Mae'n hyfryd gweld Mr Richard Williams nôl yn arwain a hyfforddi'r corau ar ôl cyfnod hir o waeledd, dymunwn bob llwyddiant iddo a’r corau yn y dyfodol.
Llongyfarchiadau mawr i Joanne Thomas unawdydd amlwg iawn yn Nhonyrefail, cafodd hithau ail wobr yn ei chystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr. Llongyfarchiadau hefyd i Helen Prosser am ei chyfraniad fel beirniad yn yr Eisteddfod.
Dymuniadau gorau i Mr Aubrey Tucker ar ei ymddeoliad fel deintydd yn Nhonyrefail ac yn un o frodorion y Ton. Fe wel llawer o honnom ei eisiau er nad oes neb rhy hoff I fynd at y dentydd heb fo rhaid. Bendithion lu iddo.
Mae'n hyfryd ddeall fod Mrs Iris Richards lawer iawn yn well ar ôl cyfnod hir o ofid am eu chyflwr, a da gweld eu bod yn cartrefu yn foddhaol ynghartref Gelliseren. Hyfryd i weld Miss Jean Thomas nol yn ei chartref ag yn gwella ar ôl ei chwymp ar sgwar y Ton rai misoedd yn ôl.
Cydymdeimlad
Wrth i’r rhifyn diwethaf o Tafod Elái fynd i’r wasg daeth y newydd am farwolaeth tad Nerys Snowball a chydymdeimlwn gyda hi a’r teulu yn eu profedigaeth. Trist hefyd oedd clywed am farwolaeth sydyn tad Matthew, Sebastian a Naomi Wright Lon y Fro. Cydymdeimlwn gyda’i blant a’i briod yn eu profedigaeth hwythau.
Halen y Ddaear
Braf fydd gweld wyneb cyfarwydd yn cael ei anrhydeddu ar y rhaglen “Heno” yn ddiweddarach y mis hwn! Bu Marian Wynne yn gyfrifol am Glantaf Isaf ers i’r ysgol ymrannu’n ddwy ryw ddeuddeg mlynedd yn ol ac fel arwydd o werthfawrogiad y staff a’r disgyblion o’i chyfraniad arbennig gwahoddwyd y camerau i’r ysgol ddiwedd y tymor. O fis Medi ymlaen bydd Ysgol Glantaf ar un safle yn Ystum Taf a bydd ysgol newydd Plasmawr yn agor ar safle’r Tyllgoed a disgyblion Pentyrch o hyn allan yn mynychu’r ysgol hon.
Llwyddiant Eisteddfodol
Cyfrannodd nifer o drigolion y pentref unwaith eto eleni at lwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol. Llongyfarchiadau i Gor Merched y Garth a Chor Godre’r Garth ar eu llwyddiant! Braf oedd gweld rhai o’r pentrefwyr yn y rhengoedd! Hyfryd hefyd oedd gweld rhai o’r ieuenctid yn cymryd rhan yn sioe gerdd hynod lwyddiannus Ysgol Llanhari,- “Sws Am Noson”. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn gysylltiedig a’r perfformiad! Yn ystod wythnos yr Eisteddfod cafodd Ifan Glyn gyfle i ddangos ei ddawn mewn cystadlaethau yn y Babell Dechnoleg ac ennill gwobrau am lwyddo i gael Wil i’w wely. Llongyfarchiadau!
I Fyd Gwleidyddiaeth
Llongyfarchiadau i Dyfan Jones, Ffordd Ty’n y Coed ar gael ei enwebu fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.
YSGOL FEITHRIN PENTYRCH
Mae’n braf cael cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i apwyntio arweinyddes newydd i’n Ysgol Feithrin. Bydd Bernadette Rainford, sydd yn byw yn y pentref, yn cyd-weithio gyda Gwyn Jones sydd wedi bod gyda ni ers dwy flynedd bellach. Rwyn siwr byddant yn gwneud tîm llwyddiannus, a’n gobaith ni fydd yw y bydd yr ysgol yn ffynnu o dan eu harweiniad. Mae’r ysgol yn cwrdd bob bore Llun i Iau 9.30 tan 12.00. Bydd Cylch Ti a Fi yn cwrdd bob bore Gwener 10.00 – 11.30 o fis Medi ymlaen. Os yw unrhyw un o ohonoch yn gwybod am deulu ifanc sydd angen ymuno â ni – boed yn deulu Cymraeg neu ddi-Gymraeg, bydd croeso mawr yn eu haros yn Neuadd y Pentref. Os oess gennych ddiddordeb, gellir cysylltu â Bethan ar 892954 am ragor o fanylion.
Pabell Merched y Wawr
Bu nifer o aelodau Cangen y Garth yn gwneud te a chynorthwyo ym mhabelll y mudiad ar faes y brifwyl ym Mro Ogwr. Braf oedd deall fod y babell wedi ennill y wobr i fudiadau gwirfoddol am y babell orau ar y maes.