www.tafelai.u-net.com


Rhagfyr 1999

Rhif  143

Pris 25c

Nadolig Llawen

a

Blwyddyn Newydd Dda

tafod elái

ER GWAETHAF PAWB A PHOPETH


Ydy, mae'n droad y ganrif, yn droad y fileniwm ac mae'n amser dathlu Gðyl y Nadolig.  Gyda gwyliau hirach na'r arfer mae'n gyfle i fwynhau ac i wledda.

   Mae hefyd yn amser i baratoi ar gyfer dyfodol yr iaith a'n diwylliant yn yr ardal. Mae cefnogaeth o bob cwr i'r iaith Gymraeg erbyn hyn ac mae'n gyfle arbennig i bawb i ddefnyddio'r iaith ar bob achlysur posib, gan, os oes raid, ddefnyddio ein holl hawliau i fynnu fod yr iaith yn cael lle amlwg yn ein bywyd ac  ym mywyd y fro. Mae'n wyrth ein bod yma o hyd.

   Awn ati i ddathlu ein diwylliant yn y Mileniwm newydd.

Y Nadolig

Celyn a thelyn a thân - ar aelwyd,

      A charoli diddan,

  A'r hen fyd i gyd yn gân

  O achos y Mab bychan.


Robert Owen


BYG Y MILENIWM YN TARO DEG

Catrin Dafydd ac Osian Llywelyn o griw sioe buddugol Ysgol Rhydfelen gyda'r beirniad John Pierce Jones yn yr Wyl Ddrama

Do, fe darodd Byg y Mileniwm Gðyl Ddrama Tafod Elái eleni - ac hynny mewn mwy nag un drama. Cawsom effaith y byg ar Amgueddfa Sain Ffagan ac ar  fywyd yn Nhregaron. 

   Roedd yn Ðyl o ddramau difrifol a doniol, difyr a llon gyda chynulleidfaoedd brwd yn llenwi Neuadd Dowlais ar y dair noson.

   Cawsom feirniadaeth adeiladol, diddorol a chynhwysfawr gan John Pierce Jones ac roedd yn amlwg fod gwaith a dychymyg wedi mynd i mewn i'r cynhyrchiadau.

    Diolch i bawb a gyfrannodd i lwyddiant yr Ðyl ac yn arbennig i Colin Williams am drefnu gðyl gyfeillgar a graenus ar ein cyfer.

Logo Sioe

Ysgol Gyfun Rhydfelen

LANSIO LLYFRAU NEWYDD


Bydd dau lyfr yn y gyfres Hwylio Mlaen yn cael eu lansio yng Nghlwb y Bont ar nos Iau, 9ed Rhagfyr am 8.00pm. Y ddau lyfr gan Wasg y Lolfa yw:

Mynd am Dro gan Dyfed Elis-Gruffydd

Y Gymraeg Ddoe a Heddiw gan Cennard Davies.

   Croeso i bawb ddod i'r lansiad gyda disgo a gwin.