Croeso twym-galon i bâr bach ifanc sy wedi ymgartrefu yn y pentref, sef Catrin ac Iwan. Merch i Mr a Mrs Clive Rowlands, Caerdydd ydy Catrin, ac mae Iwan yn fab i Mr a Mrs Gwilym Thomas, Cwm Rhymni. I gwmni HTV y mae Catrin yn gweithio, a dymunwn yn dda i Iwan fydd yn cychwyn fel athro yn Ysgol Gyfun y Cymer ym mis Medi. Os am alw i'w gweld, maent yn byw yn 14, Llys Tydfil!
PRIODAS HAF
Llongyfarchiadau cynnes i Simon a Marilyn ar eu priodas yn eglwys hardd St. Brynach, Nanhyfer yn ystod yr haf. Daw Marilyn yn enedigol o Sir Benfro, ac mae hi'n gerddor proffesiynol, bellach yn aelod o gerddorfa Cwmni Opera Cymru. Mae gan Simon hefyd gysylltiadau teuluol â Sir Benfro, a pianydd proffesiynl ydyw ef wrth ei alwedigaeth. Pob llwyddiant iddynt yn eu cartref newydd yn 134, Parc y Fro, Creigiau.
CROESAWYR CREIGIAU
Dyna hyfryd oedd derbyn gwên a chroeso gan lawer o ieuenctid Creigiau wrth gyrraedd cae'r ‘Steddfod Genedlaethol ym Mhencoed eleni. Ymysg y bobol ifanc a ddewiswyd fel tywyswyr oedd Sian Edwards ac Ywain Rhys o'r Creigiau - a buont o gymorth i lawer yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
LLWYDDIANT EISTEDDFODOL
Llongyfarchiadau mawr i Ken Sedgebeer, Parc y Bryn ar ennill y gystadleuaeth agored i ddysgwyr. Ysgrifennu llythyr at gyfaill tramor oedd y gofyniad a daeth Ken yn fuddugol mewn cystadleuaeth arbennig o dda. Efallai y cawn ganiatad Ken i'w gyhoeddi maes o law, er mwyn i ddarllenwyr Tafod Elái ei fwynhau.
TARO'R NODAU CYWIR ETO!
Llongyfarchiadau i Elin Haf Williams ar lwyddo yn ei harholiad piano ym mis Gorffennaf. Dal ati, ac ymlaen at y radd nesa!
CYDYMDEIMLAD
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Karen Wright, Mathew Sebastian a Naiomi, gynt o Barc y Fro, Creigiau, bellach yn byw ym Mhentyrch ers rhai blynyddoedd, ar golli gwr a thad annwyl, mor ddisymwth ac yntau môr ifanc.
FFARWEWLIO Â THEULU SCHUTZ
Mae Sian Schutz a'i theulu yn ffarwelio â Chymru i ymuno gyda'i gðr Yr Athro Bernard Schutz ym Merlin. Peth amser yn ôl penodwyd Bernard yn bennaeth ar y Max Plank Institute for Gravitational Physics, un o ganolfannau pwysicaf y byd am ymchwil mewn Ffiseg. Bu Catherine 11, Annalie 9 yn Ysgol Gynradd Y Creigiau , tra bu Rachael 13, yn Ysgol Gyfun Radyr. `Roedd Sian yn bennaeth adran Cerddoriaeth yn Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach, a mawr oedd ei chyfraniad i gerddorfa a chorau yr ysgol. Mis Medi bydd ganddi swydd rhan amser yn dysgu cerddoriaeth mewn ysgol gynradd ym Merlin. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol
Cantorion Llandaf yng Ngwyl Fawr Aberteifi
Llwyddodd Côr Merched Llandaf o dan arweinyddiaeth Sian Schutz gyrraedd y rownd gyn-derfynnol ym Muxton eleni. Roedd 300 o gorau yn cystadlu yn wreiddiol a dewiswyd 8 i fynd drwodd i Gystadleuaeth Corau Sainsbury ym Mis Tachwedd. Darlledir y gystadleuaeth ar BBC 2 yn yr Hydref.
Is-gorws o Gantorion Llandaf yw Merched Llandaf. Maent wedi llwyddo mewn llawer o cystadlaethau ers 1992, yn cynnwys Limerig ddwy waith, ac Eisteddfod y Glowyr yn 1996.
Mae 30 aelod yng Nghantorion Llandaf ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i gorau mawr eraill. Pwrpas Cantorion Llandaf yw cael canu yn ddi-gyfeiliant lle mae cyfraniad pob unigolyn yn bwysig ac yn fanwl. Yn 1993 yn Limeric, Eire, daeth y côr yn ail mewn cystadleuaeth dda iawn. Blwyddyn yn ddiweddarach cipiwyd y wobr gyntaf. Bu'r cor ar fwy nag un taith i Loegr, ac fe gymeron nhw ran yng Ngðyl Llanelli yn 1994. Enillwyd y Prif Gorawl yn Eisteddfod y Glowyr yn 1996 ac yn 1997 dangoswyd y ffordd i'r Saeson sut i ganu gwaith Elgar yng Ngðyl Elgar yng Nghaerwrangon wrth gipio'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Corau Cymysg a dan 30 o leisiau. Mae'r Côr hefyd wedi cyfrannu'n hael i achosion dyngarol yn yr ardal.
Er bod Sian Schutz yn gadael yr ardal i fynd i Berlin gyda'i theulu, bydd hi'n dychwelyd erbyn Chystadleuaeth Sainsbury. Mae'r Côr yn gobeithio parhau eu gwaith da yn y dyfodol o dan arweinyddiaeth Mrs Liz Phillips , Caerdydd.
Nol i'r dechrau