|
DYSGU CYMRAEG
Mae llyfryn gwerthfawr iawn sy'n rhestru'r holl gyrsiau Cymraeg yn yr ardal wedi ei gyhoeddi gan y Consortiwm Cymraeg i Oedolion. Mae'r canolfannau canlynol yn Nhaf Elái yn darparu dosbarthiadau Cymraeg - Beddau. Pentre'r Eglwys, Efail Isaf, Llanharan, Rhydfelin, Pontypridd, Tonyrefail a Threfforest. Gellir cael rhagor o fanylion a chopi o'r llyfryn "Cyfleoedd Cymraeg 1999/2000" o Swyddfa Addysg Gymunedol Ffôn: - 01443 842008.
|
|