|
DIGWYDDIADAU CAPEL BETHLEHEM, Gwaelod-y-Garth, 10.30am oni nodir yn wahanol. Rhagfyr 5: Gweinidog a Chymun; Rhagfyr 12: Ymweld â chartrefi'r henoed; Rhagfyr 19: Oedfa Nadolig y Plant am 5pm; Rhagfyr 25: Oedfa yng ngofal y Gweinidog am 9am; Rhagfyr 26: Plygain am 5pm.
CYLCH TI A FI, Ffynnon Taf: bob prynhawn Mawrth yn ystod y tymor, Neuadd Pentre' Ffynnon Taf, 1.30-3pm. Manylion oddi wrth Heather Rollinson-Davies, 01222 811582.
CYLCH MEITHRIN Gwaelod-y-Garth, 9-3.15, Festri Capel Bethlehem, Gwaelod-y-Garth.
CYMDEITHAS ARDDWROL Ffynnon Taf a'r Cylch: dydd Mawrth cynta'r mis, Clwb Cyn-Aelodau'r Lluoedd Arfog, Glan-y-Llyn. Manylion oddi wrth Mrs Toghill, 01222 810241.
DAWNSIO DILYNOL MODERN: bob nos Sadwrn, Neuadd y Pentre', Ffynnon Taf, 7.45-10.15pm. Manylion: 01222 561991. Bob nos Fercher, Neuadd y Pentre', Gwaelod-y-Garth, 7.30pm.
YSGOL GWAELOD-Y-GARTH: Rhagfyr 5: Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yn canu carolau. Ymgynnull ym maes parcio Canolfan Arddio Caerffili am 2.45pm. Mwy o fanylion oddi wrth Catrin Redknap ar 01222 843921.
Rhagfyr 8, Cyngerdd Nadolig, Capel Bethlehem, 1.30pm, 6.30pm; Rhagfyr 9, Cyngerdd Nadolig, Capel Bethlehem, 6.30pm.
Rhagfyr 17: diwedd tymor. Ionawr 4: diwrnod hyfforddiant-mewn-swydd i'r athrawon. Ionawr 5: dechrau tymor i'r plant.
WEIGHT WATCHERS: bob nos Iau, Neuadd Pentre' Ffynnon Taf, 6pm. Mwy o fanylion: 0345 123000.
|
|