Dwy droed dde
Llongyfarchiadau cynnes i Geraint Frowen o’r Hollies, Pont-y-clun. Mae Geraint wedi cael ei fachu gan Glwb Pêl Droed Everton fel prentis o beldroediwr, ac ymhen dwy flynedd bydd yn mynd yno i chwarae’n llawn-amser. Mae Geraint ar hyn o bryd ym mlwyddyn naw yn Llanhari (neu efallai flwyddyn deg erbyn i hwn ymddangos?) ac mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant. Hwrê! Byddwn yn edrych ymlaen at ei weld yn gwisgo’r crys glas - ac yna’r un coch!
Priodas
Llongyfarchiadau i Eve Smith o Cross Inn ar ei phriodas â Jason Lewis yn ddiweddar. Priododd Eve a Jason ar 25 Gorffennaf yn Eglwys Gatholig Dewi Sant ym Meisgyn. Mae Eve a Jason yn gweithio yn Neuadd y Sir, Caerdydd ac Eve yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llanhari a Jason o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Maent yn byw yn awr yn Chandler’s Reach, Efail Isaf. Pob dymuniad da i’r ddau.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Mari George ar gael ei phenodi’n is-olygydd sgriptiau Pobol y Cwm. Bydd Mari’n gadael cwmni cyfieithu Araul yn Llantrisant ddiwedd Awst. Unrhyw un yn gwybod am gyfieithydd da? (Hysbyseb drws cefn!)
Athrawon newydd
Mae dwy athrawes newydd yn ymuno â staff Ysgol Gymraeg Llantrisant. Manylion y tro nesaf!
Priodas Lyn a Mike
Fel y soniwyd y tro diwethaf, priododd Lyn Treharne a Mike West yn y Tabernacl, Efail Isaf ar 24 Gorffennaf. Cafwyd diwrnod hyfryd o haul yng nghanol glaw Gorffennaf. Pob dymuniad da iddynt yn eu cartref newydd yn yr Efail Isaf.
Croeso i Teilo!
Llongyfarchiadau i Carys a Dean Evans ar enedigaeth eu plentyn cyntaf, Teilo Dyfed ddiwedd Gorffennaf. Ym Mhencoed y mae’r teulu bach yn byw, ond gan fod Carys wedi ei magu yn Llantrisant, mae gen i hawl i’w chynnwys yma! Llongyfarchiadau hefyd i Llinos a Bob Swain ar ddod yn Nain a Thad-cu (ifanc iawn).
Llongyfarchiadau
Roedd nifer o gast Sws am Noson, sef drama gerdd Ysgol Gyfun Llanhari ar gyfer yr Eisteddfod, yn dod o Lantrisant a’r cylch. Roedd y perfformiadau yn wych iawn - llongyfarchiadau i chi i gyd.
Cydymdeimlad
Roedd yn ddrwg iawn gennym glywed bod Emyr Jones, 17 Woodfield Road, Forest Hills, Tonysguboriau wedi colli ei frawd yn ddiweddar. Cydymdeimlwn â’r teulu i gyd.
Newyddion hwyr
A’r colofnydd ar fin ehebu (chwedl Bwrdd yr Iaith) y newyddion at yr Hybarch Olygydd, derbyniwyd yr eitem ganlynol. Nid yw’r naill na’r llall yn derbyn cyfrifoldeb amdani:
Urddasol or what?
Fel y soniwyd y tro diwethaf, derbyniwyd Ceri Trisant yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain fore Llun yr Eisteddfod â holl urddas defodol yr Orsedd honno. Nid mor urddasol, fodd bynnag, oedd ei hymddangosiad yr un prynhawn gyda Chôr Godre’r Garth yng nghystadleuaeth y corau mawr. Hanner sgarff a chrys benthyg at ei phengliniau oedd yn gweddu i’r achlysur hwnnw, yn ôl y sôn. Rhyfedd hefyd - roeddwn i wedi meddwl bod gan adar ‘Y To’ fwy o steil.
Priodas Rebecca a Neil
Priododd Rebecca John a Neil Shearman yng Nghapel Castellau ar 3 Gorffennaf. Mae Rebecca a Neil yn byw ym Mhont-y-clun. Pob dymuniad da iddynt.
Cynhaliwyd cyngerdd haf llwyddiannus yn Ysgol Gyfun Coedylan. Cafwyd amrywiaeth o eitemau i wneud y noson yn un bleserus iawn.
BARBECIW
Ym mis Gorffennaf cynhaliwyd barbeciw blynyddol ym Mharc Ynysybwl. Ar ôl gorfod gohirio unwaith oherwydd y tywydd cafwyd noson fendigedig yn y diwedd. Diolch i bawb a fu'n gyfrifol am wneud y noson yn llwyddiannus. Fe godwyd tua £1,000 tuag at gronfa Cymdeithas Rhieni ag Athrawon.
