Llongyfarchiadau i Stephen Wilshaw, athro yn Ysgol Gyfun Llanhari ar ennill Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Bro Ogwr.
BAGLU ‘MLAEN
Trwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol gynradd ystyrid fy mod ymhlith y lleiaf abl o’r disgyblion, ac felly y bu pethau tan fy nhymor olaf un,” meddai Paul Flynn A.S., awdur Baglu Mlaen y diweddaraf yng Nghyfres y Cewri.
Anodd coelio’r fath gyfaddefiad o enau gwleidydd mor alluog a chraff. Mae’r Aelod hynaws hwn yn un o ffigurau mwyaf adnabyddus gwleidyddiaeth Cymru, ac yn feinciwr cefn egniol yn Nhþ’r Cyffredin. Etholwyd ef yn AS Llafur dros Orllewin Casnewydd ym 1987. Daethom i’w adnabod ers blynyddoedd fel ymgyrchwr brwd dros yr achosion sy’n agos at ei galon.
Yn yr hunangofiant difyr hwn down i wybod am ei gefndir tlawd yn Grangetown, Caerdydd ac am ei frwydr barhaus yn erbyn y gwynegon. Darllenwn am yr amrywiol ddigwyddiadau a’i gyrrodd ef yn y pen draw cyn belled â San Steffan. Yno, cawn fwy na chipolwg ganddo ar sawl gwrthdaro rhwng gwleidyddion amlwg a’i gilydd. Trwy’r cyfan, datgelir yn rhyfeddol o onest holl droeon ei yrfa, ynghyd â’r tristwch a’r llawenydd yn ei fywyd personol a theuluol.
Wrth edrych yn ôl gwelaf mai trwy hap a damwain y digwyddodd yr holl bethau pwysig . . . Bu fy mywyd yn siwrnai tuag at ryw ddiniweidrwydd prysur – nid brasgamu na cherdded. Dim byd heblaw baglu ymlaen . . .” Enillwyd rhai brwydrau ac mae llawer eto ar ôl. I’r gad!”
Baglu ’Mlaen (Cyfres y Cewri 18)
Awdur: Paul Flynn AS
Gwasg Gwynedd. £6.95
Sgwrs i'r dysgwyr
Beth sy'n digwydd yn y caffi?
Meinwen: Hai Melanie. Sut aeth pethe yn y caffi wythnos diwethaf ?
Melanie: Prysur iawn a dweud y gwir. Dere mewn i gael gweld. Wi wedi gwneud cwpwl o newidiadau.
Meinwen: Pa fath o newidiadau ?
Melanie: Ges i rhyw `sbring clin' yn y caffi. Mae popeth yn ôl yn ei le ond ychydig yn lanach.
Meinwen: Diolch. Wi fel arfer yn glanhau ar ðyl y banc ym Mis Awst, dyna pam fod y fath olwg ar y lle. Beth arall wyt ti wedi newid ?
Melanie: Wel, beth am baned ac fe ddywedai wrthyt ti.
Meinwen: Fe wnaf fi'r baned. Mae'r gacen siocled yn edrych yn neis, ti sydd wedi bod yn coginio Meinwen ?
Melanie: Ie rysait Mamgu, Mae'n hyfryd , dyna'r drydedd i fi wneud wythnos yma. Mae Mrs Jones a Mrs Hughes wedi bod yma bob dydd wythnos yma am baned a darn o gacen.
Meinwen: Mae'n rhaid ei bod yn dda felly.
Melanie: Wyt ti'n gwybod be’ wi wir wedi mwynhau wythnos yma? Mae'n braf cael mynd mas o'r tþ a chael sgwrs gyda pobl.
Meinwen: Wi'n ddiolchgar iawn i ti am helpu mas ac yn ôl be' wela i rwyt ti wedi bod yn brysur iawn.
Melanie: Soniais i wrth rai o fy ffrindiau fy mod i yma ac fe alwan nhw i mewn.
Meinwen: Mae'n braf bod yn ôl, er i fi fwynhau yr Eisteddfod. Wi'n meddwl fod y cystadlu'n gwella bob blwyddyn a'r safon yn mynd yn uwch. Mae shwd dalent gyda ni yn y wlad yma.
Melanie: Fe gest ti dywydd da beth bynnag.
Meinwen: Rwyt ti wedi sôn am rai newidiadau. Oes rhywbeth arall wedi digwydd heblaw fod cacen siocled ar y fwydlen a fod y caffi'n lanach ?
Melanie: Wel, un o'r bobol a alwodd i mewn oedd fy mrawd yng nghyfraith. Mae'n gweithio i'r cyngor sir, fe sy’n gyfrifol am y ‘prydau ar glud' i'r henoed. Mae'n edrych am rywun yn yr ardal yma i gytundebu i wneud 50 o brydau bwyd am chwe diwrnod o'r wythnos. Fe fydden nhw'n gyfrifol am ddosbarthu'r bwyd i'r henoed, dim ond 50 pryd o fwyd fydd raid i ni eu gwneud.
Meinwen: Ni? 50 pryd o fwyd y dydd?
Melanie: Wnes i ddim dweud y bydden ni yn barod i wneud e, ond mae e eisiau gwybod yfory gan fod ganddo gwsmer arall â diddordeb.
Meinwen: Beth allwn ni goginio? A faint fydden nhw'n ei dalu ?
Melanie: Mae bwydlen yn dod mas bob mis ac mae'n talu tair punt am bryd o gawl, cwrs cyntaf a phwdin. Fydden i wrth fy modd yn aros yma i helpu gyda'r ‘pryd ar glud'! Fyddet ti'n fodlon i mi dy helpu di?
Meinwen: Byddai'n rhaid i mi feddwl am y peth.
Melanie: Mae'r gacen siocled yma'n hyfryd!!!!!!!!!
Nol i'r dechrau