar, ar ôl ennill yn eu grwp nhw fe gollodd y merched yn un o'r rowndiau cynderfynol 2 - 3.
CYSTADLEUAETH FARDDONIAETH
Dewiswyd barddoniaeth a ysgrifennwyd gan 26 o blant i gystadleuaeth Barddoniaeth Cosmic Rhondda Cynon Taf. Fe gyhoeddir y llyfryn sy'n cynnwys y penillion ym mis Awst.
EISTEDDFOD YR URDD
Llongyfarchiadau i'r Parti Dawns dan 12 oed a'r plant a gymerodd ran yn y Cyflwyniad Dramatig i ddysgwyr, fe ddaeth y ddwy eitem yma yn ail yn y Genedlaethol.
Y GYNHADLEDD EWROPEAIDD
Bu'r dawnswyr yn perfformio yn Heol y Frenhines, Caerdydd yn ystod deuddydd y gynhadledd, fe fuon nhw hefyd gyda'r côr ym Mhrifysgol Morgannwg yn croesawu'r ieuenctid fel rhan o weithgareddau ieuenctid yn y Gynhadledd Ewropeaidd.
YMDDEOL
Dymuniadau gorau i Mrs Kathy Price sydd wedi gorffen ar ôl salwch. Fe fu hi'n athrawes yn yr ysgol am tua pymtheng mlynedd.
Dymunwn adferiad buan i Mrs Maralyn Tomlinson, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Garth Olwg, yn dilyn triniaeth lawfeddygol yn ddiweddar.
CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON
Trefnwyd dau achlysur llwyddiannus iawn gan y Gymdeithas yn ystod mis Mehefin - sef Ocsiwn, a gynhaliwyd yn neuadd yr ysgol, a Helfa Drysor a gynhaliwyd ar bnawn Sadwrn. Diolch o galon i holl gyfeillion yr ysgol a gyfrannodd mor hael tuag at yr Ocsiwn.
Ar Orffennaf 3 fe gynhelir noson gyda Jac y Do ac ar Orffennaf 18 fe gynhelir Barbeciw. Un o atyniadau'r barbeciw fydd arddangosfa o'u sgiliau gan dim o gwn yr heddlu (Tîm Cwn Heddlu y Weinyddiaeth Amddiffyn).
YMWELIAD
Mwynhaodd holl blant Cyfnod Allweddol 2 ddiwrnod ardderchog ar ymweliad â'r Amgueddfa Brydeinig a'r Imperial War Museum yn ogystal â chael cipolwg ar lecynnau o bwys a diddordeb yn Llundain yn ystod mis Mehefin; hyn fel rhan o waith thema "Yr Ugeinfed Ganrif". Diolch o galon i bron i ugain o rieni a fu'n cynorthwyo.
YMWELWYR
Mwynhaodd plant Blynyddoedd 5 a 6 ymweliad gan "Spectacle Theatre" a'u cynhyrchiad "Wedi'r Haf" yn ddiweddar; tra roedd apêl arbennig i blant Cyfnod Allweddol 1 yn ymweliad Theatr Bypedau Sblot a'u sioe "Y Llygod Esgid".
Pleser arbennig hefyd oedd croesawu ymwelydd o Japan i'r ysgol yn ystod mis Mehefin; treuliodd plant Blwyddyn 6 bnawn diddorol iawn yn trafod a dysgu'n helaeth am Japan.
CELF A CHREFFT
Llongyfarchiadau i'r plant a dderbyniodd dystysgrifau am eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Crefft yr Urdd, yn y Ganolfan Hanesyddol ym Mhontypridd ar Fehefin 29.
SYMUD YMLAEN
Manteisir ar y cyfle i ddymuno'n dda i blant Blwyddyn 6 fydd yn cychwyn ar eu gyrfa yn Rhydfelen ym mis Medi.
Dymunir yn dda hefyd i Mr Robin Hughes fydd yn gadael ei swydd yng Ngarth Olwg ar ddiwedd y tymor. Bu Robin yng Ngarth Olwg ers un mlynedd ar ddeg, a phleser yw diolch iddo am ei wasanaeth a'i ymroddiad i'r ysgol dros y blynyddoedd. Dymunir pob bendith iddo yn y dyfodol.