ARFERION CYFRI


Annwyl Olygydd

Mae'r iaith Gymraeg yn cynnwys amrywiaeth eang o eiriau rhif. Er enghraifft yr un rhif yw "deunaw" ac "un deg wyth" a'r un yw "cant namyn un" a "naw deg naw".

   Ceir hefyd arferion cyfri amrywiol, megis dulliau arbennig wrth gyfri pysgod neu lechi. Gwerthid mecryll wrth y "bwrw", sef tri physgodyn, a cheir "mwrw" o lechi, sef tair llechen. Sonnir hefyd am yr arferiad o gyfri defaid fesul saith.

   Byddai'n falch iawn gennyf glywed gan eich darllenwyr am enghreifftiau o ddefnydd anarferol o eiriau rhif. Gallai'r defnydd fod yn gyfoes neu wedi hen ddarfod o'r tir, yn ddefnydd mewn ardal arbennig neu yn ehangach.

   Gellir anfon manylion ataf, os gwelwch yn dda, yn yr Ysgol Addysg, Safle'r Normal, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2PX.

Yn gywir

Dr H Gareth Ff Roberts

Pennaeth yr Ysgol Addysg


PONTYPRIDD


Gohebwyr Lleol:

Delyth Jones a Jayne Rees


16

Newyddion Pontypridd.

Dymuniadau gorau i Bethan,Alun,Osian a Mirain Williams yn eu cartref newydd yn Heol Tyfica,Pontypridd.


Cor Meibion Pontypridd

Dymuniadau gorau i'r côr sy'n mynd ar daith i'r Unol Daleithiau o Efrog Newydd i Chicago i San Francisco.


Newyddion Pont Siôn Norton

Bwyta'n Iach

Mae siop ffrwythau wedi agor yn yr ysgol er mwyn annog y plant i brynu ffrwyth i fwyta amser egwyl. Blwyddyn 6 sy'n gyfrifol am y siop ac mae'r ffrwythau yn cael eu harchebu o siop 'Appletree' yn Ynysybwl. Mae'r perchennog yn dadcu i Stephanie Randal, un o ddisgyblion Blwyddyn 6.


Croeso Nôl

Croeso nôl i Tracey Bassett, ein gweinyddes feithrin ar ôl iddi dderbyn llawdriniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.


Gwellhad Buan

Dymunwn wellhad buan a llwyr i Ann Marie Davies, gweinyddes feithrin, a Kath Morris, cynorthwywraig athrawon, sy'n dioddef o salwch ac yn absennol o'r ysgol ers rhai wythnosau.


Techniquest

Bu disgyblion Blwyddyn 2 yn ymweld â Techniquest yn ystod Mis Medi i ddysgu mwy am 'Y Corff' o dan y thema 'Ni Ein Hunain'.


Cyfrifiadur Newydd i'r Ysgol

Diolch i rieni a ffrindiau'r ysgol am eu hymdrech i gasglu tocynnau Tesco. Llwyddwyd i gasglu digon unwaith eto i gael cyfrifiadur PC newydd. Fe aeth dau o ddisgyblion Blwyddyn 6 gyda'u hathro, Mr. Alun Williams, i dderbyn y cyfrifiadur newydd oddi wrth gwmni Tesco. Cyflwynwyd y cyfrifiadur i'r ysgol gan Kim Howells.


Trip Llangrannog

Bydd criw mawr o blant Blwyddyn 6 a rhai o'r athrawon yn treulio penwythnos yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog o Hydref 1af - 3ydd.


Pêl-droed

Daeth swyddog pêl-droed y gymuned i'r ysgol yn ystod Mis Medi i hyfforddi plant Blwyddyn 5 a 6 mewn sgiliau trafod pêl-droed.


Bedydd

Bedyddiwyd Arwel a Joseph Brown, meibion Delyth a Peter Terry-Brown yng Nghapel Sardis, Ddydd Sul, Medi 19eg. Roedd Delyth yn athrawes yn Ysgol Pont Siôn Norton hyd at yn ddiweddar.



Ysgol Evan James.

Pob hwyl i'r criw o blant sy'n mynd i Langrannog am benwythnos y mis yma.


Rygbi

Mae 6 o fois yr ysgol yng ngharfan rygbi ysgolion ardal Pontypridd.

Curodd tîm yr ysgol  Ysgol Castellau 15-5 yn ddiweddar.


Grass  Roots.

Ffilmiwyd Dosbarth 10 tra ar ymweliad a Chanolfan Amgylchedd Cilfynydd. Gwelwyd nhw ar raglen HTV Grass Roots mis diwethaf.


Croeso i Nia Llwyd o Benllyn atom am ddau dymor yn ystod cyfnod mamolaeth Anwen Robbins.


Cydymdeimlad

Estynnwn ein cydymdeimlad a Mike Watkins,Kate aLucy ar farwolaeth Lynne. Yn ogystal â bod yn un o'n rhieni bu Lynne yn gweithio yng nghegin yr ysgol am sawl blwyddyn.

YSGOL

HEOL Y CELYN


CROESAWU A FFARWELIO

Rhown groeso i ddau aelod newydd o'r staff sef Mr Christian Coole a Mr Aled Thomas a diolch i Mrs Helen East a Mrs Jane Newby am eu cyfraniad i'r ysgol.


CARTREFI BARNARDO

Fe fu'r plant yn brysur iawn yn ddiweddar yn casglu arian tuag at gartrefi plant Barnado - ac mewn gwasanaeth arbennig ym mis Medi cyflwynwyd siec o £840 i Mrs L. Waite.


ADRAN ILAN

Mae Adran yr Urdd yr ysgol wedi dechrau cyfarfod ac fe fydd y plant yn mwynhau gwahanol weithgareddau bob pythefnos.


LLANGRANNOG

Penwythnos cyntaf mis Hydref fe fydd deunaw o blant yr Adran Gymraeg yn mwynhau difyrrwch Llangrannog.

Nesaf >

Nesaf >