GWELLHAD BUAN

Mis a ddaeth a lot o afiechyd i'r pentre fu Medi. Bu nifer fawr yn yr ysbyty: Val Arnold, Heol y Ffynnon, Asquith Morgan, Penywaun, Audrey Jones, Nant y Felin, Ann Dixey, Heol y Ffynnon, John James, Heol y Ffynnon, Rhydian West, Nant y Felin, Daniel Hardy, Nant y Felin, Sheila Griffiths, Heol y Ffynnon. Brysiwch wella. Gyda'r fath salwch byddai'n dda symud o'r pentre ar frys!


LLWYDDIANT

Llongyfarchiadau i Bethan Eyres, Heol Iscoed a Rhian Mahoney, Heol Tir Coch ar eu llwyddiant. Bydd Bethan yn dechrau ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd a Rhian yng Ngholeg y Drindod.

   Bu dau arall - Gareth Eyres, Heol Iscoed a Lucy Thomas, Heol Dowlais yn llwyddiannus yn eu harholiadau TGAU. Dymuniadau da i chi gyd.


DYRCHAFIAD

Dymuniadau gorau i Christopher Griffiths, Heol y Ffynnon gynt ar ei ddyrchafiad yn bennaeth cyllid gyda'r Link Group yng Nghaerloyw.


TELYN

Llongyfarchiadau i Ffion Rees, Penywaun ar lwyddo mewn arholiad telyn gradd 2 gyda chlod.


CAPEL Y TABERNACL

Mae Teulu Twm wedi ail ddechrau a nifer dda yn y festri bob nos Sul am 6pm. Cawsant wyliau da yn ôl bob sôn (gweler adroddiad Lowri Jones.


Yr Ysgol Sul

Yn ystod yr wythnosau diwetha mae trefn newydd wedi'i osod ar yr Ysgol Sul. Mae'r eglwys yn gobeithio gwneud y defnydd gore o bob dawn ar gyfer y plant. Felly, mae 'na apêl ar i'r plant i gyd, ynghyd ag unrhyw un newydd garai ymuno â nhw fod yn bresennol ar y Sul cyntaf ym mis Medi. Mae'r apêl yn daer a'r

croeso'n fawr.


Pencampwr Golff

Mae'n siwr eich bod chi i gyd ar bige'r drain i glywed pwy oedd yn fuddugol am Gwpan y Tabernacl. Bu cystadlu brwd rhwng y chwaraewyr dawnus ond Geraint Hardy, Nant y Felin yw deiliad y cwpan am eleni. Llongyfarchiadau mawr iddo


Suliau Hydref

Hydref 3 Eirian Rees (Cymun)

Hydref 10 oedfa Ddiolchgarwch

Hydref 17 Parch Ifor Rees, Abertawe

Hydref 24 Emlyn Davies



Rhwng cwsg ag effro fore Sadwrn, ymlwybrodd aelodau o Deulu Twm i gwrdd wrth y bws mini, pawb yn barod erbyn hanner awr wedi saith - wel bron pawb!

   Wedi holl ffysian mam a dad caewyd drws y bws a ffwrdd a ni i wlad y Jimmies!

   Ni basiodd deng munud tan i rai aelodau ddechrau gofyn "pa mor hir eto"? a ninnau m'ond wedi cyrraedd Upper Boat!

   Ar ôl syrffed ar glywed "Greatest hits of  98 a 99" am y canfed tro, cyrhaeddon ni Brifysgol Sterling amser te.

   Roedd y campws yn berffaith i blant ein hoed ni - digon o golff i'r bechgyn a digon o siopau a bechgyn golygus i'r merched.

   Fe lwyddon ni i ymweld â phobman y dymunon ni megis Caeredin, St Andrews, yr Ynys Mull, Dunblane, a chofgolofn William Wallace.

   Caswom nifer o nosweithiau difyr un ai allan mewn bwyty yng nghanol Sterling neu'n herio'r Saeson ar y campws am gêm bel-droed ac wedyn eistedd yn ein fflat yn siarad a rhoi y byd yn ei le tan oriau man y bore.

   Uchafbwynt y trip i mi oedd ymweld â Chaeredin a'r Ynys Mull.

   Ni fuasai'r wythnos wedi bod yn gyflawn heb brofi bwyd yr ardal, felly i ffwrdd yr aethom i siop gig, a phrynu hanner pwys o haggis!

   Blas afiach gyda darnau amheus iawn yn ei ganol. Serch hynny profiad bythgofiadwy.

   Hoffwn i ar ran pawb ddiolch i Catrin, Heulyn ac Eirian am drefnu wythnos arbennig ac wrth gwrs i Tesco Value am ein darparu ni am wythnos gyda siocled a hufen iâ!

   Dim ond un peth sydd i'w ofyn nawr: Ble awn ni flwyddyn nesaf??


Lowri Jones



3


EFAIL ISAF


Gohebydd Lleol: Ann Rees

TAITH TEULU TWM

YR

ALBAN 99

Nesaf >

Nesaf >