Sioe Pentyrch

Bu'r sioe flynyddol eleni yn un llewyrchus iawn. Roedd pryder y llynedd bod llai o gystadlu ac mai hon efallai fydda'r olaf ond deallwn i'r trefnwyr gael eu plesio gan yr ymateb gwych. Llongyfarchiadau i'r teulu Morgan, Alloway, ar eu llwyddiant ysgubol yn cipio nifer helaeth o'r gwobrau


Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn â Carl a Siôn Pope a'r teulu, Heol Penllwyn ar farwolaeth annisgwyl eu tad yn ddiweddar.


Merched Y Wawr

Cafwyd dechrau da i weithgareddau'r flwyddyn a daeth criw lluosog ynghyd i wrando ar Eifion Glyn yn traethu. Yn ei ddull unigryw ei hun llwyddodd i gyfuno'r llon a'r lleddf a rhoi  i ni gipolwg ar ei waith fel newyddiadurwr. Ein llywydd eleni yw Carol Williams, Hendre, Gwyneth Jones Llechfaen yn ysgrifenyddes a Karen Wozencroft yn drysorydd. Cawn gyfle i ystwytho ychydig yn y cyfarfod nesaf felly dewch yn eich denim i ddawnsio llinell yn Festri Gwaelod y Garth ar Hydref 13eg.


Dawn Arbennig

Llongyfarchiadau i Cerian Hughes Maes y Sarn sy'n chwarae pêl rwyd i Glwb y Creigiau ac a oedd yn aelod o'r tîm buddugol a enillodd dlws Twrnament Clybiau Cenedlaethol dan 14 mewn cystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.


Galar

Cydymdeimlwn â Mrs Gwyneth Williams, Perthi Bach, ar golli ei mam, Mrs Jane Eluned Evans, Cefn Bychan. Roedd Mrs Evans wedi symud rai blynyddoedd yn ôl bellach i Bentyrch - i fyw'n nes at Gwyneth, John a'r teulu. Er ei bod yn wreiddiol o Dremadog, roedd wedi treulio rhan o'i hoes yn byw yn Llundain. Roedd wedi mynd am ysbaid at un arall o'i merched yn ardal Llambed pan gafodd ei chipio i ysbyty Glangwili lle bu farw ar Fedi 19.

Gwyl y Gerddi

Llongyfarchwn Don Llewellyn ar ei gamp arbennig yn ennill un o gystadlaethau Gwyl Caerdydd yn ei Blodau Roedd ei ardd eleni eto'n wledd i'r llygad a llwyddodd i dderbyn cyfraniadau oddi wrth y cyhoedd a chyfrannu swm anrhydeddus  i  goffrau Latch.


Clwb Y Dwrlyn

Dechreuodd gweithgareddau'r gaeaf gyda noson o gaws a gwin yn Ysgol y Creigiau  yng nghwmni Huw Aeron enillydd Rhuban Glas dan 25 yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Huw wrth gwrs yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pobol y Cwm gan mai ef sy'n chwarae rhan Darren yn y gyfres.

   Ein llywydd eleni yw Gill Rees Llysycoed, Judith Evans, Maes y Sarn yn ysgrifenyddes a Penri Williams, Hendre yn drysorydd. Edrychwn ymlaen at weithgareddau difyr y misoedd nesaf ac estynnwn groeso i aelodau newydd a chyn gefnogwyr ymuno â ni. Edrychwch allan am fanylion y daith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm ym mis Tachwedd.

Cyfnod Newydd

Mae Tymor yr Hydref yn golygu dechrau newydd mewn sefydliad addysgiadol arall i nifer o'n pobl ifanc. Mentrodd  Cai Parry Jones, Bron Haul, Gwilym Hughes,Dol y Coed, Julie a Gemma Wilson, Bronllwyn, Lee Barcoe, Heol Gam a Stephanie Dyer, Maes y Sarn o Ysgol Y Creigiau i brofi cyffro Ysgol Plasmawr. Llongyfarchwn Heledd a Lowri Morris Troed y Garth, Deri Hughes, Maes y Sarn  Owen Lewis Lon y Fro ac Amy Coombes Pantglas ar ganlyniadau gwych TGAU a dymuno'n dda iddynt wrth iddynt ddychwelyd i Chweched dosbarth Llanhari i barhau a'u hastudiaethau. Daeth eu gyrfa yn y sefydliad arbennig hwnnw i ben i eraill o ieuenctid y pentref a llongyfarchwn hwy'n wresog ar eu llwyddiant yn arholiadau lefel A. Pob hwyl iddynt wrth ledu'u gorwelion! Bydd Catrin Rees yn mynd i astudio'r Gyfraith ym Mryste, Alun Evans, Maes y Sarn i astudio Hanes yn Aberystwyth, Hywel Roberts, Tþ Cnau i ddilyn cwrs Theatr Cerdd a Chyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Zoe Coombes Pantglas i astudio cerdd yn Y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.


Mynd a Dod

Braf yw gweld Angharad Rees, Llysycoed  nôl gartref ar ôl bod yn teithio'r byd Dymunwn yn dda iddi wrth iddi ddechrau ar ei gyrfa gyfreithiol gyda chwmni yng Nghaerdydd.

   Dymunwn bob hwyl hefyd i Daniel Rochford, Maes y Sarn wrth iddo ef adael ddechrau Hydref am Ghana lle bydd yn gweithio ar brosiectau gwirfoddol diddorol.


Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Rhodri a Sharron Jones ar enedigaeth Fflur Gwenhwyfar yng Ngenefa yn ddiweddar. Mae Elenid Jones wedi dwli ar yr wyres fach gyntaf a fu hi fawr o dro cyn teithio i'r Swistir i ymweld!


PENTYRCH


Gohebydd Lleol: Eleri Jones


12

65 Maes y Sarn

Pentyrch

Caerdydd


Annwyl Ffrindiau,

Hoffwn ddiolch o galon i ddarllenwyr Tafod Elai, ffrindiau a'm cydweithwyr yn y BBC am eu nawdd ariannol i'm galluogi i ymuno ag ymgyrch Raleigh Rhyngwladol yn Ghana.

   Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis i dderbyn un o wobrau'r Mileniwm gan Raleigh Rhyngwladol a bydd hyn yn golygu taith o dri mis, yn gadael ar ddechrau mis Hydref, i Ghana i weithio ochr yn ochr a'r bobl leol ar wahanol brosiectau ac yna wedi dychwelyd bod yn gysylltiedig a phrosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn ardal Caerdydd.

  Er bod Raleigh wedi derbyn arian oddi wrth Comisiwn y Mileniwm mae'n rhaid i bob Anturiwr godi £575 tuag at y fenter.

   Felly diolch eto i bawb sy wedi cyfrannu eisoes, ac os oes rhywun a hoffai gyfrannu yna mae'r coffrau dal ar agor!


Dymuniadau gorau

Daniel Rochford.

Nesaf >

Nesaf >