CROESO
Croeso nol i'r ysgol i Mrs Anne Marie Davies ein Cynorthwywraig Feithrin ar ôl cyfnod mamolaeth a llongyfarchiadau iddi ar enedigaeth merch fach, Lowri Mair.
GADAEL
Dymuniadau gorau i Mrs Jo Morris sydd wedi gorfod ein gadael oherwydd salwch. Mawr fydd ei cholled yn yr ysgol. Dymuniadau gorau hefyd i Mrs Bethan Williams sydd wedi bod gyda ni am dros flwyddyn bellach a phob lwc iddi yn ei swydd newydd yn Ysgol Gymraeg Aberdar. Diolch yn fawr iddi am ei chyfraniad yn yr ysgol yn ystod y cyfnod yma.
Braf oedd gweld un o blant Blwyddyn 4 - Lowri John yn actio rhan y ferch fach yn y rhaglen i blant 'Ding Dong'. Dal ati Lowri! - Goeithiwn weld mwy ohoni ar y sgrîn yn y dyfodol.
Llongyfarchiadau i bobl ifanc yr ardal a fu'n llwyddiannus yn eu haroliadau yr Haf yma a phob lwc i bawb sy'n gadael am y colegau ym mis Medi.
Ar y 10fed o Orffennaf dechreuodd dau fws llawn o gerddorion ifanc brwd ar eu ffordd i Nurtingen, ger Stuttgart yn yr Almaen. Roedd y daith yma wedi ei threfnu fel rhan o ymgyrch gefeillio Rhondda Cynon Taf gyda Nurtingen ac fe deithiodd cerddorfa ieuenctid a band pres yr ardal draw i'r Almaen i berfformio cyngherddau ac i ymweld â'r ardal ac felly cadw cysylltiad rhwng y ddwy ardal yn gryf.
Ar ôl taith o 20 awr fe gyrhaeddon ni Nurtingen yn gynnar ac felly cawsom gyfle i gerdded o amgylch y dref. Mae'n dref dawel - yn enwedig ar ddydd Sadwrn pryd mae popeth yn cau am hanner dydd! Mae yna adeiladau hanesyddol ac mae'r holl ardal mor lan - gwahanol iawn i Bontypridd! Yna roedd yn bryd cwrdd â'r teuluoedd a oedd yn mynd i roi cartref i ni am wythnos, sef aelodau cerddorfa ieuenctid Nurtingen. Roedd hyn yn rhoi ofn i llawer ohonom gan nad oedd y rhan fwyaf ohonom yn siarad gair o Almaeneg! Ond fel ffeindiodd pawb allan, doedd dim angen poeni, roedd y teuluoedd yn garedig iawn ac roedd y croeso a gawsom ni yn arbennig.
Ar y nos Sul fe berfformion ni cyngerdd lwyddianus yn neuadd y dref, ond gan taw noson rownd derfynol Cwpan y Byd oedd hi, roedd rhaid i ni orffen yn brydlon!
Trefnwyd nifer o deithiau; ar y dydd Llun fe aethon ni i Ravensburg, sy wedi gefeillio â Cwm Cynon. Y diwrnod canlynol aethon ni i ðyl flodau yn Plochinen lle chwaraeodd y band pres a'r pumawd chwyth, ond gan ein bod yn rhy ddiog i gerdded o gwmpas welsom ni ddim llawer o flodau! Roedd gan bawb ddiwrnod rhydd ar ddydd Mercher ac felly aeth y rhan fwyaf ohonom ni i siopa yn Stuttgart. Mae'n le gwych i siopa ond am un broblem - mae yna ormod o siopau a dim digon o arian na amser i ymweld a phob un!
Fe drefnodd y gerddorfa Almaeneg rhyw fath o gyngerdd anffurfiol y noson olaf lle roedd y ddau gerddorfa yn chwarae gyda'i gilydd; roedd hwn yn brofiad gan nad oedden ni wedi gweld y gerddoriaeth o'r blaen! Fe chwaraeon ni ganeuon y `Beatles' a rhywbeth arall ac roedd e'n hwyl. Roedd parti wedi ei drefnu wedyn i ni lle roedd digon o ddawnsio a chanu (fel mae'r Cymry yn enwog am wneud ! ).
Daeth y bore olaf ac rwy'n siwr doedd neb eisiau gadael. Roeddem ni wedi gwneud ffrindiau arbennig gyda'r teuluoedd Almaeneg, ac fel dwedodd fy ffrind Almaeneg i, nid oedd chwech diwrnod yn ddigon i weld yr holl ardal yn iawn, na chwaith i ddod i nabod y bobl a oedd mor garedig i ni. Roedd y croeso a gawsom ni yn ardderchog ac rwy'n gobeithio y cawn ni fynd eto yn y dyfodol.
Lowri Mair Jones
Nol i'r dechrau