YSGOL GYMRAEG GARTH OLWG

TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS

Gohebydd Lleol: Helen Jones

DATHLU'R CYNHAEAF
Bu cyfnod y cynhaeaf, eto eleni, yn gyfnod prysur. Fe gynhaliwyd dau wasanaeth yn yr ysgol - siaradwr gwadd eleni oedd y Parch Milton Jenkins o Gaerffili. Yn ogystal, cynhaliwyd pump ymweliad cymunedol - un i Dþ Illtyd i gwrdd â gweithwyr Age Concern gan blant blwyddyn 1 a 2; un i gartre'r henoed ar waelod safle Garth Olwg gan blant Blwyddyn 2 a 3; un i gartre Penrhos yn Llanilltud Faerdre gan blant Blwyddyn 3 a 4; un gan blant blwyddyn 6 i Ysgol Tþ Coch. Yn ogystal fe fu ymweliadau dros dri phrynhawn gan blant Blwyddyn 5 i Ward 10 - sef Ward y Plant yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg. Codwyd arian tuag at "Wheels Appeal" y Groes Goch. Croesawyd Non Williams, o'r Groes Goch i'r ysgol i sgwrsio â'r plant.

TRAWS GWLAD
Llongyfarchiadau i blant Garth Olwg ar eu hymdrechion glew yn rasus trawsgwlad yr Urdd - yn arbennig Rachel Perry o Flwyddyn 5 ddaeth yn bedwaredd; Carys Johnson blwyddyn 4 ddaeth yn seithfed a Katie Warman o Flwyddyn 6 ddaeth yn ddegfed; llongyfarchiadau'n wir, o ystyried fod ar draws naw deg o redwyr ymhob ras.

YMWELIADAU ADDYSGOL
Buddiol a diddorol iawn fu ymweliad plant Derbyn/Blwyddyn

Tim rygbi Ysgol Garth Olwg gyda Chwpan Rygbi'r Byd

1 a Blwyddyn1/Blwyddyn 2 i'r Fferm Gymunedol, Greenmeadow yng Nghwmbran. Yn yr un modd, ymweliad plant Blwyddyn 3 / 4 i safle'r gwaith dwr yng Nghilfynydd. Yng nghanol mis Tachwedd, fe fydd un o ddosbarthiadau Cyfnod Allweddol 2 yn treulio amser ar ymweliad gwyddonol i Ganolfan Glyncornel yn y Rhondda.

YMWELWYR
Diddorol iawn oedd ymweliad Capten Maggie Hines o Fyddin yr Iachawdwriaeth i'r ysgol i siarad efo plant Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 am waith Byddin yr Iachawdwriaeth.

TÂN GWYLLT
Yn dilyn llwyddiant aruthrol i Sioe Tan Gwyllt ar gae'r ysgol llynnedd, mae'r Gymdeithas Rhieni a Athrawon wedi trefnu sioe eto eleni ar Dachwedd 5. Cysyllltwch a'r ysgol (202585) am docynnau.

ARDDANGOSFA O WAITH ARLUNWYR LLEOL
Llongyfarchiadau i blant yr ysgol, y bu eu gwaith crefft mewn arddangosfa gan arlunwyr lleol yn Neuadd y Pentref, Efail Isaf ar ddiwedd Hydref.




3