|
|
|
|
|
|
DARNAU'N DISGYN I'W LLE Mae'r profiad o wnïo a gweu tapestri'r Mileniwm wedi bod yn werthfawr i blant Ysgol Gwaelod-y-Garth.
"Roedd y chwedeg o blant yn gyffro i gyd pan welon nhw'r cynnyrch gorffenedig ac yn synnu eu bod wedi cwpla'r gwaith mewn cyn lleied o amser-tair wythnos a hanner," meddai Sara Godfrey a brynodd y defnydd a chynllunio'r tapestri.
"Roedd y plant yn falch iawn," meddai. "Roedden nhw wrth eu bodd yn gwnïo a gweu oherwydd dyn nhw ddim yn cael cyfle i wneud hyn fel arfer yn yr ysgol."
Chwaraeodd 40 o oedolion eu rhan yn y prosiect, gan gynnwys rhieni, pobl leol, athrawon, athrawon cynorthwyol, y gofalwr, y gogyddes, a'r menywod cinio. Roedd June Madden a Cissy Morrow o Georgetown yn weithgar.
Thema'r tapestri yw pentre' Gwaelod-y-Garth ac mae'n cynnwys y mynydd, Castell Coch, rhes o fythynnod, yr ysgol, y draphont a dyn y fferi.
Diolch i bawb am eu gwaith caled.
MARCIAU LLAWN Llongyfarchiadau i Ann Williams, Judith Gough a Jean Lewis ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiad arolwg ardderchog..
Yn ôl yr arolygwyr, doedd dim "mannau gwan" o gwbwl yng ngweithgareddau Cylch Meithrin Gwaelod-y-Garth. Roedd yr adroddiad yn dweud: a. Fod y plant yn hyderus b. Fod y plant yn dangos parch at ei gilydd ac at y staff c. Eu bod yn gwrtais wrth fwyta
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
ch. Eu bod yn frwdfrydig wrth ymateb i weithgareddau ieithyddol, creadigol a chorfforol.
Anne Williams, yr arweinydd, a Judith Gough, yr arweinydd cynorthwyol, sefydlodd y Cylch ddeng mlynedd yn ôl.
YSGOL FEITHRIN FFYNNON TAF Mae Heather Davies-Rollinson, cyn-arweinydd Ysgol Feithrin Ffynnon Taf, wedi ei phenodi'n Swyddog Datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin yn ardal Rhondda Cynon Taf ac mae Julia Rowe, ei chynorthwy-ydd, newydd ymddeol.
"Mae'r ddwy wedi defnyddio eu sgiliau i sicrhau fod yr ysgol feithrin yn hapus a llwyddiannus," meddai Joy Johns, yr ysgrifenyddes, sy'n byw yn Nhongwynlais. "Rwy'n siwr fod rhieni'r ardal yn ddiolchgar iddyn nhw am roi cychwyn da i addysg eu plant."
Wrth inni fynd i'r Wasg, roedd y Pwyllgor yn paratoi rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer y ddwy swydd newydd.
MARW IVOR MORRIS Yn dawel yng Nghartre' Nyrsio Dyffryn Ffrwd, Nantgarw, fe fu farw Ivor James Morris (George
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Wimpey), gðr y diweddar Phyllis, tad Patricia, Robert ac Anthony. Roedd y gwasanaeth yng Nghapel Gorffwys Basil Jenkins, Trefforest, a'r traddodiant yn Amlosgfa Glyntaf, Pontypridd.
PREGETHWR NEWYDD? Roedd cynulleidfa fawr yng Nghapel Bethlehem ar Dachwedd 21 pan bregethodd y Parchedig Gareth Rowlands sy' wedi mynegi diddordeb mewn bod yn weinidog newydd.
"Mae'n dod o Lan Ffestiniog nid Blaenau Ffestiniog," meddai Rhodri Gwyn Jones, yr ysgrifennydd. "Mae 'na wahaniaeth.
"Fe aeth i Ysgol y Moelwyn a phan o'n ni yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn chwarae yno, roedd ein pengliniau ni'n rhacs oherwydd roedden ni'n chwarae ar gae graean coch."
Yn y cyfamser, rydym yn deall fod y Gweinidog, y Parchedig Ddoctor T J Davies, yn gwella.
MARW BRENDA CUMMINGS Gartre' ym Mhontnewydd, Pencoed, fe fu farw Brenda Cummings , gynt o Dþ Rhiw, Ffynnon Taf, mam Marc a Dean. Roedd y gwasanaeth a'r traddodiant yn Amlosgfa Llangrallo, Penybont.
|
|
|
|
|
|